Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i aelwydydd a wahoddwyd i gymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pam ein bod yn cynnal yr arolwg?

Mae'r arolwg hwn yn gyfle i bobl Cymru helpu i lunio'r camau gweithredu a gymerwn. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i helpu i ddatblygu polisïau a phenderfynu sut y caiff gwasanaethau eu darparu. Drwy gymryd rhan, byddwch yn ein helpu i ddeall anghenion pobl yng Nghymru ac i wneud yn siŵr bod arian yn cael ei wario yn y mannau cywir ac yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Caiff yr arolwg hwn ei gynnal gan Verian (Kantar Public gynt) a Beaufort Research ar ran Llywodraeth Cymru, Chwaraeon CymruCyfoeth Naturiol Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae'r arolwg yn rhoi sylw i ystod eang o bynciau fel:

  • iechyd a'r GIG
  • gwasanaethau cynghorau lleol a'ch ardal leol
  • tai
  • yr amgylchedd
  • chwaraeon a'r celfyddydau

Llythyr yr arolwg cenedlaethol

Os yw eich cyfeiriad wedi'i ddewis ar gyfer yr arolwg, byddwn wedi anfon y llythyr a'r daflen ganlynol atoch. Efallai y byddwch hefyd yn derbyn llythyr cyflwyniad gan y tîm cyfweliadau yn y maes.

Dogfennau

Llythyr cychwynnol (2024) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 654 KB

PDF
654 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Taflen gychwynnol (2024) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 625 KB

PDF
625 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Llythyr cyflwyno (2024) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 651 KB

PDF
651 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Dyluniad yr arolwg

Mae rhan gyntaf yr arolwg yn para tua 30 munud dros y ffôn neu yng nghartref y cyfranogwr. Yna ceir adran ar-lein sy'n cymryd tua 15 munud. Os nad yw'r person sy'n cymryd rhan yn defnyddio'r rhyngrwyd, gellir gwneud yr adran hon dros y ffôn.

Caiff aelwydydd eu dewis ar hap o restr y Post Brenhinol o’r holl gyfeiriadau yng Nghymru, sydd ar gael i’r cyhoedd. Yna, rydym yn ysgrifennu at yr aelwydydd dethol gyda chyfarwyddiadau ar sut y gallant roi eu rhif ffôn i ni. Os na fyddwn yn clywed nôl gan aelwyd, byddwn weithiau yn ymweld i drefnu cyfweliad.

Bydd un o’n cyfwelwyr yn dewis un person o’r aelwyd ar hap, sy’n 16 oed a throsodd, i wneud yr arolwg.

Os oes angen eich help ar ffrind neu berthynas i gymryd rhan yn yr arolwg, neu os oes angen help arnoch i gymryd rhan eich hun, mae hyn yn iawn. Ond dylai'r atebion bob amser ddod gan y person sy'n cael ei ddewis i gymryd rhan yn yr arolwg.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael taleb anrheg ddiolch iddynt.

Rydym yn cadw’r holl atebion yn gyfrinachol ac yn eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â chontractwr yr arolwg, Verian, ar 0800 136 740 neu drwy arolwgcenedlaetholcymru@veriangroup.com.

Fel arall, gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru ar 0300 025 2021 neu drwy arolygon@llyw.cymru.

I gael gwybod mwy am sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.

Mae cymryd rhan yn ddewis gwirfoddol, ond rydyn ni'n gobeithio y gallwch chi ein helpu ni i wneud yn siŵr bod pob math o bobl ledled Cymru'n cael eu cynrychioli yn y canlyniadau. Dydyn ni ddim yn gallu dewis unrhyw un arall yn eich lle. Os dydych chi ddim yn dymuno cymryd rhan gallwch naill ai: ffonio llinell gymorth yr arolwg ar 0800 136 740, rhoi gwybod i ni ar horizons.confirmit.eu, neu anfon neges e-bost at Verian yn arolwgcenedlaetholcymru@veriangroup.com. Rhowch wybod i ni beth yw eich rhif cyfeirnod, eich cyfeiriad a'ch cod post os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu dod o hyd i'ch manylion.

Am ein partneriaid arolwg

Verian

Mae Verian yn gwneud ymchwil gymdeithasol ar ran y llywodraeth, elusennau a'r sector gwirfoddol. Mae eu hastudiaethau yn cwmpasu ystod eang o bynciau, megis iechyd, cyflogaeth ac addysg.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.veriangroup.com

Beaufort Research

Mae Beaufort Research yn gontractwr ymchwil gymdeithasol sy'n canolbwyntio ar Gymru a materion yn ymwneud â’r Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth am Beaufort Research, ewch i www.beaufortresearch.co.uk

Gwybodaeth a chymorth am y pynciau sy’n rhan o’r arolwg

Mae'r sefydliadau isod yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ar bynciau sydd yn yr arolwg.

Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar y coronafeirws (COVID-19)

Age Cymru: cymorth a chyngor i bobl hŷn.
Ffôn: 0300 303 4498

Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned: Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru.
Ffôn: 0800 132 737
Anfonwch ‘help’ to 81066

Cyngor ar Bopeth: cyngor ar bob math o faterion.
Ffôn: 0800 702 2020

Helpa fi i stopio: cymorth i roi gorau i smygu.
Ffôn: 0800 085 2219

Byw Heb Ofn: cymorth i ddioddefwyr trais domestig 24 awr y dydd.
Ffôn: 0808 80 10 800

Helpwr Arian: cyngor annibynnol am ddim ar faterion ariannol.
Ffôn: 0800 138 0555

Shelter Cymrucyngor ar dai a digartrefedd.
Ffôn: 08000 495 495

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol 
Ffôn: 0800 328 1744

Cymru’n Gweithio: gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynglŷn â chymorth os ydych wedi colli’ch swydd.
Ffôn: 0800 028 4844

GIG 111 Cymru: cyngor a gwybodaeth iechyd, 24 awr y dydd.
Ffôn: 111

Gwirfoddoli Cymru: Cofrestrwch fel gwirfoddolwr.

Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru DAN 24/7: Cymorth gyda phroblemau alcohol a chyffuriau, 24 awr y dydd.
Ffôn: 0808 808 2234 neu anfonwch y gair DAN i 81066

Llinell Gymorth Gamblo Cenedlaethol: gwybodaeth, cymorth a chyngor am ddim ar broblemau gamblo.
Ffôn: 0808 802 0133

Mencap Cymru: llinell gymorth anabledd dysgu Cymru.
Ffôn: 0808 808 1111

Cyfoeth Naturiol Cymru: gwybodaeth am beryglon llifogydd a rhybuddion.
Ffôn: 0345 988 1188

Gwybodaeth bellach

A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?

Ydy, bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data. Ni fydd modd eich adnabod o ganlyniadau'r arolwg a dim ond at ddibenion ymchwil y bydd eich atebion yn cael eu defnyddio. Fodd bynnag, rydych wastad yn rhydd i sgipio unrhyw gwestiwn nad ydych chi'n gyfforddus yn ei ateb. Ni fydd yn bosib i’ch adnabod chi mewn unrhyw adroddiad a fydd yn seiliedig ar y canlyniadau.

Ni fydd eich manylion yn cael eu defnyddio at ddibenion marchnata.

Sut y galla i sicrhau bod yr unigolyn yn gyfwelydd dilys?

Mae'r holl gyfwelwyr sy'n gweithio ar Arolwg Cenedlaethol Cymru yn gweithio i naill ai Verian neu Beaufort Research.

Maent yn cario cerdyn adnabod cyfwelydd, sy'n nodi eu:

  • henw
  • ffotograff
  • rhif adnabod
Image

Os hoffech wirio manylion cyfwelydd, gallwch ffonio Llinell Wybodaeth Arolwg Cenedlaethol Cymru ar 0800 136 740.

Beth sy'n digwydd os nad oes gennyf fynediad i'r rhyngrwyd ac na allaf gwblhau'r adran ar-lein?

Os cewch eich dewis i gymryd rhan yn yr adran ar-lein ond nad oes gennych fynediad at y rhyngrwyd, bydd y cyfwelydd yn hapus i ofyn y cwestiynau hyn i chi dros y ffôn yn lle.

Ble gaf i ddefnyddio fy nhaleb?

E-daleb

Gallwch ddefnyddio eich e-daleb gyda’r manwerthwyr canlynol (mae’n bosibl y bydd y rhestr yn newid).

Ar-lein yn unig

Argos, DJM Music, Edinburgh Woollen Mill, Habitat, Love2Shop Holidays, Peacocks, Ponden Home, Real Food Hub, Schuh, Schuh Kids, Simply Thank You, Sty Gifts, Virgin Experience Days

Ar-lein ac mewn siopau

American Golf, Antartex Village, Argos, Barclays Diamonds, Beaverbrooks, Ben Nevis Highland Centre, Blacks, Boots, Chisholm Hunter, Currys, Denby, Edinburgh Woollen Mill, Ernest Jones, Foot Locker, FOPP, Go Outdoors, Gulliver’s World, Gulliver’s Kingdom, Gulliver’s Land, Gulliver’s Farm & Dinosaur Park, Gulliver’s Splash World, Gulliver’s Hotel Halfords, Heron Foods, HMV, Holm Mills, Homesense, H. Samuel, Iceland, Inveraray Woollen Mill, James Pringle Weavers, Jedburgh Woollen Mill, John O’Groats Knitwear, Kernow Mill, Kilmahog Woollen Mill, Loofe’s Clothing, Love2shop Holidays, M&S, Mackinnon Mills, Matalan, McCaig’s Warehouse, Millets, Moffat Woollen Mill, New Look, Peacocks, Pizza Express, Ponden Home, Rituals Cosmetics, River Island, Romanes & Paterson, ROX Diamonds & Thrills, Schuh, Schuh Kids, Semichem, Shoe HQ, Shoe Zone, Simon One, Slaters Menswear, Spean Bridge Mill, TJ Hughes, TK Maxx, The Abbey Mill, The Bronte Weaving Shed, The Entertainer, The Famous Lee Mill, The Food Warehouse, The Old Station Welshpool, The Original Factory Shop, The Perfume Shop, The Scottish Wool Centre, The Works, Watershed Mill, Waterstones, West Highland Woollen Company, Wilton Shopping Village, Wilko

Taleb bapur

Gallwch ddefnyddio eich taleb bapur gyda’r manwerthwyr canlynol (mae’n bosibl y bydd y rhestr yn newid).

Abbey Mill, American Golf, Antartex Village, Argos, Barclays Diamonds, Beaverbrooks, Ben Nevis Highland Centre, Bensons for Beds, Blackpool Pleasure Beach, Bonmarché, Boots, Boots Opticians, Boux Avenue, British Heart Foundation, Champneys, Chisholm Hunter, Clarks, Denby, DV8, Eason, Edinburgh Woollen Mill, Ernest Jones, Euronics, F. Hinds Jewellers, Foot Locker, FOPP, Fraser Hart, Go Outdoors, Goals, Goldsmiths, Gulliver’s Theme Parks, H. Samuel, Halfords, Hastings Hotels, Heron Foods, HMV, Holm Mills, Homesense, Iceland, Inveraray Woollen Mill, James Pringle Weavers, Jedburgh Woollen Mill, John O’Groats Knitwear, Kernow Mill, Kilmahog Woollen Mill, Laithwaites, Lakeland Leather, Lightwater Valley, Liverpool FC Official Club Stores, London Bridge Experience, London Tombs, Loofe’s Clothing, Love2shop Holidays, Mackinnon Mills, Mamas & Papas, Mappin & Webb, Masson Mills, Matalan, McCaig’s Warehouse, Moffat Woollen Mill, New Look, Optical Express, Peacocks, Pizza Express, Ponden Home, Pontins, River Island, Robert Dyas, Romanes & Paterson, Rox Diamonds & Thrills, Ryman, Schuh, Schuh Kids, Scottsdale Golf, Semichem, Shoe HQ, Shoe Zone, Simon One, Simply Thank You Gifts, Slaters Menswear, Spean Bridge Mill, Sporting Targets, TJ Hughes, Ten Pin, The Abbey Mill, The Bronte Weaving Shed, The Famous Lee Mill, The Food Warehouse, The Old Station Welshpool, The Original Factory Shop, The Perfume Shop, The Scottish Wool Centre, The Works, TK Maxx, Tottenham Hotspur Football Club Shop, Trossachs Woollen Mill, WHSmith, Watershed Mill, Waterstones, West Highland Woollen Company, Wilko, Wilton Shopping Village, Wookey Hole Caves

Cysylltu data

Cysylltu data yw’r broses o ddod â chofnodion ar lefel yr unigolyn o ffynonellau gwahanol at ei gilydd.

Beth yw buddiannau cysylltu data?

Mae cysylltu gwybodaeth â chofnodion eraill:

  • lleihau’r angen i bobl gymryd rhan mewn arolygon megis Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • lleihau costau casglu gwybodaeth yn sylweddol
  • golygu bod gwahanol fathau o wybodaeth ar gael yn rhwydd ac felly mae’n caniatáu i ymchwil gael ei gynnal yn fwy cyflym
  • galluogi defnydd gwell i gael ei wneud o ddata sydd eisoes ar gael

Cysylltu data yn yr Arolwg Cenedlaethol

Mae Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd (HIRU) Cymru yn uned ymchwil sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe. Prif waith HIRU yw cysylltu gwybodaeth o nifer o arolygon a chronfeydd data o bob rhan o Gymru drwy’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL).

Mae atebion arolwg dienw ymatebwyr yr Arolwg Cenedlaethol yn cael eu cysylltu â ffynonellau data eraill gan HIRU. Ni fydd enwau, cyfeiriadau a chodau post yn cael eu cysylltu. Defnyddir y wybodaeth at ddibenion ymchwil yn unig.

Mae ymatebwyr yn gallu optio allan o gysylltu eu hatebion. Gellir gwneud hyn wrth gymryd rhan yn yr arolwg, neu wedyn drwy gysylltu â thîm prosiect Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, ar 0300 025 2021 neu drwy arolygon@llyw.cymru.

Dogfennau

Cerdyn gwybodaeth ar gysylltu data , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 73 KB

PDF
73 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Siart-llif o'r broses cysylltu data , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 67 KB

PDF
67 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.