Neidio i'r prif gynnwy

Dyma rhaglen strategol o fuddsoddi mewn tystiolaeth ar gyflwr ac effeithlonrwydd/perfformiad ynni tai yng Nghymru.

Elfennau hanfodol o’r Rhaglen yw:

Bydd data’r Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai yn sail i ddau o ddangosyddion cenedlaethol Llesiant Cymru. Yn benodol, anheddau sydd heb beryglon ac anheddau gyda pherfformiad ynni digonol. Felly byddant yn cyfrannu tuag at y gwaith ehangach o fonitro ein cynnydd fel gwlad wrth gyflawni’r Nodau Llesiant.

Mae cysylltiad agos rhwng y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai a’r Rhaglen Datgarboneiddio Cartrefi, ac mae wedi’i chydnabod fel un o’r prif ffynonellau data ar gyfer y Grŵp Cynghori ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru.

Mae Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol yn edrych ar yr ymrwymiadau a wnaethpwyd yn Rhaglen Lywodraethu’r Weinyddiaeth hon, Symud Cymru Ymlaen. Mae’n eu rhoi mewn cyd-destun hirdymor, ac yn nodi sut eu cyflawnir drwy ddod ag ymdrechion yn sector cyhoeddus Cymru draw at ei gilydd. Un o bum maes blaenoriaeth trawsbynciol Ffyniant i Bawb yw Tai, sy’n cydnabod yr effaith y gall tai ei gael ar bob agwedd ar fywyd.

Mae’r Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai yn cynnwys dwy ffrwd waith:

  • Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 (ACTC): Arolwg cenedlaethol yn darparu gwybodaeth am gyflwr ac effeithlonrwydd/perfformiad ynni pob math o dŷ a deiliadaeth yng Nghymru, ar wahân i eiddo gwag.
  • Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai i Gymru (ADST): ‘Cronfa sylfaen anheddau’ sy’n cynnwys data amrywiol am nodweddion, adeiladwaith, cyflwr ac effeithlonrwydd ynni’r stoc dai yng Nghymru. Fe fydd ar lefel eiddo unigol lle bo modd.

Adroddiadau

Diweddariad rhanddeiliad, Medi 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 681 KB

PDF
681 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Diweddariad rhanddeiliad, Ionawr 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 241 KB

PDF
241 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.