Neidio i'r prif gynnwy

Sgiliau sero net yng Nghymru

Ein nod yw meithrin gweithlu medrus a fydd yn cefnogi ein her sero net.

Rydym yn gweithio tuag at gefnogi’r sgiliau sydd eu hangen wrth inni symud tuag at ein dyfodol sero net.

Ein carreg filltir gyntaf oedd lansio ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net. Mae’r cynllun gweithredu hwn yn nodi 36 o gamau gweithredu ar draws 7 maes blaenoriaeth. Bydd hyn o gymorth i ganfod a chyflawni’r sgiliau cywir yn awr ac yn y dyfodol er mwyn cefnogi ein taith sero net.

Cynllun gweithredu sgiliau sero net
Darllenwch ein cynllun gweithredu a chewch wybod sut rydym yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol sero net.
Y diweddaraf
Darllenwch y cynnydd diweddaraf am cynllun gweithredu sgiliau sero net.
Ymgynghoriad sgiliau sero net
Rydym yn ceisio barn ar sgiliau sero net yng Nghymru i adeiladu ar y dystiolaeth a nodwyd yn y cynllun gweithredu sgiliau sero net.
Meithrin a datblygu eich gweithlu tuag at y dyfodol
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y manteision sydd ynghlwm wrth fuddsoddi mewn sgiliau gwyrdd a pha gymorth sydd ar gael ichi.
Datblygu eich sgiliau eich hunan
Dewch o hyd i gyfleoedd hyfforddi, cael cymorth i ddod o hyd i swyddi neu ddysgu sut y gall newid gyrfa gefnogi ein taith tuag at sero net.
Cyfrifon dysgu personol gwyrdd
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gyllid ar gyfer y sectorau ynni, adeiladu, peiriannu a gweithgynhyrchu er mwyn cefnogi’r gwaith uwchsgilio.

Gwyliwch ein fideos

Llwyddiannau Cymru hyd yma

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y gwaith gwych sydd eisoes ar waith ledled Cymru.

Cymerwch olwg ar rai o'r ffyrdd y mae cwmnïau'n newid, addasu a buddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau.

Robert Price
Cyfle i weld sut mae sgiliau a phartneriaethau yn helpu busnes i arwain y ffordd wrth godi ymwybyddiaeth am dechnegau newydd.
Fferm Pendre
Mae dysgu a rhannu ffyrdd o weithio yn helpu i feithrin sgiliau llythrennedd carbon.
RWE
Helpu i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau yn y sector ynni gwynt ar y môr a'r sector ynni.

Dysgwch fwy am sgiliau sero net

Beth yw sgiliau sero net a beth y maen nhw’n ei olygu imi?

Mae Sero Net yn cyfeirio at gael cydbwysedd rhwng y swm o allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir a’r swm sy’n cael ei dynnu o’r atmosffer.

Wrth i sectorau ymrwymo i newid a datblygu, bydd angen gweithlu arnynt sydd â’r sgiliau cywir i gyflawni’r nodau hynny. Byddwn yn gweithio’n agos gyda sectorau i ddeall eu llwybrau tuag at sero net a’r hyn a olygir ar gyfer sgiliau a swyddi. Mae hyn yn cynnwys rhoi opsiynau i ddysgwyr a chyflogwyr o ran buddsoddi mewn sgiliau.

Beth yw fy opsiynau o ran cymryd rhan?

Gan weithio mewn partneriaeth, rydym yn awyddus i’ch helpu i ddeall yr hyn y mae’r newidiadau hyn yn ei olygu a sut y gallwch wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn datblygu cynnwys y wefan hon er mwyn rhannu enghreifftiau ymarferol fesul sector gan ddangos yr hyn sydd ar gael ledled Cymru a’r ystod o opsiynau sydd ar gael ichi.

Os hoffech chi gymryd rhan yn y trafodaethau neu os oes gennych gwestiynau ynghylch sgiliau sero net, anfonwch e-bost atom SgiliauSeroNet@llyw.cymru.

Sut y mae Cymru eisoes yn cefnogi sgiliau sero net?

Mae ein hystod o raglenni hyfforddi eisoes yn rhoi ystod eang o gyfleoedd i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau mewn galwedigaethau ar draws sawl sector. 

Rydym yn gwybod y bydd swyddi yn newid a bydd sgiliau yn datblygu ac rydym yn awyddus i’ch helpu chi gyda’r broses honno.

Nod ein hystod o astudiaethau achos yw eich helpu i ddeall pa gamau y mae cyflogwyr ac unigolion yn eu cymryd eisoes i ddiwallu’r galw sy’n newid o ran sgiliau.

Fel cyflogwr, pam ddylwn i fuddsoddi mewn sgiliau newydd ar gyfer fy ngweithlu?

Mae ein heconomi yn newid a bydd rhaid i bawb ohonom addasu’r modd rydym yn gweithio i ddiwallu’r gofynion sgiliau hyn sy’n datblygu. Mae’r galw am sgiliau sero net yn parhau i gynyddu ledled Cymru ac rydym eisiau eich helpu a’ch cefnogi i ddatblygu a hyfforddi eich gweithlu. Bydd meithrin sylfaen sgiliau sero net yn eich gweithlu yn gymorth i’ch cefnogi i gyrraedd marchnadoedd y dyfodol yn ogystal ag ymateb i economi sy’n newid yn gyflym. Gallai hyn eich helpu hefyd i leihau costau ynni ac arbed arian yn y tymor hir.

Cymryd rhan

Os hoffech chi gymryd rhan yn y trafodaethau neu os oes gennych gwestiynau ynghylch sgiliau sero net, anfonwch e-bost atom SgiliauSeroNet@llyw.cymru.