Neidio i'r prif gynnwy

Manylion y gwahanol lwybrau i yrfa mewn addysgu mewn ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dod yn athro ysgol cymwysedig

I ddod yn athro ysgol ac addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, mae angen i chi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC), mae hyn yn golygu cwblhau rhaglen o Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA).

Mae amrywiaeth o ffyrdd o ddechrau eich gyrfa addysgu a bydd Addysgwyr Cymru yn eich helpu i weld sut beth yw addysgu a pha lwybrau sydd ar gael. Unwaith y byddwch wedi ennill eich SAC bydd angen i chi gwblhau cyfnod ymsefydlu.

Mae gennym ardal benodol ar sianel YouTube Addysg Cymru ar gyfer ymgyrch Addysgu Cymru sy'n darparu rhagor o wybodaeth.

Israddedig

Os nad oes gennych radd eisoes, gallwch ddilyn cwrs hyfforddi athrawon israddedig llawn amser. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Gradd Baglor mewn Addysg (BEd)
  • Gradd Baglor yn y Celfyddydau (BA)
  • Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth (BSc)

Bydd rhaid i chi wneud cais drwy UCAS.

Gall Addysgwyr Cymru eich helpu i archwilio'r llwybr sy'n gweddu orau i'ch amgylchiadau a’ch cymwysterau.

Gallech fod yn gymwys i gael cymorth cyffredinol i fyfyrwyr wrth astudio. Cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael.

Ôl-raddedig

Os oes gennych radd eisoes, gallwch astudio ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) gyda Statws Athro Cymwysedig. Mae’r TAR yn gwrs llawnamser blwyddyn. Bydd yn datblygu eich sgiliau fel athro wrth i chi weithio tuag at y Safonau SAC. Mae cyrsiau TAR ar gael drwy bartneriaethau AGA ar draws Cymru.

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Partneriaethau AGA neu drwy wefan UCAS.

TAR Rhan Amser

O fis Medi 2020 mae llwybr newydd rhan amser ar gael i addysgu. Mae’r llwybr newydd yn cael ei ddarparu gan bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored.

Bydd y llwybr newydd yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau a bydd yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i astudio tra'n gweithio neu gydbwyso ymrwymiadau eraill bywyd. Byddant yn gweithio tuag at gymhwyster TAR (gan gynnwys 60 o gredydau lefel Meistr) ac yn bodloni safonau SAC.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Brifysgol Agored

TAR Cyflogedig

O fis Medi 2020 mae llwybr newydd ar gael i mewn i addysgu yng Nghymru: llwybr yn seiliedig ar gyflogaeth. Mae’r llwybr newydd yn cael ei ddarparu gan bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored.

Bydd y llwybr newydd yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau a bydd yn caniatáu i chi dderbyn cyflog athro heb gymhwyster wrth i chi weithio tuag at gymhwyster TAR (gan gynnwys 60 o gredydau lefel Meistr) a bodloni safonau SAC.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon ar gael ar wefan y Brifysgol Agored

Mae rhagor o fanylion am ddarparu'r llwybr sy'n seiliedig ar gyflogaeth ar gael i fyfyrwyr, ysgolion a phartneriaethau.

Gofynion mynediad sylfaenol

Ers mis Medi 2019 mae’n rhaid i’r broses ar gyfer dethol athrawon dan hyfforddiant gynnwys Sefydliadau Addysg Uwch ac ysgolion. Mae’r broses yn edrych ar ddawn, galluedd a gwydnwch personol ymgeisydd mewn perthynas ag addysgu, yn ogystal â’i rinweddau personol a deallusol a’i astudiaethau academaidd. Rhaid i ymgeisydd fodloni’r meini prawf hyn o leiaf:

  • safon sy’n gyfwerth â Gradd C TGAU neu uwch mewn mathemateg neu Mathemateg, Rhifedd
  • safon sy’n gyfwerth â Gradd C TGAU neu uwch mewn naill ai Cymraeg Iaith neu Saesneg Iaith
  • safon sy’n gyfwerth â Gradd C TGAU neu uwch mewn pwnc gwyddoniaeth, os ydych eisiau addysgu mewn ysgol gynradd (dysgwyr 4 i 11 oed)
  • gradd sydd o leiaf 50% yn berthnasol i’r pwnc yr ydych eisiau ei addysgu i ddod yn athro neu athrawes ysgol uwchradd (dysgwyr 12 i 16 oed) (mae rhagor o wybodaeth ar y gofyniad hwn ar gael gan Bartneriaethau AGA sy’n gwneud y penderfyniad hwn)

Gellir gweld y gofynion mynediad llawn yn Atodiad 2 meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru.

Gall darparwyr AGA hefyd ychwanegu eu gofynion mynediad eu hunain a allai fod yn ychwanegol at y rhai uchod.

Os nad ydych yn siŵr a yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Phartneriaeth AGA a restrir ar y dudalen hon.

Partneriaethau Addysg Cychwynnol Athrawon

Mae partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn bartneriaethau rhwng prifysgolion ac ysgolion sy’n cydweithio i ddarparu addysg a datblygiad proffesiynol i athrawon dan hyfforddiant, gan eu paratoi i weithio mewn ysgol.

O flwyddyn academaidd 2020/21 mae saith partneriaeth AGA ar gyfer rhaglenni AGA wedi’u hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg:

Statws Athro Cymwysedig (SAC)

Mae'n rhaid i holl hyfforddeion Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) gyrraedd y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Mae safonau proffesiynol yn gymwys ers mis Medi 2019 sy’n nodi beth sy'n rhaid i hyfforddeion AGA ei wybod, ei ddeall a gallu ei wneud ar ddiwedd eu cwrs er mwyn iddynt gael SAC.

Mae grym statudol i’r Safonau SAC ac maent wedi eu nodi mewn deddfwriaeth.

Unwaith y byddwch wedi cael SAC a'ch bod yn Athro Newydd Gymhwyso (ANG) bydd rhaid i chi lenwi Proffil Dechrau Gyrfa a gwneud eich cyfnod ymsefydlu.

Bydd rhaid i chi hefyd gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg os ydych eisiau gweithio mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Cymhellion Addysg Gychwynnol Athrawon

Mae 3 gynllun cymell ar gael i fyfyrwyr:

Dylai myfyrwyr sy'n ymgymryd â rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl Orfodol (PGCE PCET) (AB) gysylltu â'u darparwr neu post-16workforcedevelopment@llyw.cymru

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn athro, ewch i Addysgwyr Cymru. Os hoffech chi siarad ag aelod o'r tîm i gael cefnogaeth bellach neu wybodaeth am yrfa mewn addysg, cysylltwch â gwybodaeth@addysgwyr.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am raglenni AGA, cysylltwch â phartneriaeth AGA.

I gael rhagor o wybodaeth am ein polisi ynghylch addysg gychwynnol i athrawon, anfonwch e-bost at teaching.enquiries@llyw.cymru