Taflen gynorthwyol a ddatblygwyd gan y grŵp i gefnogi athrawon i feddwl am sut mae eu haddysgu yn adlewyrchu natur amlethnig Cymru.
Cynnwys
Gwnewch wahaniaeth drwy gymryd rhan
Sefydlwyd y Gweithgor Gweinidogol ym mis Awst eleni gyda’r nod o gefnogi athrawon ac ysgolion i adlewyrchu’n well natur amlethnig Cymru yn eu cwricwlwm a’u harferion addysgu. Mae’n adlewyrchu uchelgais y cwricwlwm newydd fod ‘ymarferwyr yn meddwl o’r newydd ynghylch yr hyn maen nhw’n ei addysgu, sut y maen nhw’n addysgu a’r hyn rydym eisiau i bobl ifanc fod yn ogystal â dysgu’. Yn unol â’r cwricwlwm newydd rydym yn ceisio creu ‘cyfleoedd dysgu dilys sy’n cysylltu agweddau ar y cwricwlwm ac yn gwneud cysylltiadau â bywyd bob dydd’ a chefnogi datblygu ‘sgiliau a dulliau newydd’.
Wrth i chi baratoi eich cynlluniau cwricwlwm a’ch deunyddiau addysgu a dysgu ar gyfer eleni, ystyriwch y canlynol
- Pa enghreifftiau, digwyddiadau, cyfraniadau, straeon unigolion a grwpiau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy’n rhan o’r hyn a gynigir gan eich cwricwlwm ar hyn o bryd? Ystyriwch sut y mae’r rhain:
- wedi’u tynnu o’ch ardal leol
- yn cael eu rhoi yng nghyd-destun Cymru amlddiwylliannol a hanes Cymru.
- Sut mae cyfraniadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynrychioli a’u gosod yn eich cwricwlwm a’ch deunyddiau addysgu?
- Pa adnoddau newydd allwch chi eu cyflwyno i wella proffil hanesion neu gyfraniadau cyfoes pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i’ch cwricwlwm a’ch deunyddiau addysgu?
- Sut allwch chi ysgogi dysgwyr i gynrychioli ac archwilio eu treftadaeth eu hunain a rhoi’r deunydd hwn ar waith yn eu dysgu?
- Sut allai cyfraniadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig greu prosiect trawsgwricwlaidd, sy’n cysylltu gwaith mewn mwy nag un maes dysgu a phrofiad?
Dyma rai dolenni i brocio eich meddwl: