Adolygu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Edrych ar safbwyntiau pobl ifanc ar gymorth iechyd meddwl, iaith ac ymwybyddiaeth yng Nghymru (arolwg ar-lein a chyfweliadau dilynol): hysbysiad preifatrwydd
Mae'n esbonio sut rydym yn defnyddio data personol a gesglir gan yr Adolygu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwil i edrych ar safbwyntiau plant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr ar y strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Nod yr ymchwil hon yw edrych ar safbwyntiau pobl ifanc sy’n profi anawsterau iechyd meddwl y mae angen cymorth arnynt ar eu cyfer (yn ogystal â safbwyntiau eu rhieni) ar y newidiadau mewn cymorth iechyd meddwl dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Fel rhan o’r ymchwil hon, bydd Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau ac arolwg di-enw ar-lein.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill.
Mae cyfrannu i’r ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y person cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn BVA BDRC yw:
Dr Christopher Eaton
E-bost: christopher.eaton@llyw.cymru
Pa ddata personol sydd gennym ac o ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau dod o hyd i wirfoddolwyr er mwyn adolygu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl mewn rhanbarthau gwahanol yng Nghymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dal y manylion cyswllt perthnasol. Byddwch wedi gweld taflen wybodaeth am yr astudiaeth oherwydd:
- mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i elusennau iechyd meddwl ddosbarthu taflen yn esbonio beth yw’r astudiaeth a sut i gymryd rhan
- mae Llywodraeth Cymru yn dosbarthu'r daflen i grwpiau neu baneli ieuenctid sy’n gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru (e.e. Senedd Ieuenctid Cymru, paneli ieuenctid sy’n cynghori Byrddau Iechyd y GIG yng Nghymru), drwy rwydwaith Llywodraeth Cymru o enwau cyswllt allweddol, sy’n gweithio gyda phobl ifanc (e.e. Comisiynydd Plant Cymru)
- rydych ar restr bostio astudiaethau o iechyd meddwl ieuenctid ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roeddech wedi cytuno y gellid cysylltu â chi ynglŷn â chyfleoedd ymchwil yn y dyfodol a chawsoch y daflen oddi wrth arweinydd yr astudiaeth wreiddiol
- mae'r astudiaeth hefyd yn cael ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol
Fel y mae’r daflen yn egluro, os hoffech gymryd rhan, gallwch gysylltu â’r tîm ymchwil drwy christopher.eaton@llyw.cymru i gael y ddolen i’r arolwg di-enw ar-lein. Rydym hefyd am gyfweld â nifer bach o blant / pobl ifanc a’u rhieni (neu warcheidwad neu ofalwr fel sy’n berthnasol). Rhoddir eglurhad isod o sut y byddwch yn derbyn yr arolwg a’r wybodaeth rydym yn ei chasglu yn ogystal â manylion sut y byddwn yn gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad.
Dim ond tîm ymchwil Llywodraeth Cymru fydd yn gweld eich cyfeiriad e-bost, a dim ond fel rhan o’r prosiect ymchwil hwn y caiff ei ddefnyddio.
Arolwg ar-lein
Mae arolwg ar wahân i rieni (neu warcheidwad neu ofalwr fel sy’n berthnasol) ac i blant / pobl ifanc. Mae’r arolygon i blant / pobl ifanc wedi’u llunio i fod yn oed-benodol.
Pan fyddwn yn derbyn eich e-bost a chyn anfon y ddolen at yr arolwg atoch, byddwn yn gofyn beth yw eich oedran chi / eich plentyn, er mwyn inni anfon y ddolen gywir at yr arolwg sy’n addas i’ch oedran chi / eich plentyn. Os ydych dros 16 oed, ni fyddwn yn gofyn am fanylion eich rhiant i anfon arolwg atynt, ond byddwn yn gofyn i chi anfon dolen at yr arolwg rhieni ymlaen atynt. Os ydych o dan 16 oed, ac yn anfon e-bost at y tîm ymchwil yn gofyn am ddolen at yr arolwg ar-lein, byddwn yn gofyn i chi ofyn i’ch rhiant i anfon e-bost at y tîm ymchwil drwy christopher.eaton@llyw.cymru i ofyn am y dolenni at yr arolwg. Yna, byddwn yn anfon dolen at eich arolwg chi, ynghyd â’u harolwg eu hunain, i’ch rhiant a byddant yn pasio’r ddolen at eich arolwg chi ymlaen atoch.
Nid yw’r arolwg yn gofyn am enw ac ni chaiff eich cyfeiriad e-bost na’r cyfeiriad IP eu cofnodi wrth gwblhau’r arolwg, felly mae’r arolwg yn ddi-enw.
Cyfweliad dilynol
Os yw person ifanc yn 11 i 18 oed, er mwyn cymryd rhan yn y cam cyfweld, rhaid i’r rhiant (neu warcheidwad neu ofalwr fel sy’n berthnasol) a’r plentyn / person ifanc gytuno i gael eu cyfweld a darparu eu manylion cyswllt. Os yw person ifanc yn 19 i 25 oed, gallant gymryd rhan yn y cyfweliad heb fod angen i’w rhiant / gofalwr hefyd gymryd rhan. Mae cyfweliad ar wahân i rieni a phlant / pobl ifanc. Byddwn yn cyfweld â chyfranogwyr ar sail y cyntaf i’r felin, felly mae’n bosibl y byddwn wedi cyrraedd ein targed recriwtio erbyn i chi anfon eich e-bost yn datgan diddordeb. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn dileu eich enw chi / enw eich plentyn a’r manylion cyswllt a ddarparwyd gennych.
Cyn y cyfweliad, byddwn yn gofyn i bawb a gaiff ei gyfweld i lofnodi ffurflen yn cytuno i gymryd rhan. Os ydych o dan 16 oed, bydd hefyd angen i’ch rhiant (neu warcheidwad neu ofalwr fel sy’n berthnasol) lofnodi ffurflen yn nodi eu bod yn cytuno i chi gymryd rhan.
Byddwn hefyd yn gofyn am rywfaint o wybodaeth am blant / pobl ifanc a rhieni mewn holiadur di-enw ar-lein, fel bod modd inni ddeall cefndir y bobl rydym yn cyfweld â nhw. Mae angen inni wneud hyn, hyd yn oed os cafodd yr wybodaeth ei chasglu yn yr arolwg gwreiddiol, gan fod ymatebion ein arolwg gwreiddiol yn hollol ddi-enw. Os ydych yn rhiant, neu’n berson ifanc 16 oed a throsodd, gofynnwn i chi lenwi holiadur cefndirol. Os ydych yn iau nag 16 oed, gofynnwn i’ch rhiant lenwi’r holiadur cefndirol ar eich rhan. Bydd yr wybodaeth yn cynnwys pethau fel ethnigrwydd a ph’un a ydych yn uniaethu fel LHDTC+, ond bydd yn gwbl ddi-enw a byddwn yn ei defnyddio i ddeall yr ystod o bobl rydym wedi cyfweld â nhw fel y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth mewn modd priodol a pheidio â dod i gasgliadau di-sail.
Ni fydd angen ichi ddarparu unrhyw ddata personol pellach fel rhan o’r cyfweliad, ond byddwn yn gofyn am ddyddiad geni y person ifanc a manylion cyswllt eu meddyg teulu. Byddwn yn gofyn i’r person ifanc ei hun am y manylion hyn os yw’n 19 i 25 oed ac i’w riant/rhiant os yw’n 11 i 18 oed. Rydym yn casglu’r manylion hyn rhag ofn y bydd plentyn / person ifanc yn dweud rhywbeth wrthym yn ystod y cyfweliad sy’n gwneud inni boeni am ei ddiogelwch a’n bod yn teimlo bod angen i roi gwybod i’r meddyg teulu. Enghraifft o hyn yw petaech chi’n dweud wrthym eich bod yn cael meddyliau o eisiau niweidio eich hun neu eraill.
Hoffem recordio cyfweliadau at ddibenion gweithredol. Byddwn yn egluro hyn wrthych chi cyn i’r cyfweliad ddechrau, a chewch y cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i’r cyfweliad gael ei recordio. Os caiff cyfweliadau eu recordio, caiff data personol eu dileu yn ystod y broses o drawsgrifio cyfweliadau. Caiff y cyfweliadau eu dileu cyn gyntaf ag y bydd y broses hon wedi’i chwblhau. Os na chaiff cyfweliadau eu recordio, ni chaiff data personol eu cynnwys yn y nodiadau ysgrifenedig yn ystod y cyfweliad na’u paratoi yn dilyn y cyfweliad.
Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i lywio datblygiad y strategaeth iechyd meddwl nesaf.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Lywodraeth Cymru bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Lywodraeth Cymru ardystiad hanfodion seiber.
Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o’r enw SmartSurvey. Mae hwn yn cydymffurfio â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU ac yn cyrraedd ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd (caiff yr holl ddata eu prosesu o fewn y DU).
Fel rhan o’r cyfweliad, gofynnir i chi lenwi ffurflen yn cytuno i gymryd rhan, a gwneir hyn ar blatfform o’r enw Objective Connect. Cymhwysiad rhannu ffeiliau’n ddiogel yw hwn a ddefnyddiwn gyda phobl o’r tu allan i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn creu ffolder yn benodol ar eich cyfer chi, a dim ond chi a’r tîm ymchwil fydd yn gallu cael ei gweld.
Rydym yn casglu’r data mwyaf sensitif mewn ffurflen ddi-enw (gan ddefnyddio SmartSurvey), felly nid ydym yn gwybod i bwy mae’r data’n berthnasol, gan mai dim ond golwg gyffredinol o’r bobl rydym yn cyfweld â nhw sydd ei angen arnynt.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os oes amheuaeth o dorri rheolau, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Bydd Llywodraeth Cymru yn dal data personol yn ystod cyfnod y prosiect. Dri mis ar ôl diwedd yr arolwg, bydd y tîm ymchwil yn anonymeiddio’r holl ddata personol y mae wedi’u casglu gennych neu amdanoch chi, mewn cysylltiad â’r prosiect ymchwil hwn – h.y. byddwn yn dileu eich enw chi / enw eich plentyn, eich manylion cyswllt a’ch dyddiad geni chi / eich plentyn. Yr unig eithriad yw’ch ffurflen ganiatâd, a byddwn yn cadw hon am bum mlynedd, a dim ond aelodau o’r tîm ymchwil fydd yn ei gweld.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r prosiect hwn, mae gennych yr hawl:
- i gael mynediad at gopi o'ch data eich hun
- i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau)
- er mwyn i'ch data gael ei 'ddileu' (o dan rai amgylchiadau)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Janine Hale
E-bost: janine.hale@llyw.cymru
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 ENQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru