Neidio i'r prif gynnwy

Nod rhaglen Cyflymu Cymru oedd darparu cysylltiad band eang ffeibr cyflym iawn ar gyfer y rhan fwyaf o adeiladau nad oeddent wedi eu cynnwys yng nghynlluniau’r sector preifat.

Mae cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn ategu’r rhaglen hon, gan roi cymorth grant ar gyfer y gwaith o osod opsiynau band eang amgen a all ddarparu cyflymder lawrlwytho cyflym iawn sefydlog.

Mae’r cynllun ar agor i unigolion, busnesau a safleoedd y trydydd sector yng Nghymru os na all gwasanaeth band eang eu safle yng Nghymru (os oes ganddynt fand eang o gwbl) gynnig cyflymder lawrlwytho sydd o leiaf ddwywaith y cyflymder presennol. Rhaid i’r gwasanaeth newydd a gynigir sicrhau cyflymder lawrlwytho o 10 Megabit yr eiliad o leiaf.

Ni fydd ceisiadau am gyflymder lawrlwytho sy’n llai na 10 Megabit yr eiliad yn cael cymorth gan y cynllun.

Gwrthodir ceisiadau os yw’r safle wedi cael grant Allwedd band Eang Cymru yn y 24 mis diwethaf.  Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y cyfarpar hwnnw’n ateb y diben.

Dylai ymgeiswyr posibl ystyried hefyd y gallai fod modd iddynt elwa ar delerau ac amodau mwy ffafriol unwaith y bydd opsiynau cystadleuol ar gael yn dilyn gwaith uwchraddio yn eu hardal naill ai trwy fenter fasnachol neu fenter arall gan lywodraeth. Dylech ond wneud cais am grant Allwedd Band Eang Cymru os ydych yn sicr eich bod wedi dewis yr opsiwn sy’n gweddu orau i’ch anghenion chi dros dymor llawn eich rhwymedigaeth i’ch darparwr gwasanaeth.

Nid yw Cynllun Allwedd Band Eang Cymru’n gyfrifol am lefel y gwasanaeth a ddarperir gan y Darparwr Rhyngrwyd rydych wedi’i ddewis, unwaith y bydd wedi’i osod. Os bydd unrhyw broblemau â’r gwasanaeth ar ôl cysylltu’r band eang, mater rhyngoch chi a’ch darparwr fydd hynny, ac o bosibl yr Ombwdsmon telathrebu, OFCOM.

Bydd y cynllun yn cynnig grant dwy haen a fydd yn rhoi cymorth grant tuag at gostau cymwys am gysylltiad band eang a fydd yn cynyddu’r cyflymder lawrlwytho yn sylweddol. Mae categorïau’r grantiau fel a ganlyn:

  • Grant £400 ar gyfer pecynnau band eang 10 Megabit yr eiliad ac 20 Megabit yr eiliad.
  • Grant £800 ar gyfer pecyn band eang cyflym iawn (30 Megabit yr eiliad ac yn uwch).

Mae’r tudalennau sy’n dilyn yn nodi’r Meini Prawf Cymhwysedd gofynnol ar gyfer pob categori ymgeisio.

I fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol gan gynllun Allwedd Band Eang Cymru, bydd angen i chi fodloni meini prawf y categori priodol ar gyfer eich cais.

Os ydych chi'n gwneud cais fel Preswylydd Unigol darllenwch y meini prawf cymhwysedd ac amodau'r cynllun ar gyfer preswylwyr unigol.

Os ydych chi'n gwneud cais fel Menter neu Sefydliad Trydydd Sector darllenwch y meini prawf cymhwysedd ac amodau'r cynllun ar gyfer mentrau a sefydliadau'r trydydd sector.

Rhaid i bob ymgeisydd ddarllen amodau cyffredinol y cynllun.

 

Meini Prawf Cymhwysedd ac Amodau’r Cynllun ar gyfer Preswylwyr Unigol

  1. Ar gyfer un annedd preswyl sefydlog wedi’i lleoli yng Nghymru ac sy’n cael ei gydnabod gan awdurdod lleol yng Nghymru at ddiben talu Treth y Cyngor.
  2. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i ofyn am gopi o’ch Treth Gyngor ar gyfer y safle gosod.
  3. Rhaid ichi beidio â gallu cael mynediad i’r rhyngrwyd na’ch cysylltiad band eang presennol ac nad yw eich cyfarpar yn gallu ymdopi â’r newid sylweddol gofynnol (o leiaf ddwywaith eich cyflymder lawrlwytho presennol). Ni fydd ceisiadau am gyflymder lawrlwytho sy’n llai na 10 Megabit yr eiliad yn cael cymorth gan y cynllun.
  4. Ar ôl derbyn eich ffurflen gais, bydd Llywodraeth Cymru yn gwirio’r band eang sydd ar gael ichi.
  5. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau os gwelir bod cyflymder lawrlwytho band eang sy’n uwch na’r cyflymder gofynnol o 10 Megabit yr eiliad ar gael i’r safle.
  6. Rhaid i’r ymgeisydd ac nid trydydd parti megis darparwr neu gyflenwr eich gwasanaethau rhyngrwyd lenwi’r cais ar-lein.
  7. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn ichi esbonio pam rydych wedi dewis eich darparwr.

 

 

Rhaid i chi hefyd ddarllen amodau cyffredinol y cynllun ar gyfer pob ymgeisydd.

Meini Prawf Cymhwysedd ac Amodau’r Cynllun ar gyfer busnesau a sefydliadau’r trydydd sector

  1. Rhaid i safle’ch busnes neu sefydliad y trydydd sector fod yng Nghymru a bydd yn atebol i dalu Ardrethi Busnes.
  2. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i ofyn am gopi o’ch Treth Gyngor neu eich Ardrethi Busnes ar gyfer y safle gosod.
  3. Ni fydd y busnes, y fenter neu’r sefydliad trydydd sector wedi cael mwy o gymorth ariannol cyhoeddus na therfyn ucha’r Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA). Terfyn uchaf yr uchafswm cymhorthdal gwerth isel hwn yw £315,000. Wrth wneud cais am grant ABC, bydd cyfle i chi ddatgan gwerth llawn y cymorthdaliadau rydych wedi’u cael dros y tair blynedd ddiwethaf.
  4. Bydd busnesau a sefydliadau’r trydydd sector fydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn cael cynnig swm net dyfynbris eu band eang serch grantiau uchaf y cynllun o £400 ac £800.
  5. Rhaid ichi beidio â gallu cael mynediad i’r rhyngrwyd na’ch cysylltiad band eang presennol ac nad yw eich cyfarpar yn gallu ymdopi â’r newid sylweddol gofynnol (o leiaf ddwywaith eich cyflymder lawrlwytho presennol). Ni fydd ceisiadau am gyflymder lawrlwytho sy’n llai na 10 Megabit yr eiliad yn cael cymorth gan y cynllun.
  6. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau os gwelir bod cyflymder lawrlwytho band eang sy’n uwch na’r cyflymder gofynnol o 10 Megabit yr eiliad ar gael i’r safle.
  7. Rhaid i’r ymgeisydd ac nid trydydd parti megis darparwr neu gyflenwr y gwasanaeth rhyngrwyd, lenwi’r cais ar-lein.
  8. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn ichi esbonio pam rydych wedi dewis eich darparwr.

Rhaid i chi hefyd ddarllen amodau cyffredinol y cynllun ar gyfer pob ymgeisydd.

Amodau cyffredinol y cynllun ar gyfer pob ymgeisydd

  1. Ni ddylech fod wedi derbyn cyllid cyhoeddus yn y 24 mis diwethaf o leiaf ar gyfer cysylltiad band eang yn y cyfeiriad gosod dan sylw. Byddai hyn yn cynnwys cyllid cyhoeddus gan gyrff fel Llywodraeth Cymru, Awdurdod Lleol neu unrhyw gorff arall.
  2. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn ichi sicrhau band eang sydd o leiaf ddwywaith y cyflymder lawrlwytho sydd ar gael ichi ar hyn o bryd, ac sy’n 10 Megabit yr eiliad o leiaf.
  3. Rhaid i ymgeiswyr dderbyn sicrwydd gan eu Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd ei fod yn gallu ymrwymo i gyflenwi’r gwasanaeth sylweddol well i’r adeilad. Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu dyfynbris gan y cyflenwr y maent yn ei ddewis a fydd yn cyd-fynd â’r ffurflen gais.
  4. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian tuag at wasanaeth sy’n darparu cyflymder band eang arafach na’i gyflymder ar hyn o bryd na chwaith os yw cyflymder lawrlwytho cynt na 30 Megabit yr eiliad yn bosibl adeg ei osod.
  5. Caiff cymorth ar gyfer gwasanaeth band eang cymwys ei gyfyngu i un dyfarniad y safle.
  6. Os derbynnir ceisiadau unigol (gan aelwydydd unigol, busnesau neu sefydliadau’r trydydd sector) ar gyfer ardal lle mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ariannu cynllun cymunedol, bydd gofyn i’r ymgeiswyr ymuno â’r cynllun cymunedol os oes modd. Bydd unrhyw amrywio ar yr amod hwn yn digwydd yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru yn unig.
  7. Bydd uchafswm y cymorth a roddir i bob ymgeisydd tuag at gostau cymwys yn unol â lefel y grant y gwnaed cais amdano ac a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Gall ymgeiswyr brynu opsiynau sy’n costio mwy na’r uchafswm cymorth; ond ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu mwy na’r uchafswm ar gyfer y grant y gwnaed cais amdano. Mae Llywodraeth Cymru, yn ôl ei disgresiwn, yn cadw’r hawl i amrywio’r symiau hyn.
  8. Diffinnir costau cymwys fel unrhyw gostau cyfalaf rhesymol am osod a sefydlu’r cyswllt yn y lle cyntaf. Bydd hyn yn cynnwys yr elfennau isod, er nad yw’n gyfyngedig iddynt:
    1. Ffioedd gosod.
    2. Cyfarpar allanol cwsmeriaid megis antenâu diwifr neu ddysgl lloeren.
    3. Cyfarpar seilwaith allanol a rennir megis gwaith peirianneg sifil, mastiau diwifr/ symudol/lloeren, gosod cyfarpar diwifr/symudol/lloeren ar adeileddau sy’n bodoli, darparu cyflenwadau pwˆ er, ceblau ffibr a chopr, seilwaith arall a rennir ar gyfer unrhyw fath o dechnoleg.
    4. Costau sefydlu ac arolygu.
    5. Costau cyfarpar ar gyfer safle’r cwsmer megis llwybrydd, pwynt terfynu rhwydwaith neu gyfarpar arall tebyg.
    6. Ni fydd costau cymwys yn cynnwys cyfrifiaduron personol, serfwyr, cyfarpar TG perthnasol arall, ffonau Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VOIP) na modiwlau teledu.
    7. Er mwyn bod yn gwbl glir, nid yw’r cynllun yn cynnwys cymorth ariannol ar gyfer costau tanysgrifio misol.
    8. Bydd busnesau a sefydliadau’r trydydd sector sydd wedi’u cofrestru at ddibenion TAW yn cael cynnig swm net dyfynbris eu band eang, serch y grant uchaf a gynigir gan y cynllun o £400 ac £800.
  9. Rhaid i’r contract rhyngoch chi a’ch darparwr gwasanaeth barhau am gyfnod o 12 mis o leiaf.
  10. . Os na fyddwch yn bodloni telerau’r contract ar bwynt (i) uchod, yna bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i adennill yr arian, ee os penderfynwch newid darparwr, am ba bynnag reswm, o fewn cyfnod gofynnol y contract ym mhwynt (i) uchod, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i fynnu’r arian yn ôl. Os bydd y cyflymder a amlinellir yn eich contract gyda’r Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd yn cael ei leihau yn ystod tymor gofynnol o 12 mis, caiff Llywodraeth Cymru adennill yr arian yn yr achos hwnnw hefyd.
  11. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i ofyn am wybodaeth ychwanegol er mwyn gwerthuso a dilysu eich cais am gymorth ariannol dan y cynllun.
  12. Rhaid i’r cyfarpar rhyngrwyd a osodir drwy’r cynllun talebau aros ar y safle ac nid oes modd ei symud i rywle arall.
  13. Fel yr Ymgeisydd, bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ar gais rhesymol Llywodraeth Cymru.
  14. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i amrywio’r cynnig o gymorth ariannol ar sail y wybodaeth a ddarparwyd ac a gadarnhawyd fel rhan o’r broses arfarnu.
  15. Os na ellir dilysu’r costau a gyflwynwyd gan Ddarparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd fel rhai rhesymol sy’n cyd-fynd â rhestrau prisiau cyhoeddedig ar-lein y Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd neu mewn unrhyw gyhoeddiad arall, neu yn ôl costau y bydd darparwyr gwasanaeth eraill fel arfer yn eu codi am gyfarpar tebyg (yn ôl safonau arferol y diwydiant), mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i newid symiau’r talebau.
  16. Ni ddylech gysylltu â’ch Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd i drefnu’r gwaith o osod eich gwasanaeth hyd nes y byddwch chi wedi derbyn llythyr cynnig arian gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau bod cynnig o gymorth wedi’i wneud (ac yn gwybod faint yw’r swm o gymorth ariannol a roddir, a allai fod yn wahanol i’r swm yr ymgeisiwyd amdano).
  17. NI DDYLECH ymrwymo i gontract gyda’ch Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd tan y byddwch chi wedi derbyn, llofnodi a dychwelyd eich llythyr cynnig arian i Lywodraeth Cymru. Bydd unrhyw waith gosod a gyflawnir cyn hyn yn gwneud y cais yn un ôl-weithredol. Ni all Llywodraeth Cymru gefnogi ceisiadau ôl-weithredol.
  18. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i derfynu neu amrywio telerau’r cynllun mewn unrhyw ffordd arall heb rybudd pellach.
  19. Bydd gofyn i chi ad-dalu’r holl arian i Lywodraeth Cymru ar unwaith os oes unrhyw ran o’r wybodaeth a roddoch i ni yn eich cais neu i gefnogi eich cais yn anghywir neu’n gamarweiniol, yn cynnwys unrhyw wybodaeth ynglyˆn â’r swm o gymorth de minimis a dderbynioch lle bo’n berthnasol, er na chaiff ei gyfyngu i hynny.
  20. Os yw eich cais yn llwyddiannus, caiff taliadau gan Lywodraeth Cymru i’r Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd eu talu ar eich rhan chi fel defnyddiwr terfynol y gwasanaeth. Ni fydd y taliad yn gyfystyr â chymorth gwladol i’r Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd. Ni fydd y taliad hwn yn creu contract rhwng Llywodraeth Cymru a’r Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd.

 

Rhaid i chi hefyd ddarllen yr amodau talu ar gyfer pob ymgeisydd.

Yr amodau talu ar gyfer pob ymgeisydd

  1. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian ar gyfer ôl-geisiadau a/neu hawliadau ôl-weithredol.
  2. Rhaid bodloni’r amodau talu yn sgil derbyn Llythyr Cynnig Arian a gosod eich cyswllt band eang fel rhan o’ch hawliad am daliad.
  3. Cyfrifoldeb y sawl sy’n derbyn y Llythyr Cynnig Arian yw llenwi a chyflwyno’r holl ddogfennaeth ofynnol, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ei derbyn, gan gynnwys y datganiad o dystiolaeth bod y cysylltiad wedi’i osod, er mwyn iddi allu gwneud taliad.
  4. Y sawl a dderbyniodd y Llythyr Cynnig Arian ddylai lenwi’r hawliad.
  5. Bydd derbynwyr grantiau nad ydynt yn llenwi’r hawliad gofynnol yn agored i dalu cost lawn y gwaith gosod i ddarparwr y gwasanaeth.
  6. Drwy lenwi’r hawliad ar-lein, rydych yn cytuno eich bod am i Lywodraeth Cymru dalu darparwr eich gwasanaethau rhyngrwyd ar eich rhan.
  7. Rhaid i’r cyfarpar rhyngrwyd a osodir drwy’r cynllun grant aros ar y safle ac nid oes modd ei symud i rywle arall.

 

Os na chaiff yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani ei darparu, fe fydd yna oedi wrth brosesu eich hawliad. Ni allwn gwblhau eich hawliad hyd nes y byddwn wedi derbyn yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani.

Os nad ydym yn derbyn y wybodaeth y gofynnwyd amdani, mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i wrthod eich hawliad.

Ni wneir unrhyw daliad gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r cynllun Allwedd Band Eang Cymru tan y byddwch wedi bodloni’r meini prawf canlynol:

Rydych wedi derbyn amodau a thelerau’ch Llythyr Cynnig Arian. Mae’r gwaith o osod eich gwasanaeth band eang wedi’i gwblhau ac mae gennych wasanaeth band eang cymwys sy’n gweithio yn unol â’ch llythyr cynnig arian. Rydych wedi cyflwyno ffurflen hawlio wedi’i llenwi gyda’r wybodaeth gywir i’w chefnogi – caiff y ffurflen hawlio ei darparu pan gyhoeddir y Llythyr Cynnig Arian. Rydych wedi datgan wrth lenwi’r hawliad ar-lein bod yr offer band eang wedi’i osod, ei fod yn gweithio’n foddhaol a bod y safle’n derbyn y cyflymder gofynnol yn unol â naill ai’r grant o £400 neu’r grant o £800. Os bydd gweinyddwyr y cynllun yn gofyn am hynny, byddwch wedi rhoi prawf eich bod wedi talu ar ffurf anfoneb gan ddarparwr eich gwasanaeth yn dilyn cwblhau’r gwaith gosod a fydd yn cynnwys manylion y costau a rhifau cyfresol yr offer sydd wedi’i osod. Rydych chi wedi cwblhau’r manylion banc os yw’ch hawliad yn ymwneud â chael eich ad-dalu yn hytrach na thalu darparwr eich gwasanaeth rhyngrwyd.