Sut mae ap yn helpu yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae’r ap yn helpu i reoli lledaeniad y coronafeirws (COVID-19) drwy hysbysu defnyddwyr os byddant yn dod i gysylltiad â rhywun sy'n profi'n bositif am y coronafeirws yn ddiweddarach.
Mae'r ap yn galluogi pobl i adrodd am symptomau, nodi canlyniad prawf coronafeirws ac mae'n helpu'r GIG i olrhain unigolion a allai fod wedi cael y coronafeirws.
Mae'r ap yn gwneud hyn gan sicrhau bod gwybodaeth am y defnyddiwr yn cael ei chadw yn ddienw. Fydd neb, gan gynnwys y llywodraeth, yn gwybod pwy yw defnyddiwr penodol nac yn cael gwybod ble mae'r defnyddiwr.
Mae'r ap ar gael i'w lawrlwytho o siop Apple app neu siop Google Play.
Drwy lawrlwytho a defnyddio'r ap, gallwch helpu i gadw eich teulu a'ch ffrindiau yn ddiogel.
Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi
Os ydych chi'n dewis lawrlwytho'r ap, mae pum nodwedd allweddol a fydd yn eich helpu chi a'ch cymuned.
Olrhain
Mae'r ap yn canfod ac yn cofnodi defnyddwyr eraill yr ap sydd gerllaw drwy ddefnyddio rhifau adnabod unigryw ar hap. Os bydd unrhyw un o'r defnyddwyr hynny yn profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19) yn ddiweddarach, byddwch yn derbyn hysbysiad o ddod i gysylltiad â’r haint ynghyd â chyngor ar beth i'w wneud. Os ydych o dan 18 oed, dylech ddangos yr hysbysiad hwn i oedolyn rydych yn ymddiried ynddo.
Rhybudd
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer yr ap am y tro cyntaf, gofynnir i chi am hanner cyntaf eich cod post. Gallwch wirio'r ap i weld a yw'r ardal lle rydych chi'n byw wedi dod yn ardal risg uchel ar gyfer y coronafeirws. Os yw hi, byddwch yn derbyn hysbysiad i roi gwybod i chi. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau bob dydd i'ch diogelu chi a'r bobl rydych chi'n eu caru.
Symptomau
Os ydych chi'n teimlo'n anhwylus, gallwch ddefnyddio'r ap i wirio a allai eich symptomau fod yn gysylltiedig â'r coronafeirws (COVID-19).
Profi
Os oes gennych chi coronafeirws, gallwch nodi canlyniad eich prawf positif yn yr ap.
Diogelu eraill
Os ydych chi wedi nodi canlyniad prawf positif, mae'r ap yn cynnig amserydd sy'n cyfrif am yn ôl er mwyn bod cofnod gennych am ba mor hir y bydd angen i chi fod yn ofalus. Pan fyddwch chi'n dod i ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd yr ap yn anfon hysbysiad atgoffa gyda dolen i'r cyngor diweddaraf ar eich cyfer.
Sut mae'r ap yn gweithio
Mae ap COVID-19 y GIG yn defnyddio nodwedd bresennol “Cofnodi Dod i Gysylltiad” eich ffôn clyfar i ganfod a ydych chi wedi treulio amser yn agos at ddefnyddwyr ap eraill sydd wedi profi'n bositif ar gyfer y coronafeirws (COVID-19).
Er mwyn i hyn weithio, mae angen i'ch Bluetooth fod wedi'i droi ymlaen: ni fydd hyn yn effeithio ar eich batri gan fod yr ap yn defnyddio “Bluetooth Egni Isel”.
Mae'n defnyddio eich ardal cod post i ddweud wrthych a yw eich ardal mewn perygl. Pan fyddwch yn lawrlwytho'r ap gofynnir i chi rannu 4 llythyren a digid cyntaf eich cod post gyda GIG Cymru. Yn gyffredinol, mae ardal cod post yn cynnwys tua 8,000 o gyfeiriadau. Mae hyn yn golygu na ellir adnabod eich lleoliad penodol.
Eich preifatrwydd a'ch data personol
Nid yw'r ap yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch nac yn olrhain eich lleoliad.
Mae'r ap yn defnyddio rhifau adnabod unigryw ar hap i ganfod defnyddwyr eraill ap Profi ac Olrhain y GIG er mwyn anfon rhybuddion. Bydd defnyddio'r rhifau adnabod ar hap hyn yn golygu bod eich rhyngweithio â defnyddwyr eraill yr ap yn aros yn breifat. Caiff yr holl gofnodion, megis dyddiad, amser a pha mor agos ydych chi at ddefnyddwyr eraill, eu cadw ar eich ffôn chi'n unig. Gallwch chi hefyd ddileu'r ap a'r holl ddata mae'n eu cadw pryd bynnag y mynnoch.
Nid oes modd defnyddio'r ap:
- i'ch adnabod chi
- i'ch olrhain chi
- i wirio a ydych chi'n hunanynysu
- gan wasanaethau gorfodi'r gyfraith
Mwy o wybodaeth am ap COVID-19 y GIG
Mae mwy o wybodaeth am yr ap a sut i’w ddefnyddio ar wefan cefnogi ap COVID-19 y GIG.