Neidio i'r prif gynnwy

Yn egluro strwythur a buddion y wobr.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Asesiad effaith: darpur Dystysgrif Her Sgiliau fel rhan o Fagloriath Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 460 KB

PDF
460 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Beth yw Bagloriaeth Cymru?

Cafodd Bagloriaeth Cymru ei dylunio yng Nghymru ar gyfer ein dysgwyr. Mae'n cynnig profiadau ehangach na rhaglenni dysgu traddodiadol, er mwyn diwallu anghenion amrywiol pobl ifanc. Mae Bagloriaeth Cymru yn seiliedig ar gyfuniadau penodol o gymwysterau sy'n helpu dysgwyr i elwa i'r eithaf ar y profiadau a'r sgiliau hyn.

Mae’n gymhwyster eang sy'n addysgu sgiliau allweddol sy'n ategu'r pynciau a'r cyrsiau sydd eisoes ar gael i ddysgwyr. Caiff dysgwyr brofiad go iawn o'r byd y tu allan i'r ysgol, a dysgu sut i roi eu sgiliau ar waith mewn sefyllfaoedd ymarferol.

Sut y mae wedi'i strwythuro?

Gellir cyflawni Bagloriaeth Cymru ar dair lefel:

  • Sylfaen (Lefel 1)
  • Cenedlaethol (Lefel 2)
  • Uwch (Lefel 3)

Mae pob lefel yn cynnwys nifer o elfennau ac fe'i cyflawnir drwy gwblhau'r Dystysgrif Her Sgiliau yn llwyddiannus yn ogystal â'r lefel cyrhaeddiad ofynnol mewn cymwysterau ategol.

Diagram: Strwythur Bagloriaeth Cymru

Beth yw'r Dystysgrif Her Sgiliau?

Cymhwyster annibynnol yw'r Dystysgrif Her Sgiliau, a gaiff ei raddio a'i ystyried yn gymhwyster cyfwerth â TGAU neu Safon Uwch, neu gellir ei astudio ochr yn ochr â chymwysterau TGAU neu Safon Uwch. Gall y Dystysgrif gael ei chyflawni a'i dyfarnu i ddysgwyr heb y cymwysterau ategol sy'n rhan o Fagloriaeth Cymru.

Mae'n cynnig cymhwyster o fath gwahanol, sy'n canolbwyntio ar feithrin amrywiaeth o sgiliau cyflogadwyedd hanfodol. Mae'n rhoi'r cyfle i ddysgwyr astudio pynciau a materion o'u dewis, sy'n berthnasol i'w cynlluniau ar gyfer astudio a dilyn gyrfa yn y dyfodol.

Mae'n cynnwys pedair elfen:

  • Prosiect Unigol
  • Her Menter a Chyflogadwyedd
  • Her Dinasyddiaeth Fyd-eang
  • Her Gymunedol

Caiff y Dystysgrif ei dyfarnu ar sail canlyniadau cyfun y pedair elfen.

Mae'r Dystysgrif yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol a'r sgiliau cyflogadwyedd y bydd eu hangen ar bobl ifanc yn eu bywydau yn y dyfodol. Caiff y sgiliau hyn eu datblygu a'u hasesu drwy brosiect unigol a thair her. Mae wedi'i chynllunio i gynnwys ymarferion dysgu ac asesu a fydd yn tanio brwdfrydedd dysgwyr, yn eu hysgogi ac yn ennyn eu diddordeb, a hynny yn y dosbarth, y gweithle a'r gymuned ehangach. Mae'n ofynnol i ddysgwyr fyfyrio ar y ffordd y gallai defnyddio'u sgiliau effeithio ar unigolion, cyflogwyr, y gymdeithas a'r amgylchedd.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am strwythur Bagloriaeth Cymru ar wefan Cymwysterau Cymru a gwefan CBAC.

Pam rydym ni eisiau i ddysgwyr gwblhau Bagloriaeth Cymru?

Rydym am i bob dysgwr elwa ar Fagloriaeth Cymru, a chyflawni'r Dystysgrif Her Sgiliau. Drwy ychwanegu sgiliau cyflogadwyedd a datblygiad personol hanfodol at astudiaethau academaidd neu gymwysterau galwedigaethol, mae Bagloriaeth Cymru yn helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch neu addysg bellach, cyflogaeth a bywyd.

Mae'n rhoi cyfle i'n dysgwyr feithrin y sgiliau ehangach a'r wybodaeth sy'n cyd-fynd â phedwar diben y cwricwlwm newydd, ac adeiladu arnynt.

Rydym am i'r holl ddysgwr yng Nghymru fod:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Drwy'r Dystysgrif, gall dysgwyr feithrin eu sgiliau ehangach a'u hyder, gan eu galluogi a'u grymuso i fod yn ddinasyddion cyfrifol a gweithgar mewn cymdeithas amrywiol. Yn benodol, mae'r Her Menter a Chyflogadwyedd yn cefnogi dysgwyr i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol a fydd yn fwy parod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.

Drwy'r her Dinasyddiaeth Fyd-eang a'r Her Cymuned, caiff y dysgwyr gyfle i ddatblygu eu gwybodaeth am gymdeithas a'r gymuned y maent yn byw ynddo, a'u dealltwriaeth ohonynt ac i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion, digwyddiadau a safbwyntiau byd-eang - gan eu helpu i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Mae'r prosiect unigol yn rhoi'r cyfle i'r dysgwr ymgymryd â gwaith sy'n gysylltiedig â'i astudiaethau, maes sydd o ddiddordeb penodol iddo neu'r cwrs addysg bellach/uwch y mae'n dymuno ei astudio.

A yw Bagloriaeth Cymru yn orfodol?

Dylai gael ei chynnig i bob dysgwr mewn ysgolion a cholegau addysg bellach ar Gyfnod Allweddol 4 ac ôl-16, yn unol â'n gweledigaeth sy'n rhagweld y bydd y Fagloriaeth yn cael ei mabwysiadu'n gyffredinol. Dylai dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 4 ei hastudio ar y lefel sy'n briodol iddynt.

Nid oes unrhyw ofyniad statudol i ddysgwyr ddilyn unrhyw gymwysterau. Felly, nid yw'r Dystysgrif Her Sgiliau yn orfodol. Fodd bynnag, mae'n bolisi gennym i annog pob ysgol a choleg i'w chynnig fel rhan o'u rhaglenni dysgu.  Dylai pob dysgwr felly gael y cyfle i elwa ar y Dystysgrif fel rhan o Fagloriaeth Cymru.

I'r rhan fwyaf o ddysgwyr, mae'n amhrisiadwy wrth eu helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn parhau i astudio ac ar gyfer y byd gwaith. Mae'n ategu pynciau a chyrsiau eraill, gan roi mwy o hyder i ddysgwyr ynghyd â phrofiad addysgol mwy cyflawn.

Mae'n bosibl na fydd astudio'r Dystysgrif yn ddewis cywir i bob dysgwr, ac felly mae angen i ni arfer rhywfaint o hyblygrwydd. Dylai ysgolion a cholegau ddarparu cyfleoedd sydd er budd pennaf eu dysgwyr. Rydym yn disgwyl i ysgolion a cholegau ddefnyddio'u barn broffesiynol drwy roi ystyriaeth ddyledus i lesiant pob person ifanc a'i allu i gyflawni ei lawn botensial, wrth benderfynu a ellir eithrio dysgwr rhag dilyn Bagloriaeth Cymru a'r Dystysgrif.

A yw cyflogwyr yn gweld gwerth Bagloriaeth Cymru?

Bydd yn helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr yn eu gweithluoedd ac felly, yn ei gwneud yn haws iddynt fanteisio ar gyfleoedd amrywiol pan fyddant yn gadael y byd addysg ac yn symud i'r byd gwaith.

Roedd y gwaith o’i datblygu yn cynnwys cyflogwyr ac arbenigwyr o bob cwr o'r DU, ac mae cynnwys y fanyleb yn cynnig dewis o fodelau cyflwyno i ysgolion, fel y gellir bodloni gofynion y cwricwlwm mewn ffordd greadigol.

Yn ôl yr adolygiad o'r Dystysgrif Uwch a gynhaliwyd gan Wavehill ar ran Cymwysterau Cymru, mae llawer o gyflogwyr yn dweud bod y sgiliau a ddatblygir drwy Fagloriaeth Cymru yn rhai y bydd eu hangen ar bobl ifanc er mwyn llwyddo yn y gweithle.

A yw prifysgolion yn gweld gwerth y Dystysgrif Her Sgiliau?

Mae prifysgolion yn rhoi gwerth mawr ar y sgiliau, y priodoleddau a'r ymddygiadau a ddatblygir drwy'r Dystysgrif.   Gall y Dystysgrif Uwch helpu myfyrwyr i gael eu derbyn i addysg uwch.

Rydym yn annog colegau a'r chweched dosbarth i sicrhau bod eu pobl ifanc yn dilyn dau neu dri chymhwyster Safon Uwch (neu gyfwerth) yn unol â gofynion y cwrs addysg uwch y maent yn bwriadu'i ddilyn, yn ogystal â'r Dystysgrif Uwch. Mae prifysgolion, ar y cyfan, yn gefnogol o'r dull hwn.

Mae prifysgolion yn gyrff hunanlywodraethol ac, fel y cyfryw, nhw sy'n gyfrifol am bennu'r meini prawf ar gyfer eu cyrsiau. Mae prifysgolion ledled y DU, gan gynnwys prifysgolion Grŵp Russell, yn gadarnhaol iawn ar y cyfan, â llawer ohonynt yn barod i dderbyn y Dystysgrif Uwch at ddibenion gofynion derbyn.

Fodd bynnag, mae gwahaniaethau yn y ffordd y mae gwahanol brifysgolion yn ymdrin â'r Dystysgrif Uwch fel rhan o'u prosesau cynnig. Weithiau, ceir gwahaniaethau rhwng gwahanol gyrsiau a gynigir gan yr un brifysgol.

  • Bydd rhai prifysgolion yn ystyried bod y Dystysgrif Uwch gyfwerth â Safon Uwch wrth wneud cynnig
  • Bydd eraill yn gwneud cynigion amgen i fyfyrwyr sy'n cyflawni'r Dystysgrif Uwch.

Mae gan rai prifysgolion a chyfadrannau bolisi caeth o wneud cynigion yn seiliedig ar raddau Safon Uwch yn unig. Ond bydd llawer o'r rhain yn ystyried y profiadau a enillir gan ddysgwyr tra byddant yn astudio'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch wrth benderfynu p'un ai i wneud cynnig ai peidio.

Mae'r prifysgolion hynny nad ydynt yn derbyn y Dystysgrif Uwch fel rhan o'r gofynion derbyn penodol yn dal i weld gwerth yn y sgiliau a'r profiadau ehangach y mae'n ei gynnig i'r person ifanc, a gall gyfoethogi ceisiadau, e.e. datganiadau personol a chyfweliadau.

Cymhwyster cymharol newydd yw'r Dystysgrif Uwch, a gyflwynwyd yn 2015. Nid yw'n anghyffredin i rai prifysgolion gymryd peth amser i gydnabod a derbyn cymwysterau newydd yn llawn – rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid felly i hyrwyddo'r cymhwyster i brifysgolion ledled y DU.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am brifysgolion sy’n derbyn y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch ar wefan CBAC.