Band eang a arweinir gan y gymuned
Os yw eich eiddo wedi’i leoli yn agos at gartrefi a busnesau eraill y mae angen band eang cyflymach arnynt, gallech ddod at eich gilydd a chanfod ateb cymunedol.
Ble i ddechrau
Y cam cyntaf ar gyfer sefydlu prosiect band eang cymunedol yw siarad â'ch cymdogion. Ffurfiwch grŵp lleol i ddeall beth sydd ei angen arnoch chi fel cymuned. Darganfyddwch beth yw maint yr ardal rydych am fynd i'r afael â hi, a sawl eiddo sydd yno. Gall rhan o hyn gynnwys cynhyrchu diddordeb gyda’r bobl hynny yn eich ardal, a’u diweddaru wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen. Nodwch pwy yw’r bobl allweddol yn eich cymuned a fydd yn arwain eich prosiect yn dda, yn ogystal â gwirfoddolwyr a all eich helpu.
Edrych ar wasanaethau band eang presennol
Cyn gynted ag y bydd gennych restr o eiddo, edrychwch i weld pa wasanaethau band eang sydd eisoes ar gael iddynt. Efallai bod seilwaith wedi cael ei adeiladu yn y gorffennol a all eich helpu i benderfynu pa opsiwn technoleg i'w ddewis ar gyfer eich prosiect. Hefyd, edrychwch i weld a oes unrhyw gynlluniau i ddarparu band eang ffeibr yn eich ardal chi yn y dyfodol. Dysgwch fwy ar ein tudalen Pa opsiynau sydd gennyf?
Opsiynau technoleg
Mae llawer o eiddo yn defnyddio cysylltiad band eang ffeibr, ond mae llawer o ffyrdd gwahanol i gysylltu â band eang. Gallwch ddysgu mwy ar ein tudalen technolegau band eang amgen.
Cytuno ar ddull gweithredu
Mae sawl dull gwahanol o weithredu ar gael i gymunedau sydd eisiau gwella eu band eang. Gall hyn gynnwys; cynnal prosiect i gyllido darparwr i adeiladu yn eich ardal, adeiladu rhwydwaith y mae’r gymuned yn berchen arno ac y mae darparwr yn ei weithredu, neu adeiladu rhwydwaith y mae’r gymuned yn berchen arno ac yn ei weithredu. Mae gan Lywodraeth y DU ganllawiau ar gael ar fodelau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned ar gyfer gwella band eang.
Cyllid
Mae gennym gyllid ar gael i gefnogi costau gosod cysylltiadau band eang newydd.
- Os ydych chi’n rhan o gymuned wledig, efallai y gall Llywodraeth y DU helpu i’ch cysylltu â band eang gigabit. Efallai y bydd help hefyd ar gael gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau hyn i’r rheini sydd â chyswllt arafach na 30Mbps.
- Mae'n bosibl bydd cyllid ar gael gan sefydliadau eraill a allai roi cymorth i'ch prosiect, felly, gwnewch ymchwil i'r holl opsiynau sydd ar gael ichi.
Help a chyngor
Mae nifer o sefydliadau ar gael i allu eich cefnogi i sefydlu prosiect cymunedol.
- Mae gan Lywodraeth y DU ganllaw manwl ar sut i sefydlu cynlluniau band eang a arweinir gan y gymuned.
- Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn gweithio gyda chymunedau i'w cefnogi wrth iddynt gwblhau prosiectau sy’n mynd i'r afael ag allgáu ac yn darparu sgiliau. Maen nhw’n gallu cynnig cyngor a chymorth am ddim ar amrywiaeth o feysydd.
- Yn dibynnu ar y dull mae eich cymuned yn ei ddewis, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cynnig cyngor ar y wahanol strwythurau sydd ar gael i grwpiau gwirfoddol.
- Mae Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cefnogi cymunedau a busnesau gwledig. Mae rhestr o Grwpiau Gweithredu Lleol a all eich helpu ar gael ar eu gwefan.
- Mae enghreifftiau o gymunedau sydd wedi defnyddio ein cynllun talebau i wella eu band eang ar gael ar ein tudalen Storïau Pobl Go Iawn.