Technolegau Band Eang Amgen
Mae llawer o eiddo yn defnyddio cysylltiad band eang ffeibr, ond mae yna ffyrdd eraill ar gael i gysylltu â band eang.
Mae technolegau presennol yn gwella, sy’n golygu y gallai atebion yr ydych efallai wedi’u diystyru yn y gorffennol fod yn opsiwn i chi erbyn hyn. Mae technolegau newydd yn datblygu’n gyflym, felly mae’n well ymchwilio i’r holl atebion diweddaraf sydd ar gael. Dyma rai o’r technolegau hynny:
Cysylltiad di-wifr sefydlog
Defnyddir antena i godi signal band eang o fast i ddarparu band eang i'ch eiddo, gan ddileu’r angen am geblau neu linellau ffôn.
Ateb symudol/band eang 4G
Gellir gosod llwybrydd band eang i gysylltu’ch eiddo â band eang drwy rwydwaith 4G ffôn symudol. Nid yw’n golygu defnyddio ffôn symudol, ac nid oes angen unrhyw geblau na llinell ffôn arnoch. Gellir gosod antena ar ochr eich eiddo mewn ardaloedd lle nad yw signal 4G yn gryf dan do. Erbyn hyn, mae pecynnau data digyfyngiad ar gael hefyd gan nifer o ddarparwyr.
Cysylltiad lloeren
Mae lloeren yn trosglwyddo data i soser sydd ar eich eiddo chi, i ddod â band eang ichi. Mae hyn yn darparu cyflymder lawrlwytho cyflym iawn a dylai fod ar gael ym mhobman.
Ateb band eang cymunedol
Mae hyn yn galluogi cartrefi a busnesau i ariannu ateb band eang cyflym iawn fel rhan o brosiect grŵp. Gallwch ddysgu mwy am sefydlu prosiect band eang cymunedol ar ein tudalen band eang a arweinir gan y gymuned.
Support available
Mae gan rai technolegau gostau gosod y mae’n rhaid eu talu ymlaen llaw; mae cyllid ar gael i helpu â hyn.
- Ar gyfer eiddo unigol y mae angen iddynt gyflymu’u band eang, mae ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn darparu grantiau i dalu am osod cysylltiadau band eang newydd.
- Os ydych chi’n rhan o gymuned wledig, efallai y gall Llywodraeth y DU helpu i’ch cysylltu â band eang gigabit. Efallai y bydd help hefyd ar gael gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau hyn i’r rheini sydd â chyswllt arafach na 30Mbps.