Neidio i'r prif gynnwy

Cofiwch y gall unrhyw un sy’n rhoi manylion neu dystiolaeth ffug i wneud cais gael dirwy o £5,000.

I gael Bathodyn Glas, rhaid bodloni’r amodau. Bydd y bathodyn yn rhoi mwy o annibyniaeth i bobl trwy eu helpu i gael y gorau o wasanaethau a chyfleusterau. Gallant fod yn yrrwr neu’n deithiwr.

Nid oes rhaid i berson yrru er mwyn cael gwneud cais am Fathodyn Glas. Ar gyfer unigolion mae’r Bathodyn a gall gael ei ddefnyddio mewn unrhyw gar y bydd yr unigolyn yn teithio ynddo.

Gall sefydliad fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas os yw’n gofalu am bobl anabl neu’n cludo pobl anabl fyddai’n gymwys i gael Bathodyn Glas eu hunain.

Yng Nghymru ni chodir tâl am Fathodyn Glas. Nid yw gwefannau sy’n codi tâl i wneud cais am Fathodyn Glas yn ddarparwyr dilys a dylid eu hosgoi.

Yng Nghymru, gall unigolyn yn un o’r categorïau canlynol fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas:

Cymwys yn awtomatig

Gall unigolyn fod yn gymwys am fathodyn heb asesiad os yw’n derbyn un o’r Budd-daliadau Anabledd canlynol neu os oes ganddynt nam ar eu golwg.

Budd-dal anabledd neu nam Tystiolaeth foddhaol
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ar y lefelau canlynol:
    • 12 pwynt ar gyfer Cynllunio a Dilyn Taith
    • 8 pwynt neu fwy ar gyfer symudedd
  • Elfen Symudedd Cyfradd Uwch y Lwfans Byw i’r Anabl (y Gyfradd Uwch)

 

lythyr dyfarnu gwreiddiol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer un o’r Budd-daliadau hyn.

 

 

  • Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, Tariff 1-8 (cynhwysol) gan gynnwys Anhwylder Meddwl Parhaol o dan Tariff 6.
  • Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel

 

 

Llythyr dyfarnu gwreiddiol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

 

 

 

  • Wedi’u ‘Cofrestru’n ddall’ neu â ‘nam difrifol ar eu golwg’

 

 

Un o’r canlynol - 

  • Adroddiad offthalmolegydd. Ffurflen CV1/BD8 yn cadarnhau bod gan yr ymgeisydd ‘nam difrifol ar y golwg (Dall)’.
  • Wedi’i gofrestru â Nam ar y Golwg gyda’r awdurdod lleol ar lefel ‘ddifrifol’.

Cymwys yn ôl disgresiwn

Gall amgylchiadau penodol wneud unigolyn yn gymwys er nad yw’n derbyn y budd-daliadau a restrir. Sef:

Cyflwr, nam neu anabledd Tystiolaeth foddhaol

Methu cerdded o gwbl. Anhawster mawr i gerdded. Nam sylweddol ar symudedd

  • Person dros ddwy flwydd oed sydd ag anabledd parhaol  a difrifol. Mae hyn y golygu nad yw’n gallu cerdded neu’n cael anhawster mawr i gerdded. Mae angen cymhorthion cerdded neu hyd yn oed ocsigen arno i gerdded ychydig megis hanner hyd cae pêl-droed.

 

Bydd angen mwy o wybodaeth ar yr awdurdod lleol i gefnogi hawliad. Dylai ymgeiswyr siarad â’r awdurdod lleol am hyn yn gyntaf a pheidio â gofyn am lythyr gan y meddyg teulu.

Plentyn o dan dair blwydd oed sydd â chyflwr meddygol sy’n golygu:

  • bod angen offer meddygol mawr na ellir ei gludo gyda’r plentyn heb anhawster wrth law bob amser
  • bod rhaid iddo bob amser fod yn agos at gerbyd i gael triniaeth feddygol a all achub bywyd ar gyfer y cyflwr hwnnw neu er mwyn iddo allu teithio’n gyflym yn y cerbyd i rywle y gellir rhoi triniaeth o’r fath.

 

 

Llythyr gan bediatregydd.

Anabledd difrifol yn y ddwy fraich

  • Person sydd, o ganlyniad i’r anabledd, yn methu â defnyddio, neu’n cael anhawster difrifol i ddefnyddio unrhyw fath o fesurydd parcio. Neb ond y sawl sy’n gyrru gaiff ddefnyddio’r bathodyn hwn.

 

Trwydded yrru sydd â chôd 40 (llyw wedi’i addasu) neu 79 (cerbydau â nodweddion arbennig).

Nam Gwybyddol Difrifol

  • Person nad yw’n gallu cynllunio na ddilyn unrhyw daith heb gymorth rhywun arall.

 

Un o’r canlynol -

  • Ar gofrestr anableddau dysgu yr awdurdod lleol.
  • Llythyr gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n rhoi triniaeth ee o glinig y cof.

Salwch angheuol sy’n cyfyngu’n sylweddol ar symudedd

Ffurflen SR1 neu lythyr ategol oddi wrth nyrs Macmillan neu Tenovus.

Cymwys dros dro

Caiff unigolyn wneud cais am fathodyn 12 mis dros dro os yw’n aros am driniaeth ar gyfer salwch neu anaf difrifol neu’n gwella ar ôl salwch neu anaf difrifol. Dyma rai enghreifftiau:

Cyflwr, salwch neu anaf Tystiolaeth foddhaol

Gwella ar ôl torri asgwrn coes yn ddifrifol ac yn defnyddio fframiau a phiniau, am fwy na blwyddyn

Aros am driniaeth i gael e.e. clun, pen-glin newydd, neu’n gwella ar ôl cael triniaeth o’r fath sy’n cyfyngu’n ddifrifol ar symudedd

Gwella ar ôl strôc neu anaf pen sy’n effeithio ar ei symudedd

Gwella ar ôl trawma i’r cefn sy’n effeithio ar symudedd

Yng nghanol cael triniaeth feddygol e.e. ar gyfer canser, sy’n effeithio ar ei symudedd

 

 

 

Tystiolaeth Foddhaol: Llythyr oddi wrth weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd sy’n rhoi triniaeth. Yn gyffredinol bydd yr awdurdod lleol yn cyfeirio ymgeisydd at gael asesiad annibynnol i weld a yw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer bathodyn dros dro.

Nid yw’r rhesymau isod ar eu pen eu hunain yn ddigon i gael Bathodyn Glas:

  • Beichiogrwydd
  • Lwfans Byw i’r Anabl - Cyfradd Is
  • Lwfans Gweini
  • Anabledd mewn un fraich
  • Problemau â’r bledren neu’r coluddyn megis clefyd Crohn neu Colitis
  • Cyflyrau dros dro megis torri neu droi braich neu goes lle mae angen ei roi mewn cast am wythnosau neu fisoedd
  • Triniaeth ar gyfer salwch neu anaf nad yw’n cael effaith fawr ar symudedd

Sut i wneud cais i gael Bathodyn Glas

Gallwch wneud cais uniongyrchol drwy’ch awdurdod lleol. Mae gan wefan eich awdurdod lleol fanylion sut i wneud cais.

Gallwch hefyd wneud cais ar-lein yn GOV.UK: Gwneud cais am Fathodyn Glas. Bydd eich cais yna’n cael ei anfon at eich awdurdod lleol i’w brosesu.

Pan fydd cais yn cael ei wrthod

Mae penderfyniad yr awdurdod lleol ar gymhwysedd yn derfynol. Nid oes proses apelio. Fodd bynnag, os daw tystiolaeth ychwanegol, gall ymgeisydd ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried y cais.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bŵer i ymyrryd yn y broses benderfynu.

Rhagor o wybodaeth

Am gopïau o'r daflen hon anfonwch e-bost atom neu ffoniwch 0300 0604400.