Rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector gwledig sy'n edrych ar effeithiau ymadael â’r UE.
Mae grŵp Bord Gron Cymru yn edrych ar effeithiau penderfyniad y DU i ymadael â'r UE. Mae'n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o bortffolio'r Amgylchedd a Materion Gwledig, gan gynnwys:
- bwyd
- pysgodfeydd
- coedwigaeth
- amaethyddiaeth
- yr amgylchedd
Mae'r ffaith bod amrywiaeth ymhlith yr aelodau yn golygu ein bod yn gallu ystyried yr holl sectorau wrth inni fynd ati i edrych ar y materion dan sylw.
Bydd gwaith y Ford Gron a'i his-grwpiau yn dylanwadu ar:
- bolisi
- rhaglenni
- trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ac adrannau eraill Llywodraeth y DU
Ond ni fyddant, o reidrwydd, yn adlewyrchu'n barn ni.
Is-grwpiau'r ford gron
- Is-grŵp Tystiolaeth a Senarios (Bord Gron Cymru ar Brexit)
- Is-grŵp Rheoli Tir (Bord Gron Cymru ar Brexit)
- Is-grŵp Deddfwriaeth a Rheoleiddio (Bord Gron Cymru ar Brexit)
- Is-grŵp Pobl a Chymunedau (Bord Gron Cymru ar Brexit)
- Is-grŵp Moroedd a'r Arfordir (Bord Gron Cymru ar Brexit)
- Is-grŵp Masnach a Chadwyni Cyflenwi (Bord Gron Cymru ar Brexit)