Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Diben y Bwrdd

Bydd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yn rhoi cyngor i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddatblygu polisi mewn perthynas â'r sector Atal Digartrefedd a Chymorth Tai.

Prif ddiben y Bwrdd fydd rhoi cyngor arbenigol a thraws-sector i'r Gweinidog ar effeithiolrwydd yr ymateb polisi traws-lywodraethol o ran atal a mynd i'r afael â digartrefedd a darparu atebion effeithiol ynghylch cymorth tai. 

Bydd y Bwrdd yn goruchwylio ac yn llywio'r gwaith o ddatblygu, cyflawni a rhoi ar waith y cynllun gweithredu sy'n deillio o'r argymhellion a wnaed gan y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd a bydd yn sicrhau bod yr agenda trawsnewid yn symud ymlaen mewn da bryd, fel y nodir yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer atal a chael gwared ar ddigartrefedd.

Swyddogaeth y Bwrdd

Swyddogaeth y Bwrdd fydd:

  • cynghori'r Gweinidog ar y cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu polisi i atal a mynd i'r afael â digartrefedd a darparu atebion effeithiol ynghylch cymorth tai;
  • cynghori'r Gweinidog ar farn y sector ynghylch effeithiolrwydd cyllid grant sy'n gysylltiedig ag atal digartrefedd yng nghyd-destun cyflawni eu hamcanion. Mae hyn yn cynnwys y Grant Cymorth Tai a'r Grant Atal Digartrefedd;
  • datblygu mecanweithiau i allu gwrando ar farn a phrofiadau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth tai, a'u defnyddio i lywio'r cyngor a ddarperir i'r Gweinidog;
  • sicrhau bod cyngor yn ystyried Cynllun Gweithredu Cydraddoldebb Hiliol Llywodraeth Cymru a'i fod yn adlewyrchu natur amrywiol cymdeithas ac yn mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y mae rhai grwpiau yn eu hwynebu;
  • ystyried data a thystiolaeth ymchwil a meincnodi cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol, a'u defnyddio i lywio'r cyngor a ddarperir i'r Gweinidog;
  • ystyried materion traws-lywodraethol a darparu cyngor ar draws Gweinidogion, sicrhau bod cyngor polisi yn ystyried ac yn cael ei weld drwy lens iechyd y boblogaeth; a
  • darparu cyngor ad hoc a chyflawni darnau penodol o waith yn unol â chais y Gweinidog.  

Statws y Bwrdd

  • Corff cynghori yw’r Bwrdd ac o’r herwydd rhaid iddo gael ei rwymo gan ddisgwyliadau rhesymol corff o'r fath.  Mae'n bwysig cydnabod nad oes gan y Bwrdd unrhyw bwerau na swyddogaethau statudol.
  • Mae'r Bwrdd yn cynghori Llywodraeth Cymru o fewn y cylch gwaith y cytunwyd arno ar ei gyfer gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Bydd y Bwrdd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o bob cyfarfod i'r Gweinidog, gan gynnwys unrhyw gyngor i'w ystyried gan y Gweinidog. 
  • Caiff y Bwrdd benderfynu a ddylid sefydlu is-grwpiau a chyfethol aelodau yn ôl yr amgylchiadau. Caiff ddewis ffurfio is-grwpiau i edrych ar dasgau penodol, e.e. lle mae angen ffocws arbennig o ran polisi neu gyflawni ond nad oes angen i’r Bwrdd cyfan ganolbwyntio arno, neu ar feysydd gwaith trawsbynciol. Bydd y Bwrdd, mewn cytundeb â'r Cadeirydd, yn penderfynu sut i ddyrannu gwaith a chyfrifoldebau ychwanegol yn barhaus.  Bydd pob is-grŵp/grŵp gorchwyl a gorffen yn adrodd i'r Bwrdd.

Trefniadau llywodraethu

  • Penodir aelodau fel cynrychiolydd eu sector penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 1.
  • Disgwylir i’r Aelodau hysbysu’r Cadeirydd pan fo gwrthdaro buddiannau posibl yn ymwneud ag eitem benodol ar yr agenda.
  • Er mwyn sicrhau dilyniant, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir i ddirprwyon ddod i gyfarfodydd. Bydd angen i'r Cadeirydd roi caniatâd ymlaen llaw i'r Aelodau enwebu dirprwy i fod yn bresennol ar eu rhan.
  • Bydd yn ofynnol i draean o aelodau’r Bwrdd fod yn bresennol i fod yn gworwm.
  • Bydd aelodaeth y Bwrdd yn cael ei hadolygu'n flynyddol i sicrhau ei fod yn addas i'r diben.
  • Nid oes tâl am aelodaeth.  Bydd unrhyw dreuliau teithio a chynhaliaeth yr eir iddynt gan aelodau annibynnol a defnyddwyr gwasanaeth y Bwrdd yn cael eu had-dalu gan yr Is-adran Polisi Tai.
  • Defnyddir fideo gynadledda a/neu gynadledda sain i hwyluso gwell presenoldeb a lleihau amser teithio. Byddwn yn sicrhau y byddwn yn cyd-fynd â gofynion Safonau'r Gymraeg ac yn sefydlu dewis iaith ar gyfer cyfrannu.

Amlder y Cyfarfodydd

Bydd y bwrdd yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, gan gynnwys diwrnod cynllunio ar ddechrau'r flwyddyn i gytuno ar raglen waith y Bwrdd. Cynhelir cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen.

Trefniadau'r Ysgrifenyddiaeth

Bydd yr Is-adran Polisi Tai yn Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth gweinyddol ac ysgrifenyddol i'r Bwrdd a bydd yn gweithredu fel pwynt cydgysylltu canolog ar gyfer rhaeadru a dosbarthu deunyddiau ar gyfer cyfarfodydd a dogfennau eraill. Bydd y Cadeirydd yn pennu'r agenda, gan gynnwys y papurau sy'n ofynnol, ar gyfer pob cyfarfod, gan ystyried unrhyw awgrymiadau neu geisiadau gan aelodau unigol.

Atodiad 1: Aelodaeth y Bwrdd

 

Aelodaeth y Bwrdd

Grŵp/Sector a gynrychiolir

Sefydliad

Enw’r aelod a theitl swydd

Cadeirydd Annibynol

Crisis

Matt Downie, Prif Weithredwr

Aelodau Annibynnol  (x 3)

Enwebu drwy Fynegi Diddordeb

Richard Eynon

Shubha Sangal

Versha Sood

Eiriolaeth Digartrefedd

Shelter Cymru

Ruth Power, Prif Swyddog Gweithredol

Corff Cynrychioliadol ar gyfer Darparwyr Cymorth Digartrefedd a Chymorth sy'n Gysylltiedig â Thai yng Nghymru

Cymorth Cymru

Katie Dalton, Cyfarwyddwr

Darparwyr Cymorth Digartrefedd y Trydydd Sector a Chymorth sy'n Gysylltiedig â Thai yng Nghymru

Hafan Cymru

Sian Morgan, Prif Swyddog Gweithredol

Darparwyr Cymorth Digartrefedd y Trydydd Sector a Chymorth sy'n Gysylltiedig â Thai yng Nghymru

Digartref

Wendy Hughes, Prif Swyddog Gweithredol

Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai

Tai Pawb

Alicja Zalesinska, Cyfarwyddwr

Corff Cynrychioliadol ar gyfer Cymdeithasau Tai a’r Sector Tai Cymdeithasol yng Nghymru

Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC)

Clarissa Corbisiero, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Clwyd Alyn

Clare Budden, Prif Weithredwr

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Wales a West

Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr

Y Sector Rhentu Preifat

NRLA Cymru

Douglas Haig, Cyfarwyddwr

Defnyddwyr Gwasanaethau (x2)

I’w cadarnhau. Cymorth Cymru i ddarparu cynrychiolydd

I’w cadarnhau

Corff Cynrychiolwyr Llywodraeth Leol yng Nghymru

CLlLC

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Comisiynydd Llywodraeth Leol

Arweinyddiaeth Tai Cymru

Sam Parry, Cadeirydd

Comisiynydd Llywodraeth Leol

 

Cyngor Sir y Fflint

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

 

Martin Cooil, Rheolwr Tai a’r Gwasanaethau Atal


Shirley Jones,

Arweinydd Cefnogi Tai a Gosod Adeiladau Lleol

Y Comisiynydd Iechyd

Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a’r Fro

Fiona Kinghorn, Cadeirydd 

Cyfiawnder Troseddol – Rheoli Troseddwyr

Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi

Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol

Cyfiawnder Troseddol – yr Heddlu (ee Diogelwch Cymunedol)

Heddlu Gwent

Prif Gwnstabl Pam Kelly

Gwasanaeth Ieuenctid

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid

Joanne Sims, Rheolwr Gwasanaeth – Pobl Ifanc a Phartneriaethau

Gwasanaethau Cymdeithasol

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Jonathan Griffiths, Llywydd

Iechyd y Cyhoedd

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Josie Smith, Pennaeth y Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau