Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar y math o fwyd, a faint o fwyd, sy’n ateb gofynion maeth babanod a phlant.

Mae’r bwydlenni enghreifftiol yn cynnig syniadau ar gyfer brecwast, cinio, te prynhawn, byrbrydau a diodydd am dair wythnos i blant 1-4 oed mewn lleoliad gofal plant rheoledig. Hefyd, mae awgrymiadau ar gyfer addasu’r ryseitiau i siwtio babanod 7-9 mis a 10-12 mis.

Mae'r bwydlenni hyn wedi eu creu i fodloni argymhellion deietegol y Llywodraeth ar gyfer plant dan 4 oed, ac maent yn dilyn safonau a chanllawiau arferion gorau Llywodraeth Cymru.

Gellir defnyddio’r bwydlenni enghreifftiol fel y maent, neu gallwch ddefnyddio rhai o’r ryseitiau unigol yn eich bwydlenni eich hunain er mwyn cael mwy o amrwyaieth a chynhwysion newydd. Cofiwch wneud yn siŵr bod eich bwydlenni yn ddigon cytbwys, gydag amrywiaeth dda o fwydydd. Bydd y canllawiau a’r cynlluniau gweithredu yn eich helpu gyda hyn.