Neidio i'r prif gynnwy

Yn fwy diogel ar 20mya: Beth am edrych allan am ein gilydd

Ar 17 Medi 2023, mae'r rhan fwyaf o derfynau cyflymder 30mya yng Nghymru, wedi newid i 20mya.

Mae'r terfyn cyflymder wedi newid ar strydoedd preswyl a phrysur i gerddwyr er mwyn:

  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel, gan leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu (yn ogystal â lleihau'r effaith ar y gwasanaethau brys a'r GIG)
  • annog mwy ohonom – o bob oedran – i deimlo'n fwy diogel yn teithio ar droed, ar olwyn ac ar feic
  • helpu i wella ein hiechyd a'n llesiant nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Os ydych chi eisiau gweld sut mae hyn wedi effeithio ar strydoedd yn eich ardal chi, ewch i MapDataCymru neu i wefannau eich cyngor neu asiantaeth cefnffyrdd leol.

Saffach ar 20

Mae'r dystiolaeth o bob cwr o'r byd yn glir iawn –  mae lleihau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau.

Yn y pellter gallwch stopio car sy'n teithio 20mya, a byddai car sy'n teithio 30mya yn dal i fod yn gwneud 24mya. A phan fydd rhywun yn cael ei daro gan gerbyd sy’n teithio 30mya, mae tua phum gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd na phan gaiff ei daro gan gerbyd sy’n teithio 20mya.

Mae astudiaeth iechyd cyhoeddus yn amcangyfrif y bydd symud i derfynau cyflymder 20mya yn arwain, bob blwyddyn yng Nghymru, at:

  • 40% yn llai o wrthdrawiadau
  • 6-10 o fywydau’n cael eu hachub
  • rhwng 1,200 a 2000 o bobl yn osgoi anafiadau

Byddai hyn yn arbed tua £92 miliwn drwy atal achosion yn ystod y flwyddyn gyntaf yn unig.

Annog cerdded a beicio

Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi terfyn cyflymder is lle mae pobl yn byw.

Mewn arolwg barn y cyhoedd, roedd 62% o bobl yn cytuno eu bod yn 'dymuno i bawb yn arafu ychydig ar y ffyrdd' a 55% yn cytuno y byddai 'strydoedd yn llawer brafiach i gerddwyr â therfyn cyflymder o 20mya'.

Cyflymder cerbydau yw un o'r prif resymau pam nad yw pobl yn cerdded na'n beicio nac yn caniatáu i'w plant gerdded neu feicio i'r ysgol. Bydd cyflymder traffig is yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio.

Gweld goleuadau stryd? Tybiwch 20

Pan welwch oleuadau stryd, cymerwch yn ganiataol mai'r terfyn cyflymder yw 20mya, oni bai eich bod yn gweld arwyddion sy'n dweud fel arall.

Yn gyffredinol, bydd y strydoedd hyn mewn ardaloedd preswyl neu ardaloedd adeiledig lle mae pobl a cherbydau'n cymysgu.

Nid yw pob stryd wedi newid i 20mya.

Mae eich cyngor lleol wedi ystyried gyda chymunedau, pa strydoedd oedd angen aros ar 30mya a bydd arwyddion 30mya i ddweud hyn wrthych.

Cefnogi 20

Gallwch helpu i greu strydoedd mwy diogel a chymunedau iachach drwy yrru ar 20mya neu is, mewn ardaloedd preswyl neu adeiledig.

Bydd GanBwyll, yr Heddlu a phartneriaid yn parhau i ymgysylltu â’n cymunedau, ac yn gorfodi terfynau cyflymder 20mya, i wneud y ffyrdd yn fwy diogel i bob un ohonom.

Mwy o wybodaeth

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y newid i 20mya, gan gynnwys atebion i rai cwestiynau cyffredin.