Cael prawf i ddarganfod a oes gennych coronafeirws.
Cynnwys
Cymhwysedd ar gyfer profion am ddim
Rydych yn gymwys i gael profion am ddim:
- os yw meddyg neu arbenigwr wedi dweud eich bod yn gymwys i gael triniaethau COVID-19 newydd
- os yw eich meddyg teulu neu’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn ichi wneud prawf
Gallwch archebu profion ar-lein i’w danfon i’r cartref (ar GOV.UK) neu drwy ffonio 119. Croesawir galwadau yn Gymraeg.
Os ydych chi eisiau prawf ond nad ydych yn gymwys i gael pofion llif unffordd (LFT) am ddim, maent ar gael i’w prynu mewn sawl lle.
Prynu profion gan ddarparwr preifat
Mae busnesau fel fferyllfeydd y stryd fawr yn gwerthu profion llif unffordd yn y siop ac ar-lein. Nid yw pob un ohonynt yn cynnig yr un gwasanaethau profi. Cyn ichi chwilio am ddarparwr preifat, bydd angen ichi feddwl pa wasanaeth profi sydd ei angen arnoch. Er enghraifft, os ydych chi’n chwilio am brawf teithio cyn ymadael (‘fit to fly’), mae’r gofynion profi yn cael eu pennu gan y wlad rydych chi’n teithio iddi, ac weithiau’r cwmni hedfan rydych chi’n hedfan gydag ef.
Cofnodi canlyniadau’r profion LFT a brynwyd yn breifat
Os ydych yn prynu prawf preifat ni ddylech gofnodi eich canlyniad ar wefan GOV.UK.
Efallai y bydd gan rai darparwyr preifat eu systemau eu hunain ar gyfer cofnodi canlyniadau.
Os ydych wedi talu am brawf, darllenwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn prawf i gael gwybod a oes angen ichi roi gwybod i’r darparwr preifat beth oedd eich canlyniad.
Os oes angen cyngor meddygol arnoch am eich symptomau
Cysylltwch â’r gwasanaeth coronafeirws ar-lein 111 neu’ch meddyg teulu os ydych chi’n teimlo nad yw eich symptomau’n gwella neu os oes angen cyngor arnoch. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, ffoniwch 111. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Mewn argyfwng meddygol, ffoniwch 999 a rhowch wybod i’r sawl sy’n delio â’r alwad neu’r gweithredwr fod gennych chi neu’ch perthynas symptomau COVID-19.