Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau gweithredol interim

Mae'r GIG a'i bartneriaid yng Nghymru'n symud tuag at ailddechrau gwaith arferol mewn lleoliadau iechyd a lleoliadau cymunedol eraill. Mae atal a rheoli haint yn elfen hollbwysig ar y cam nesaf hwn er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r coronafeirws. Bwriedir y canllawiau hyn ar gyfer gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector sy'n darparu ymyriadau therapiwtig. Mae angen cydnabod gwerth a phwysigrwydd grwpiau therapiwtig wrth ddarparu cyngor a rheolaeth arbenigol, gan alluogi arferion gorau, newid ymddygiad a hunanreoli i gefnogi'r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn. Mae modd ymgymryd â'r rhain mewn modd bach a rheoledig ar draws lleoliadau.

Rhaid i egwyddorion atal a rheoli haint fod yn ystyriaeth hollbwysig wrth gynllunio. Bydd Gwasanaethau wedi cynnal neu eisoes wedi ailgyflwyno ymyriadau gofal ar gyfer unigolion y mae arnynt angen cymorth un-i-un. Gallai hyn gynnwys ymgynghori o bell gan ddefnyddio technolegau digidol neu ymgyngoriadau wyneb yn wyneb i'r rhai sydd â lefel uwch o angen, yn dilyn cyngor a chanllawiau generig sy'n benodol i leoliad ysbyty'r GIG. Lle bo'r trefniadau presennol yn diwallu anghenion clinigol unigolyn dylai'r dull gweithredu hwn barhau. Mae modd diwallu anghenion rhai unigolion y mae arnynt angen ymyriadau grŵp o bell; yn achos eraill bydd angen darparu'r rhain wyneb yn wyneb. Er mwyn i waith grŵp o'r fath ailddechrau dylid dilyn yr egwyddorion canlynol;

  1. Asesiad risg COVID-19 ffurfiol ac wedi'i ddogfennu o'r amgylchedd a'r deunyddiau ffisegol a digidol arfaethedig. Mae'r asesiadau hynny o reidrwydd yn ddeinamig, gallai fod angen eu hadolygu'n rheolaidd a byddant yn cymryd i ystyriaeth ffactorau megis cyfraddau trosglwyddo lleol a chyngor iechyd y cyhoedd lleol.
  2. Rhagwelir y caiff gwaith grŵp ei gynnal mewn lleoliadau cymunedol megis lleoliadau gofal integredig, yr awdurdodau lleol, hamdden a'r trydydd sector, yn hytrach nag mewn lleoliadau iechyd acíwt. Dylai lleoliadau o'r fath ddilyn canllawiau Covid-19 ar gyfer lleoliadau iechyd a, lle bo o gymorth, leoliadau lletygarwch; dylai'r ystafelloedd fod yn fawr ac wedi'u hawyru'n dda, gan ganiatáu pellter o 2 fetr rhwng aelodau'r grŵp. Dylid defnyddio hylif diheintio dwylo ar y ffordd i mewn ac wrth adael y grŵp. Hefyd mae'n hanfodol glanhau cadeiriau, arwynebau a thoiledau rhwng pob sesiwn er mwyn lleihau'r risg. Dylid dilyn egwyddorion megis cyfathrebu, arwyddion, pellter cymdeithasol, rheoli haint, mannau'r staff a swyddfeydd, etc yn unol â'r canllawiau gweithredol presennol. Ni ddylai lluniaeth gael ei darparu. Gallai unigolion ddod â'u diodydd eu hunain yn eu cynwysyddion eu hunain ond rhaid iddynt fynd â nhw i ffwrdd gyda nhw. Dylid cadw cofnod o fanylion cyswllt cyfranogwyr y grŵp a chydsyniad ar sail gwybodaeth. Dylai hwylusydd y grŵp sicrhau bod pellter cymdeithasol yn cael ei gynnal lle bynnag y bo modd, a rhaid i bawb sy'n cymryd rhan gan gynnwys yr hwylusydd wisgo gorchudd wyneb yn unol â'r canllawiau presennol. Dylid gofyn i'r cyfranogwyr a oes ganddynt unrhyw symptomau sy'n awgrymu bod arnynt y coronafeirws a dylid rhoi cyfarwyddiadau clir iddynt beth i'w wneud os byddant yn datblygu symptomau. Dylent hysbysu hwylusydd y grŵp os bydd symptomau'n datblygu, a dylid eu cyfarwyddo i gysylltu â Phrofi, Olrhain a Diogelu. Ni ddylai cyfranogwyr sydd wedi'u cyfarwyddo i hunanynysu am unrhyw reswm fynychu'r grŵp yn ystod y cyfnod hwnnw. 
  3. Asesiad risg ffurfiol wedi'i ddogfennu gan gynnwys y manteision i bob unigolyn sy'n cymryd rhan mewn gwaith grŵp, yn ystyried ffactorau megis a allai eu risg fod yn uwch os byddant yn dal y feirws; ee cyflyrau iechyd cydamserol, meddyginiaethau, oedran etc a/neu a fyddent yn gallu cydymffurfio â phellter cymdeithasol, er mwyn sicrhau diogelwch eraill yn y grŵp. Efallai y bydd achosion lle y bydd risgiau iechyd corfforol yn drech na manteision gwaith grŵp. Lle nad oes gan unigolyn alluedd meddyliol mewn Os bydd unigolyn yn ei chael yn anodd cadw pellter cymdeithasol, ni ddylai fynychu grwpiau ar hyn o bryd. 
  4. Dylid cadw asesiad risg ffurfiol wedi'i ddogfennu o staff sy'n ymgymryd â gwaith grŵp, gan gymryd i ystyriaeth eu risgiau personol unigol, yn unol â gweithdrefnau perthnasol ar gyflogaeth.
  5. Am y tro, dylai nifer y cyfranogwyr fod yn gyfyngedig i'r uchafswm ar gyfer budd therapiwtig y grŵp a'r lle sydd ar gael i ganiatáu pellter cymdeithasol. 
  6. Ni ddylai grwpiau mynediad agored "galw heibio" barhau ar hyn o bryd, gan nad oes modd rheoli'r niferoedd sy'n mynychu ac oherwydd y posibilrwydd o orlenwi y tu allan i'r lleoliad. Mae angen rhag-gofrestru i sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol a dilyn protocolau diogelwch. 
  7. Mae'n briodol cynnig rhai grwpiau trwy dechnolegau digidol ac mae hyn yn cael ei hybu. Dylai darparwyr weithredu o dan egwyddor angen a dewis y defnyddiwr gwasanaethau. Manteisir ar ddiweddaru ymyriadau therapiwtig tra'n diogelu cyfranogwyr ac osgoi allgáu'r rhai mwyaf agored i niwed.