Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ddylai ddefnyddio’r canllawiau hyn

  • darparwyr gwasanaethau gofal plant a chwarae sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (gan gynnwys gwarchod plant, gofal dydd, gofal sesiynol, chwarae mynediad agored a darpariaeth Dechrau'n Deg) a naniau cymeradwy
  • darparwyr gofal plant a chwarae sydd heb gofrestru (llai na 2 awr y dydd neu yn unol â’r eithriadau a nodir yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (2010) (fel y’i diwygiwyd)).

Negeseuon allweddol

Yng Nghymru rydym bellach yn symud o bandemig i endemig ac yn byw gyda COVID-19, fel yr amlinellir yn ein cynllun 'Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: COVID-19 - Cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig (Mawrth 2022)’. Fodd bynnag, nid yw COVID-19 wedi diflannu a bydd yn aros gyda ni yn fyd-eang. Am y rheswm hwn, mae hi’n bwysig o hyd i leoliadau gofal plant a gwaith chwarae a nanis ystyried yr hyn y gallant ei wneud i leihau lledaeniad y feirws, ac i amddiffyn eu staff a'r plant sy'n defnyddio eu gwasanaethau.

Nid yw'r gofyniad cyfreithiol i gynnal asesiad risg COVID-19 yn berthnasol mwyach. Dylai lleoliadau reoli COVID-19 yn yr un ffordd â heintiau anadlol a chlefydau trosglwyddadwy eraill, gan roi mesurau rheoli priodol ar waith fel sy’n ofynnol. 

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru: Cyngor Iechyd y Cyhoedd i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau yn amlinellu'r mesurau iechyd y cyhoedd sy'n parhau i fod yn bwysig o ran lleihau trosglwyddiad COVID-19. Anogir lleoliadau i ddod yn gyfarwydd â'r Canllawiau hyn a'r rhestr wirio sy’n cyfateb iddynt. 

Yn benodol, dylai lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae sicrhau eu bod yn ymwybodol o ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant ac Offeryn archwilio ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant ac Addysg. Mae’r rhain yn rhoi canllawiau mewn perthynas ag arferion atal a rheoli heintiau, gan gynnwys canllawiau ar lanhau teganau ac offer a sut i drin gwastraff.

Mae mesurau lliniaru a ddefnyddiwyd drwy’r pandemig yn parhau i fod yn allweddol. Dylai pob lleoliad gofal plant a gwaith chwarae wneud y canlynol:

  • ystyried sut y gallant reoli eu gweithrediadau er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo’r feirws yn y lleoliad.
  • bod yn ymwybodol o’r cyngor ar hunanynysu a beth sydd angen ei wneud pan fo rhywun yn profi'n bositif am COVID-19
  • sicrhau nad yw plant a staff sy'n sâl gyda symptomau COVID-19 craidd yn mynychu'r lleoliad nes eu bod yn teimlo'n ddigon da
  • sicrhau bod y staff a'r plant yn dilyn arferion hylendid dwylo ac anadlol da
  • cynnal systemau glanhau effeithiol
  • sicrhau bod mannau prysur wedi’u hawyru’n dda
  • annog defnydd o fannau awyr agored pan fo hyn yn bosibl. Mae'r rhan fwyaf o leoliadau Gwaith Chwarae Mynediad Agored yn yr awyr agored, ond pan fo cymysgedd o ddarpariaeth dan do a darpariaeth yn yr awyr agored, mae'n bwysig gwneud y defnydd gorau o'r elfen awyr agored
  • annog pobl i fanteisio ar y brechlyn
  • sicrhau bod staff a rhieni yn ymwybodol o bolisïau’r lleoliad sy'n ymwneud â COVID-19.

Nanis

Cynghorir nanis i barhau i gymryd camau rhagofalus wrth ofalu am blant yng nghartref y plentyn, gan ystyried y cyngor uchod, yn enwedig pwyntiau yn ymwneud â hylendid dwylo a glynu wrth gyngor ar hunanynysu.

Gwarchodwyr plant

Mae'r mesurau uchod yr un mor berthnasol i warchodwyr plant.

Dylai gwarchodwyr plant fod yn gyfarwydd â’r cyngor hunanynysu a'r hyn sydd angen iddynt ei wneud os oes ganddynt symptomau neu os ydynt yn profi'n bositif am COVID-19. Dylai unrhyw warchodwr plant sy’n profi’n bositif hunanynysu, a pheidio darparu gwasanaeth gwarchod plant.

Gall gwarchodwyr plant aros ar agor pan fo aelod o'u cartref yn profi'n bositif am COVID-19. Yn y sefyllfa hon dylai gwarchodwyr plant sicrhau y gwneir pob ymdrech i leihau'r risg o drosglwyddo’r feirws, gan gynnwys:

  • sicrhau bod yr achos positif yn ynysu i ffwrdd oddi wrth y gwarchodwr plant a'r plant sy'n derbyn gofal yn y cartref
  • darparu cyfleusterau toiled ar wahân ar gyfer y plant sy'n derbyn gofal. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid glanhau’r cyfleusterau’n aml ac yn drylwyr (yn enwedig ar ôl i'r achos positif eu defnyddio)
  • newid arferion gwaith pan fo hynny'n ymarferol er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo’r feirws – mwy o amser yn yr awyr agored neu i ffwrdd o'r cartref
  • gwella awyru, arferion hylendid dwylo a systemau glanhau.

Dylai gwarchodwyr plant roi gwybod i deuluoedd sy'n defnyddio eu gwasanaeth pan fydd achos COVID-19 positif yn eu cartref. Dylent hefyd roi gwybod i deuluoedd am y camau y maent yn eu cymryd i leihau'r risg o drosglwyddo’r feirws.

Os oes angen cyngor pellach ar warchodwr plant, dylent gysylltu â'u timau Iechyd yr Amgylchedd lleol.