Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i awdurdodau lleol ar sefydlu a chynnal canolfannau cyrraedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y Cysyniadcyffredinol

Mae rhwydwaith o Ganolfannau Cyrraedd a llety cychwynnol wedi eu sefydlu yng Nghymru i gefnogi pobl o Wcráin sy'n cyrraedd o dan y Cynllun Uwch-noddwr. Rhaid iddynt hefyd gefnogi pobl sy'n teithio at noddwyr preifat a theuluoedd. 

Bydd Canolfannau Cyrraedd yn cefnogi’r llif o bobl sy'n dod i llety cychwynnol yng Nghymru. Efallai y bydd pobl yn cyrraedd Cymru ac am deithio i leoliadau eraill yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Dylai Canolfannau Cyrraedd gysylltu â chyfleusterau sy’n cyfateb iddynt mewn gwledydd eraill i gefnogi pobl sy'n teithio yno.

Prif rôl y Canolfannau Cyrraedd yw cefnogi anghenion iechyd a lles acíwt teithwyr a hwyluso eu cynlluniau ar gyfer teithio oddi yno. Dylai Canolfannau Cyrraedd fod yn weladwy iawn, wedi'u staffio yn ystod cyfnodau prysur gyda gwasanaeth nos ar alw. Dylai swyddogaethau’r Canolfannau Cyrraedd gynnwys y canlynol:

  • ardal ar gyfer sgyrsiau preifat, gorffwys, lluniaeth
  • mynediad at bŵer trydan, toiledau a chyfleusterau newid babis
  • llety brys dros nos
  • mynediad at ffyrdd o gyfathrebu (ffonau/WiFi)
  • cardiau SIM
  • mynediad at wasanaethau cyfieithu ar y pryd
  • cefnogaeth gydag anghenion iechyd a lles acíwt
  • gwybodaeth ynghylch sut i gael cyngor mewnfudo
  • cysylltiadau â gweithredwyr teithio lleol i gael cymorth ar deithio oddi yno

Awdurdodau Lleol sydd yn y sefyllfa orau i arwain ar sefydlu a rheoli Canolfannau Cyrraedd yn eu hardaloedd. Byddant yn cael cymorth gan bartneriaid cyflawni gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Fforymau Lleol Cymru Gydnerth, darparwyr trafnidiaeth a sefydliadau gwirfoddol. 

Mae Awdurdodau Lleol wedi sefydlu Canolfannau Cyrraedd yn y mannau trafnidiaeth allweddol a ganlyn:

Awdurdodau Lleol

Man Trafnidiaeth

Cyngor Sir Ynys Môn

Porthladd Caergybi

Cyngor Sir Benfro

Porthladd Abergwaun

Doc Penfro

Cyngor Sir Bro Morgannwg

Maes awyr Caerdydd

Cyngor Dinas a Sir Caerdydd

Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog

Cyngor Sirol Wrecsam

Gorsaf Drenau Wrecsam Cyffredinol

Dylai mannau trafnidiaeth eraill ledled y DU helpu pobl sydd am ddod i Gymru drwy eu cyfeirio at wybodaeth. Dylai Canolfannau Cyrraedd gefnogi teithiau pobl sy'n agored i niwed os na allant deithio heb gymorth.

Manylion cyswllt

Mae'r Ganolfan Gyswllt yn darparu gwasanaeth llinell gymorth a gwasanaeth olrhain rhwng 09:00 a 17:00.

Manylion cyswllt: Yn y DU 0808 175 1508

Y tu allan i'r DU: +44(0) 20 4542 5671

Mae'r llinell gymorth yn cynnwys mynediad at wasanaethau cyfieithu.   

Manylion cyswllt y Ganolfan Gyswllt a'r Canolfannau Cyrraedd yng Nghymru:

Rôl

E-bost

Rhif ffôn

Canolfan gyswllt a llinell gymorth

cymorth@noddfa.llyw.cymru

Yn y DU:
0808 175 1508

Y tu allan i’r DU: +44(0) 20 4542 5671

Ar agor rhwng 09:00 ac 17:00.

Canolfan Gyrraedd: Gorsaf Drenau Wrecsam Cyffredinol

arrivalhub@wrexham.gov.uk

sarah.evans@wrexham.gov.uk

 

Oriau gwaith: (01978)  315437

Tu allan i oriau gwaith:
(07825)  043503

Deborah.williams@wrexham.gov.uk

Oriau gwaith: (07717)  881459

Tu allan i oriau gwaith:
(07540)  668547

Canolfan Gyrraedd: Maes Awyr Caerdydd

Llety brys: e-bost ar gyfer hostel Tŷ Iolo: tyiolo@valeofglamorgan.gov.uk

Tu allan i oriau gwaith:
(01446)  774634

Yn ystod oriau swyddfa, gellir cysylltu â’r Ganolfan Gyswllt ar: contactonevale@valeofglamorgan.gov.uk

Oriau gwaith: (01446)  700111

Swyddog arweiniol: Kate Hollinshead: khollinshead@valeofglamorgan.gov.uk

Oriau gwaith: (01446)  709774

Canolfan Gyrraedd: Doc Penfro

Canolfan Gyrraedd: Porthladd Abergwaun

Tîm ar Ddyletswydd y Ganolfan Gyrraedd imc@pembrokeshire.gov.uk

Oriau gwaith: (01437)  775400

Cymorth cymunedol i ffoaduriaid a noddwyr: ukrainecommunityresponse@pembrokeshire.gov.uk

Oriau swyddfa: (01437)  776301

Canolfan Gyswllt

Oriau gwaith: (01437)  764551

Tu allan i oriau gwaith:
(03456)  015522

Canolfan Gyrraedd: Caerdydd Canolog

ukrainiansupport@cardiff.gov.uk

Swyddog arweiniol ar gyfer pobl sy’n cyrraedd o Wcráin:
(07894)  327112

Canolfan Gyrraedd: Porthladd Caergybi

Elliw Llyr, Rheolwr Gwasanaethau – Strategaeth, Comisiynu a Pholisi Tai

Oriau gwaith: (01248)  752137

Yasmin K Jones, Cydlynydd Rhaglenni Adsefydlu Ffoaduriaid: cymorthwcrain@ynysmon.llyw.cymru

Tu allan i oriau gwaith: (01248) 353551