Gwasanaethau cymorth sydd ar gael ichi yng Nghymru os ydych yn rhoi llety i berson neu deulu o Wcráin neu’n bwriadu gwneud hynny.
Cynnwys
Gwasanaeth cymorth i’r rhai sy’n rhoi llety
Mae Cyfiawnder Tai Cymru yn darparu gwybodaeth, hyfforddiant, gweithdai a chyngor arbenigol a dibynadwy.
Llinell gymorth i’r rhai sy’n rhoi llety
Cyfiawnder Tai Cymru
Rhif ffôn: 01654 550 550
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 9am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 12pm ar y penwythnos. Gellir gadael negeseuon llais y tu allan i’r oriau hyn.
Bydd negeseuon e-bost yn cael eu hateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyfiawnder Tai Cymru.
Adnoddau
Gweithdai
Sgyrsiau yn rhoi cyflwyniad i gynnig llety
Mae’r rhain yn sgyrsiau ar gyfer pobl sy’n ystyried cynnig llety a byddant yn eu helpu i baratoi at y broses mewn ffordd fyfyriol a chadarnhaol.
Sgyrsiau hyfforddiant cychwynnol i’r rhai sy’n cynnig llety
Mae’r rhain yn cynnwys sgyrsiau am drawma, trawma mechnïol, rheoli disgwyliadau, gosod rheolau tŷ, diogelu ac ymgyfarwyddo.
Gweithdai cymorth i’r rhai sy’n cynnig llety
Caiff y trafodaethau grŵp bach hyn eu hwyluso gan ymarferydd arbenigol. Gallwch siarad am heriau a manteision rhoi llety, gan ystyried pwysigrwydd eich lles eich hun, a hynny mewn amgylchedd diogel.
Sut mae mynd i sgwrs neu weithdy?
Mae’r dyddiadau ar gyfer pob sgwrs neu weithdy ar gael ar wefan Cyfiawnder Tai Cymru.
Gellir cadw lle ym mhob sgwrs a gweithdy drwy anfon e-bost at UkraineHostSupport@housingjustice.org.uk.
Bydd y sesiynau’n digwydd ar Zoom a byddant yn awr a hanner o hyd.
Mae sgyrsiau Cymraeg ar gael.
Digwyddiadau ar y gweill
Digwyddiadau ar y gweill
Dewch yn ôl yn fuan oherwydd caiff digwyddiadau newydd eu hychwanegu yn rheolaidd.