Esboniad o’r sicrwydd indemniad ar gyfer staff y GIG yn ystod y pandemig coronafeirws.
Oherwydd y pwysau cynyddol ar ein GIG yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn, ceisiwyd eglurder ynghylch cymhwyso cynlluniau esgeuluster clinigol gwladwriaethol Cymru wrth i feddygon teulu a staff clinigol gael eu hadleoli i adrannau, rolau a dyletswyddau clinigol eraill o ganlyniad i COVID-19. Y cunlluniau indemniad dan sylw yw’r cynllun indemniad ymarfer meddygol cyffredinol (GMPI) (sy'n ymdrin â hawliadau gofal sylfaenol) a'r cynllun esgeuluster clinigol (NGA) (sy'n ymdrin â hawliadau gofal eilaidd).
Mae Gweinidogion Cymru yn indemnio Ymddiriedolaethau'r GIG a Byrddau Iechyd Lleol (gan gynnwys y rhai a gyflogir ac a gymerir ymlaen gan Ymddiriedolaeth neu BILl) fel aelodau o'i gynllun ar gyfer esgeuluster clinigol drwy Reoliadau'r Gwasanaeth iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019. Mae meddygon teulu sy'n dal contract GMC a'r rhai a gyflogir neu a gymerir ymlaen gan y meddygon teulu hynny hefyd yn dod o dan y cynllun GMPI. Bydd angen i unrhyw feddyg teulu sy'n dychwelyd ac sy'n dymuno gwneud gwaith locwm gofrestru ar gofrestr locwm Cymru gyfan (AWLR) er mwyn dod o fewn cwmpas y GMPI. Bydd angen i feddyg teulu nad yw'n cofrestru ar yr AWLR ond sy'n dymuno gwneud gwaith locwm wneud ei drefniadau ei hun ar gyfer yswiriant indemniad.
Mae'r cynlluniau yn ymdrin ag unrhyw atebolrwydd mewn camwedd sy'n ddyledus gan aelod i drydydd parti o ran anaf personol neu golled neu o ganlyniad i niwed a cholled bersonol sy'n codi o dorri dyletswydd gofal gan yr aelod i unrhyw berson mewn cysylltiad â diagnosis o unrhyw salwch, neu ofal neu driniaeth i unrhyw glaf, o ganlyniad i unrhyw weithred neu fethiant i weithredu ar ran person a gyflogir neu a gyflogwyd gan aelod, neu gontractwr GMC a'r rhai a gyflogir neu a gymerwyd ymlaen gan y contractwr hwnnw, mewn cysylltiad ag unrhyw un o swyddogaethau perthnasol yr aelod hwnnw.
O dan Adran 11 Deddf Coronafirus 2020, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu indemniad ar gyfer rhwymedigaethau esgeuluster clinigol sy'n gysylltiedig â COVID 19 nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys mewn trefniadau indemniad eraill fel y rhai a ddarperir gan y GMPI a'r NGA, cwmnïau yswiriant neu sefydliadau amddiffyn meddygol. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg) wedi cyhoeddi canllawiau ar Drefniadau Indemniad yn Ystod y Pandemig Coronafeirws.
Hoffem sicrhau pob un o gyflogeion y GIG a deiliaid contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol (a deiliaid contractau anrhydeddus) y bydd y lefelau angenrheidiol o warchodaeth ac indemniad yn parhau i fod ar waith trwy gydol y cyfnod hwn. Bydd y cynlluniau hyn hefyd yn cynnwys meddygon teulu a gwirfoddolwyr sydd wedi’u derbyn gan GIG Cymru i helpu i ddarparu gwasanaethau clinigol.
Ni ddylai trefniadau indemniad fod yn rhwystr i newid trefniadau gwaith yn ystod y pandemig.