Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyffordd Croesbychan yn cysylltu Hirwaun a Llwydcoed ac yn cefnogi cynllun Porth Cwm Cynon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Map i ddangos gwaith cyffordd Croesbychan
Map i ddangos gwaith cyffordd Croesbychan

Beth ydyn ni'n ei wneud

  • symud ac ailblannu coetir hynafol
  • adeiladu ffordd dros dro
  • symud cyfleustodau
  • adeiladu tanffordd yn Fferm Court
  • adeiladu pont dros reilffordd Cwm Nedd
  • adeiladu ffordd a chylchfannau newydd

Byddwn yn adeiladu cyffordd newydd yn lle’r un sydd yno nawr. Caiff y gyffordd a’r ffordd eu hadeiladu yn bennaf ar arglawdd hyd at 42tr (13m) o uchder.

Byddwn hefyd yn adeiladu traphont dros Nant Melyn, a fydd yn cario’r A465 newydd.  Bydd Traphont bresennol Nant Melyn yn cael ei neilltuo ar gyfer Defnyddwyr Di-Beiriant.

Byddwn yn adeiladu ffordd dros dro i greu lle i adeiladu’r ffordd barhaol.

Caiff y gwaith ei wneud fesul cam.

Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen

Rydym wedi:

  • cynnal arolygon amgylcheddol
  • clirio llystyfiant i baratoi ar gyfer dechrau’r gwaith
  • dechrau paratoi’r safle i symud cyfleustodau.
Image
Works at Croesbychan
Y gwaith yng Nghroesbychan

Y camau nesaf

  • pathewod: gwirio bod y cynefin newydd yn darparu'r un adnoddau a oedd ganddynt yn eu hen gynefin, cyn i ni eu symud o'r safle presennol
  • hydref 2021 i wanwyn 2022: clirio llystyfiant yn barod i'r gwaith ddechrau
  • o hydref 2021: byddwn yn codi ffensys yn yr ardal
  • gaeaf 2021 i wanwyn 2022: byddwn yn adeiladu cylchfan dros dro i'r gorllewin o Court Lodge Underbridge

I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.