Neidio i'r prif gynnwy

Mae crynodeb o sut mae darparwyr yn cael eu talu am Gynnig Gofal Plant Cymru yn newid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru?

Ar hyn o bryd, mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn cael ei ddarparu ledled Cymru gan awdurdod lleol sy'n defnyddio systemau gwahanol i brosesu ceisiadau rhieni a thalu darparwyr gofal plant am oriau'r Cynnig Gofal Plant a ddarperir. Bydd y gwasanaeth digidol cenedlaethol yn disodli'r systemau hynny fel bod pob awdurdod lleol, rhiant a darparwr gofal plant yn defnyddio'r un gwasanaeth.

Pam ydych chi’n newid y gwasanaeth?

Gan fod awdurdodau lleol wedi bod yn defnyddio eu systemau eu hunain i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant, mae profiad rhieni a darparwyr gofal plant wedi bod yn wahanol gan ddibynnu ar leoliad y rhiant/darparwr a’r system ddefnyddiwyd gan eu hawdurdod lleol.

Mae rhieni wedi cael profiadau gwahanol wrth wneud cais am y Cynnig Gofal Plant yn dibynnu ar ble maen nhw’n byw a pha system y mae eu hawdurdod lleol yn ei defnyddio.

Ar gyfer lleoliadau gofal plant sy'n darparu gofal i blant o ardaloedd dan wahanol awdurdodau lleol, mae hynny wedi bod yn broblem, gan fod angen iddynt weithio gyda nifer o wahanol systemau'r awdurdodau lleol a delio â nifer o wahanol amserlenni talu.

O ran y gwasanaeth digidol cenedlaethol, bydd rhieni yn defnyddio un gwasanaeth ac yn cael yr un profiad wrth wneud cais. Bydd darparwyr gofal plant yn symud tuag at weithio gydag un system yn unig ac un amserlen dalu, ni waeth pa ardal awdurdod lleol y mae'r plant yn eu gofal yn byw ynddi.

Mae’r gwasanaeth digidol cenedlaethol yn gwbl ddwyieithog, gan alluogi'r darparwyr gofal plant a’r rhieni hynny sy'n dymuno ymdrin â'r Cynnig Gofal Plant drwy gyfrwng y Gymraeg i wneud hynny.

Pryd bydd y gwasanaeth ar gael?

Gall rhieni sy’n gwneud cais am Oriau Gofal Plant ar gyfer mis Ionawr 2023 bellach ymgeisio drwy’r gwasanaeth newydd. Bydd angen i ddarparwyr gofal plant fod wedi creu cyfrif ar y gwasanaeth newydd. Rhagor o wybodaeth ynglŷn â phryd i gofrestru. Rhagor o wybodaeth ynglŷn â phryd i gofrestru.

A fydd y gwasanaeth yn ddiogel?

Bydd, mae'r gwasanaeth digidol cenedlaethol wedi'i ddatblygu i'r safon uchaf o ran diogelwch data. Dim ond i staff awdurdodau lleol sydd â chaniatâd i gael mynediad i'r gwasanaeth hwn y bydd manylion y mae rhieni a darparwyr yn eu cyflwyno i greu cyfrif yn hygyrch.

A alla i barhau i ddefnyddio systemau presennol yr awdurdodau lleol ar gyfer y Cynnig Gofal Plant?

Cyflwynwyd y gwasanaeth digidol cenedlaethol ar 7 Tachwedd, a bydd pob rhiant newydd bellach yn gwneud cais drwy'r gwasanaeth digidol cenedlaethol – a dim ond drwy'r gwasanaeth newydd y gwneir taliadau am oriau'r Cynnig Gofal Plant a ddarperir ar gyfer y plant hynny.

Bydd plant sydd eisoes yn defnyddio’r Cynnig Gofal Plant pan fo’r gwasanaeth yn cael ei gyflwyno yn parhau i fod ar systemau presennol yr awdurdodau lleol, a bydd taliadau i blant o fewn y systemau hynny yn parhau fel ag y maent ar hyn o bryd. 

Sut y bydd taliadau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn cael eu heffeithio?

Un o fanteision y gwasanaeth digidol cenedlaethol yw taliadau cyflym a rheolaidd i ddarparwyr gofal plant. Gellir hawlio taliadau yn wythnosol neu'n fisol mewn ôl-daliadau. Bydd y taliad yn cael ei brosesu y diwrnod gwaith wedyn a bydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif banc mewn ychydig ddiwrnodau, yn dibynnu ar amser prosesu eich banc. (Noder os gwelwch yn dda y gall hawliadau a wneir drwy lwybr y Grant Cymorth Ychwanegol gymryd mwy o amser oherwydd bod angen i'r awdurdod lleol gymeradwyo'r taliad).

Bydd rhieni/plant sydd eisoes yn defnyddio’r Cynnig Gofal Plant pan fo’r gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno yn parhau i fod ar systemau presennol yr awdurdodau lleol. Felly bydd taliadau ar gyfer y plant hynny yn parhau i gael eu gwneud drwy’r awdurdodau lleol.

Sut y bydd rhieni'r plant sy'n mynychu fy lleoliad yn gwybod beth i'w wneud?

Mae canllawiau ar gael ar-lein i gefnogi rhieni i ddefnyddio’r gwasanaeth i wneud cais am y Cynnig Gofal Plant a chytuno ar eu horiau.

Bydd timau Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd/gofal plant awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu cymorth pellach yn ôl y gofyn.

Rydym wedi darparu deunyddiau marchnata i awdurdodau lleol i’w rhannu o fewn eu hardal, gan gynnwys lleoliadau gofal plant, er mwyn helpu i hyrwyddo’r Cynnig Gofal Plant a chyfeirio rhieni at gymorth a gwybodaeth.

Rhieni sydd am dderbyn gofal plant a ariennir o dan y Cynnig o Ionawr 2023

Bydd angen i rieni a fydd am dderbyn gofal plant a ariennir o dan y Cynnig o Ionawr 2023 wneud cais drwy wasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru. Gellir gwneud ceisiadau bellach ar gyfer mis Ionawr – ewch i ddarganfod rhagor o fanylion am beth sydd eu hangen a sut i ymgeisio.

Rhieni sydd eisoes yn defnyddio’r Cynnig nawr bod y gwasanaeth digidol cenedlaethol yn fyw (Tachwedd 2022)

Bydd angen i rieni sydd am dderbyn gofal plant a ariennir o dan y Cynnig cyn Ionawr 2023 wneud cais drwy eu Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Rwy'n gofalu am blant sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol i fanteisio ar y Cynnig Gofal Plant. A fydd cyllid ar gyfer y plant hyn yn dal i fod ar gael drwy'r Grant Cymorth Ychwanegol?

Bydd cyllid ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol yn parhau i fod ar gael drwy'r Grant Cymorth Ychwanegol. Cyfeiriwch at ganllawiau'r awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth am sut y gellid defnyddio hwnnw.

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth neu i drafod sut i wneud cais am y cyllid hwnnw.

Rwyf eisoes yn cynnig y Cynnig Gofal Plant, oes dal angen i mi gofrestru i'r gwasanaeth digidol newydd?

Os ydych chi eisoes yn darparu’r Cynnig Gofal Plant, mae’n dal angen ichi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth digidol newydd.

Ni fydd rhieni yn gallu dewis eich lleoliad gofal plant os nad ydych chi wedi cofrestru.