Yn esbonio sut rydym yn dod â band eang ffeibr i fwy o eiddo yng Nghymru.
Cynnwys
Ynghylch y rhaglen gyflwyno
Rydym am i gartrefi a busnesau gael y cysylltedd sydd ei angen arnynt i gymryd rhan mewn gweithgareddau digidol.
Er bod gan y mwyafrif helaeth o gartrefi a busnesau ledled Cymru fynediad at gysylltedd digidol o ansawdd da, mae angen amrywiaeth o atebion arnom i helpu'r rheini heb fynediad i fand eang cyflym a dibynadwy. Mae ein strategaeth Ddigidol i Gymru yn amlinellu'r hyn rydym yn ei wneud i gyflawni hyn.
Un o'r atebion hyn yw adeiladu mwy o fand eang ffeibr i gartrefi a busnesau gan ddefnyddio arian cyhoeddus. Gan adeiladu ar ein rhaglenni cyflwyno blaenorol, rydym yn gweithio gydag Openreach i ddod â band eang ffeibr i 39,000 o eiddo eraill ledled Cymru gan ddefnyddio £56m o arian cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys cronfeydd Llywodraeth Cymru a'r UE gyda rhywfaint o arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU.
Bydd eiddo yn y rhaglen gyflwyno hon yn gallu cael mynediad at wasanaeth band eang ‘ffeibr i'r adeilad’ sydd wedi'i ddiogelu at y dyfodol, a elwir hefyd yn ‘ffeibr llawn’. Mae'r math hwn o dechnoleg yn caniatáu i gyflymder band eang gigabit gael ei sicrhau.
Cynlluniau cyflwyno’r dyfodol
Mae Openreach yn cyflawni'r prosiect hwn ar ein rhan. Gallwch ddefnyddio eu teclyn gwirio cyfeiriadau i ddod o hyd i’r cynlluniau ar gyfer eich ardal. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau ar gyfer eu holl brosiectau yn ogystal â'r rhai sy'n cael eu darparu gydag arian cyhoeddus.
Ewch i'n tudalen cyllid ar gyfer band eang cyflymach i ddod o hyd i’r opsiynau eraill sydd ar gael er mwyn i chi gael gafael ar fand eang cyflymach.
Camau cyflwyno
Mae adeiladu rhwydwaith band eang ffeibr yn her beirianneg gymhleth ar raddfa fawr. Mae hyn yn golygu na fydd pob eiddo yn y prosiect yn cael ffeibr ar yr un pryd. Ceir trosolwg isod o'r camau cyflwyno.
Arolwg Cychwynnol
Ar y cam hwn rydym yn cynnal gwiriadau cychwynnol. Mae'r rhain yn penderfynu a all Openreach ddarparu ffeibr i'ch eiddo o dan y prosiect hwn. Nid yw'r cam hwn yn digwydd ym mhob ardal ar yr un pryd. Maent yn cynnwys:
- Arolygu'r ardal ar gyfer rhwystrau naturiol i'r eiddo fel afonydd a bryniau.
- Pa mor agos yw'r eiddo i'r rhwydwaith band eang presennol.
- Os yw'r cyngor lleol wedi rhoi caniatâd i wneud gwaith penodol. Er enghraifft, trwydded ar gyfer gwaith ffordd.
- Os oes cytundeb, mewn egwyddor, i osod ceblau neu roi offer ar dir preifat os oes angen.
- Os yw'r eiddo i fod i gael band eang cyflym o brosiect arall.
- A yw'r gost o ddarparu band eang i'r eiddo yn werth da am arian cyhoeddus.
Adeiladu
Unwaith y bydd gwiriadau cychwynnol wedi'u gwneud, mae eiddo cymeradwy yn symud i'r cyfnod adeiladu. Mae hyn yn golygu:
- Bydd Openreach yn rhoi cynlluniau ar waith i adeiladu'r rhwydwaith sydd ei angen i roi mynediad i fand eang ffeibr ar gyfer eiddo.
- Bydd unrhyw gytundebau i gael mynediad i dir cyhoeddus neu breifat yn cael eu cwblhau. Gallai'r cytundebau hyn nodi pryd y gellir gwneud y gwaith. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd mynediad i dir neu gau ffyrdd yn gyfyngedig i adegau penodol o'r flwyddyn.
- Bydd gwaith yn cael ei drefnu gan Openreach a chaiff yr adnoddau eu dyrannu. Efallai na fydd hyn yn digwydd ar unwaith ac ni fydd yn digwydd ym mhobman ar yr un pryd.
Mae dau gam i'r cyfnod adeiladu.
- Cam un - disgwylir iddo ddod i ben yn 2021.
- Cam dau - disgwylir iddo ddod i ben yn 2022.
Sylwer, ni ellir gwarantu cysylltiad.
Unwaith y bydd y gwaith yn dechrau mewn ardal, mae’n bosibl y bydd ffactorau ffisegol annisgwyl ar lawr gwlad weithiau sy’n gallu effeithio ar yr adeiladu. Efallai y bydd angen gwaith peirianneg, cynllunio neu fynediad tir ychwanegol er mwyn datrys y materion hyn. Lle mae angen gwaith ychwanegol, y tu hwnt i gynlluniau gwreiddiol, gall hyn achosi oedi i’r broses gyflwyno mewn ardal. Mewn rhai achosion, os bydd gwaith ychwanegol yn golygu cynnydd sylweddol mewn costau, efallai na fydd Openreach yn gallu darparu cysylltiad.
Dim ond i dalu am gysylltiadau wedi'u cwblhau y bydd arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio. Mae cysylltiad wedi'i gwblhau yn golygu y gellir archebu band eang ffeibr gyda darparwr band eang.
Cwblhau gwaith adeiladu
Unwaith y bydd Openreach wedi cwblhau'r gwaith adeiladu i eiddo, dylai’r eiddo fod yn gallu cael band eang ffeibr. Ar y cam hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfnod o brofion. Hyd yn oed pan fydd y gwiriadau hyn yn cael eu gwneud, dylai eiddo fod yn gallu parhau i archebu band eang cyflymach.
I gael cyflymderau uwch mae angen i chi uwchraddio i becyn band eang ffeibr. Ni fydd eich band eang presennol yn newid oni bai eich bod yn uwchraddio. Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i archebu gwasanaeth band eang ffeibr.
Hyd nes y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau, ni ellir gwarantu cysylltiad ac nid yw hyn yn addewid o gyflawni.
Ewch i'n tudalen cyllid ar gyfer band eang cyflymach i gael gwybod am yr opsiynau eraill sydd ar gael i chi gael band eang cyflymach.