Defnyddiwch y ffurflen hon i gyflwyno ffurflen bapur Treth Trafodiadau Tir (TTT) ar-lein.
Mae hyn ar gyfer unigolion sy'n prynu eiddo neu dir yng Nghymru sy’n ffeilio heb gyfreithiwr neu drawsgludwr.
Cyn i chi ddechrau
Nid yw’n bosibl i chi gadw ffurflen wedi'i chwblhau'n rhannol felly gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth ganlynol.
Gofynnir i chi uwchlwytho copi electronig o'ch ffurflen bapur TTT i'w gyflwyno ar-lein.
Efallai y bydd angen i chi hefyd uwchlwytho tudalennau gwybodaeth ychwanegol, er enghraifft os oes mwy na 2 brynwr.
Gallwch hefyd anfon eich ffurflen dreth drwy'r post.
Os ydych yn sefydliad, bydd angen i chi gofrestru er mwyn ffeilio TTT ar-lein yn lle hynny.
Os fyddwch yn anfon ffurflen bapur atom ar amser a'ch bod yn penderfynu anfon copi arall o’r ffurflen atom ar-lein drwy ddulliau digidol, byddwn yn defnyddio dyddiad y ffurflen wreiddiol ar gyfer ffeilio yn unol â’r terfynau amser ffeilio.
Os fyddwch yn gwneud hyn, rhowch wybod i ni ymlaen llaw eich bod eisoes wedi anfon ffurflen bapur, fel y gallwn roi gwybod i chi os yw'ch ffurflen wreiddiol wedi'i phrosesu, a gallwn ddefnyddio'r dyddiad cywir.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.
Cymorth
Cysylltwch â ni os oes angen cymorth arnoch.