Neidio i'r prif gynnwy

Rydym ni yn cynnig cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru, o’r 17 Medi 2023.

Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig ble ceir nifer o bobl.  Mae goleuadau stryd arnynt yn aml, heb fod yn fwy na 200 lath ar wahân.
Rydym yn gwneud yn newid hwn i:

  • leihau nifer y gwrthdrawiadau a’r niwed difrifol o ganlyniad iddynt (gan hefyd leihau’r effaith ar y GIG o drin pobl sydd wedi’u niweidio)
  • annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu i wella ein iechyd a’n lles
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
  • diogelu yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Cymru fydd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd, a’r wlad gyntaf yn y DU, i gyflwyno deddfwriaeth i gael terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd ble mae ceir yn cymysgu â cherddwyr a beicwyr.  

Y camau nesaf

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau priffyrdd, Asiantiaid Cefnffyrdd, sy’n gyfrifol am y rhwydwaith ffyrdd strategol, ac awdurdodau lleol, sy’n cyfrifol am ffyrdd gwledig. 

Rydym yn cydnabod na fydd pob ffordd sydd â therfyn cyflymder 30mya ar hyn o bryd yn addas i’w newid i 20mya.  Gelwir y ffyrdd hyn yn eithriadau.  Bydd Awdurdodau Lleol yn ystyried gyda'u cymunedau pa ffyrdd ddylai aros ar gyflymder o 30mya a bydd arwyddion 30mya i ddweud hyn wrthych. 

Rydym wedi cyhoeddi map ar DataMapCymru sy'n dangos pa ffyrdd fyddai'n aros ar 30mya. 

Rhaid i bob awdurdod priffyrdd ddilyn y broses statudol ar gyfer Gorchmynion Rheoli Traffig i wneud eithriadau. .

Effeithiau cynnar

Cafodd wyth cymuned eu dewis fel aneddiadau cam cyntaf i gyflwyno terfynau cyflymder 20mya:

  • Llandudoch, Sir Benfro
  • Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
  • Sant-y-brid, Bro Morgannwg
  • Canol Gogledd Caerdydd
  • Pentref Cil-ffriw, Castell-Nedd Port Talbot
  • Y Fenni, Sir Fynwy
  • Glan Hafren, Sir Fynwy
  • Bwcle, Sir y Fflint

Cewch ddarllen yr adroddiad monitro cyntaf sy'n manylu ar rai o'r effeithiau y mae cyflwyno 20mya wedi'u cael yn y cymunedau hyn. Mae'r cyflymder cyffredinol wedi lleihau yn yr ardaloedd hyn.