Nicole o Abertyleri

Band eang cyflym iawn yn gweddnewid bywyd mam â mab awtistig
Mae Nicole Pascoe o Abertyleri, sydd â thri o blant – Jake (20), Sienna (9) ac Ethan (14) sydd ag awtistiaeth, wedi gweld drosti’i hun sut y gall gwasanaeth band eang cyflym iawn drawsnewid bywyd teulu modern.
Gyda band eang arferol yn methu â bodloni gofynion ei theulu prysur mwyach, penderfynodd Nicola newid i fand eang cyflym iawn cyn gynted ag y gallai.
Meddai Nicola:
“Er bod cyflymder band eang arferol yn eitha dda yn ein hardal ni, mae hi fel ffair yn tŷ ni gyda phump ohonom eisiau defnyddio’r rhyngrwyd i wneud pethau gwahanol - ar sawl dyfais wahanol hefyd.
“Mae gan fy mab canol awtistiaeth, felly mae’n dibynnu ar y rhyngrwyd i wneud popeth o chwarae gemau Nintendo, defnyddio apiau a gwefannau arbenigol i bobl ag awtistiaeth ar ei iPad, i ddarllen kindle bob dydd. Hefyd, mae ganddo orsymudedd a dyspracsia, felly mae’n defnyddio cyfrifiadur personol yr aelwyd i gyflwyno gwaith cartref i’w athrawon trwy borth ar-lein. Mae’n gallu cynhyrfu braidd os nad yw’n gallu defnyddio’r dyfeisiau ar alw, felly mae’n hollbwysig ein bod ni’n cael gwasanaeth mor effeithlon â phosib.
“Mae ei frawd, sef fy mab hynaf, yn dilyn cwrs prifysgol hynod dechnegol sy’n seiliedig ar ddata a chyfrifiaduron, felly mae cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy yn hanfodol. Mae’n dod adref ar benwythnosau’n aml, hefyd, ac felly’n disgwyl gwasanaeth lawn mor gyflym ac effeithlon â’r un yn y brifysgol. Fe dreuliodd yr haf yn yr Unol Daleithiau, felly roedd cysylltiad dibynadwy yn allweddol i dawelu’n meddyliau trwy gysylltiadau Facetime dyddiol hefyd.“Ychwanegwch eu chwaer fach naw oed sy’n dwlu ar wylio clipiau tiwtorial harddwch ar YouTube – a finnau wedyn, sy’n siopa bwyd a bancio ar y we – ac mae gennych chi deulu sy’n dibynnu’n llwyr ar y gwasanaeth rhyngrwyd gorau posib.”
Yn ôl Nicola, dyw llawer o’i chydweithwyr a’i ffrindiau naill ai ddim yn ymwybodol o fanteision y gwasanaeth, neu’n meddwl ei fod yn llawer drutach na band eang arferol.
Ychwanegodd:
“Dw i’n synnu bod cymaint o bobl hebddo. Roeddwn i eisiau band eang cyflym iawn ers ache, felly cyn gynted ag yr oedd ar gael, manteisiais ar fargen arbennig gan fy narparwr cyfredol oedd yn golygu ei fod yn costio’r un faint â band eang arferol.”
Pam dewis cyflym iawn?
Gyda band eang cyflym iawn, byddwch yn gallu cyfathrebu a rhannu’r pethau sy’n bwysig ichi’n gynt ac mewn ffordd fwy dibynadwy. P’un a ydych yn syrffio’r we, sgyrsio â’r teulu ym mhen arall y byd neu’n chwilio am lefydd newydd i ymweld â nhw, mae hi gymaint well os oes gennych gysylltiad cyflym iawn â’r rhyngrwyd.
Ydych chi am fand eang cyflym iawn? A yw ar gael?