Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyfres o grantiau bach i brosiectau cydweithredol cymunedol er mwyn gwarchod y Gymraeg a’i helpu i ffynnu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwahoddwyd grwpiau cymunedol i wneud cais am gyllid i sefydlu neu gefnogi cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a phrosiectau tai dan arweiniad y gymuned. Llwyddodd 21 o geisiadau i gael cyllid. Cwmpas, asiantaeth ddatblygu sy’n cefnogi cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol, oedd yn rheoli’r grantiau, o’r enw Prosiect Perthyn.

Bydd un o’r prosiectau llwyddiannus yn troi hen gapel yn Sir Benfro, sydd bellach yn eiddo i’r gymuned, yn ganolfan dreftadaeth leol a chaffi, ynghyd â dau fflat fforddiadwy. Prosiect treftadaeth a thai cymunedol yn Hermon yw CarTrefUn, sydd wedi cael £12,500 i ddatblygu’r prosiect hwn.

Mae Prosiectau Cymunedol Aberdyfi Cyf. wedi cael £12,000 tuag at ei nod o gefnogi’r Gymraeg yn Aberdyfi drwy greu cymuned economaidd gynaliadwy a llety i bobl leol. Bydd y cyllid hwn o gymorth wrth iddynt brynu adeilad Garej a Swyddfa Bost Penrhos, sy’n bwysig i’r gymuned am eu bod yn cyflogi pobl leol ac yn darparu llety iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau sylweddol i helpu i sicrhau y gellir rheoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn effeithiol.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, gan gynnwys pob cymuned yng Nghymru. Rwy’n falch o weld y syniadau creadigol sydd wedi eu cynnig gan grwpiau cymunedol ledled y wlad. Bydd y grantiau hyn yn helpu i greu cyfleoedd, yn darparu tai fforddiadwy ac yn helpu i warchod y Gymraeg.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol dan arweiniad y gymuned yn rhan bwysig o’r dirwedd gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru – yn darparu cyfleoedd swyddi da, yn cefnogi economïau lleol ac yn aml iawn yn diogelu asedau cymunedol a gwasanaethau hanfodol. Dyna pam mae eu helpu i ddatblygu a thyfu yn nod allweddol gan Lywodraeth Cymru.

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect hwn, sy’n chwarae rhan bwysig o safbwynt helpu cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol i gefnogi cymunedau Cymraeg. Mae’r ffaith bod y prosiect hwn wedi ei roi ar waith drwy Cwmpas hefyd wedi sicrhau bod y prosiect yn cyd-fynd â’r cymorth ehangach sydd ar gael drwy wasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru, ac yn elwa ar y cymorth hwnnw.”

Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol Cwmpas:

“Mae’n bleser gennym gael gweithio gyda’n partneriaid i gyflawni prosiect Perthyn. Mae Perthyn yn gweithio gyda chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â diffyg tai fforddiadwy, gwarchod asedau cymunedol a chreu cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol newydd. Mae gweinyddu cynllun peilot grantiau bach ar gyfer y cymunedau er mwyn helpu i feithrin gallu lleol a sbarduno eu syniadau o ran busnes a thai wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni. Edrychwn ymlaen at weld y syniadau’n datblygu ac at weithio gyda rhagor o gymunedau dros y misoedd nesaf.”