Yn y canllaw hwn
1. Trosolwg
Mae Cymorth i Brynu – Cymru yn rhoi benthyciad ecwiti a rennir i'r rheini sy'n prynu eiddo a adeiladwyd o'r newydd. Mae'r cynllun yn rhoi cymorth i bobl brynu cartrefi sydd werth drwy adeiladwr sydd wedi cofrestru dan gynllun Cymorth i Brynu – Cymru.
Rydym yn bwriadu ymestyn y cynllun Cymorth i Brynu presennol yng Nghymru o 1 Ebrill 2023 tan 31 Mawrth 2025.
O 1 Ebrill bydd angen i bob cartref a werthir drwy’r cynllun fodloni o leiaf EPC B. a bydd y cap pris prynu yn codi o £250K i £300K. Bydd meini prawf newydd EPC B a’r cynnydd yn y cap pris yn berthnasol i eiddo a brynwyd o 1 Ebrill ymlaen, bydd angen i unrhyw geisiadau a dderbynnir cyn 1 Ebrill fodloni paramedrau cyfredol y cynllun, gan gynnwys y cap pris o £250k.
Bydd rhagor o fanylion yn dilyn maes o law.
Sut mae'n gweithio
I gael cymorth gan gynllun Cymorth i Brynu – Cymru:
- mae’n rhaid bod gennych flaendal o 5% fan lleiaf
- mae'r cynllun yn darparu benthyciad ecwiti a rennir o hyd at 20% o'r pris prynu
- rhaid ichi gael morgais ad-dalu ar gyfer y swm sy'n weddill
Enghraifft ariannol
Ar gyfer eiddo sydd werth £200,000 | Swm | Canran |
---|---|---|
Blaendal arian parod | £10,000 | 5% |
Benthyciad ecwiti a rennir | £40,000 | 20% |
Eich morgais | £150,000 | 75% |