Neidio i'r prif gynnwy

Cymru Fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae’n gwella prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau ac yn helpu pobl sy’n wynebu anfanteision economaidd-gymdeithasol.

Mae’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yn creu cyfle i ni wneud pethau’n wahanol yng Nghymru. Mae’n sicrhau bod mynd i’r afael ag anghydraddoldeb wrth wraidd unrhyw benderfyniadau a wneir, a bydd yn adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes yn ei wneud.

Beth y mae’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn ei golygu i gyrff cyhoeddus?

Mae cyflwyno’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus bellach ystyried sut y gall eu penderfyniadau strategol, gan gynnwys gosod amcanion a datblygu gwasanaethau cyhoeddus, leihau anghydraddoldebau o safbwynt y canlyniadau i bobl sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol.

Darllenwch ganllawiau statudol y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol.

Beth yw anghydraddoldeb o ran canlyniad?

Mae anghydraddoldeb o ran canlyniad yn gysylltiedig ag unrhyw wahaniaeth mesuradwy o ran canlyniad rhwng y bobl sydd wedi wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol a’r rhai nad ydynt wedi’i hwynebu.

Mae rhai enghreifftiau o anghydraddoldeb o ran canlyniad yn cynnwys; lefelau is o iechyd da, gwaith am gyflog is, cyrhaeddiad addysgol gwaeth a risg uwch o ddioddef troseddu.

Beth y bydd y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn ei gyflawni?

Bydd y ddyletswydd yn gwella’r canlyniadau ar gyfer y bobl sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol drwy sicrhau bod gwell penderfyniadau yn cael eu gwneud. Bydd y Ddyletswydd yn cyfrannu at Gymru sy’n fwy teg ac yn fwy ffyniannus.

Offeryn tracio cynnydd

Traciwch gynnydd ein sefydliad.

Mae’n ffilm newydd sydd wedi’i hanimeiddio yn esbonio’r Ddyletswydd:

Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Stori Molly: ei profiad personol i anfantais economaidd-gymdeithasol:

Y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol

Cewch fwy o wybodaeth am y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ar LLYW.CYMRU