Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Mawrth, 24 Ionawr, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar dargedau 'uchelgeisiol ond cyflawnadwy' fel y gall Cymru gwrdd â 100% o'i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru eisoes wedi cyflawni cynnydd da o ran targedau blaenorol a gafodd eu gosod yn 2017 ac mae eisoes yn cynhyrchu 55% o'i thrydan o ynni adnewyddadwy.
Heddiw, mae'r Gweinidog wedi cynnig bod Cymru yn gosod targed a fyddai’n golygu bod o leiaf 1.5 GigaWatt o gapasiti ynni adnewyddadwy o  dan berchnogaeth leol erbyn 2035, heb gynnwys pympiau gwres.

Mae targed hefyd i gynhyrchu 5.5 GigaWatt o ynni adnewyddadwy drwy bympiau gwres erbyn 2035 ond mae hyn yn amodol ar dderbyn cymorth ychwanegol gan Lywodraeth y DU a gostyngiadau yng nghost technoleg.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Roedd ein targedau blaenorol yn arwydd o'n huchelgeisiau uchel ar gyfer ynni adnewyddadwy ac awydd y Llywodraeth hon i ddefnyddio llai o danwyddau ffosil ac i  ddibynnu llai arnynt.

Fodd bynnag, mae'r argyfwng hinsawdd yn dangos na allwn orffwys ar ein rhwyfau. Mae gosod targedau newydd yn ein gorfodi i anelu at Sero Net mor gyflym ag y gallwn.

Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir y bydd angen i ni, erbyn tua diwedd y degawd hwn, gynhyrchu mwy o drydan er mwyn diwallu ein hanghenion ynni.

Mae'r targedau o ran ynni adnewyddadwy yr ydym yn ymgynghori arnynt heddiw yn uchelgeisiol, ond yn gyflawnadwy.

Rwy'n falch iawn eu bod yn cynnig llwybr i ni gwrdd â'r hyn sy'n cyfateb i 100% o'n defnydd trydan blynyddol o drydan adnewyddadwy erbyn 2035, ac i barhau i ddiwallu’r galw wedi hynny.

Pwysleisiodd y Gweinidog y byddai isadeiledd a chadwyn gyflenwi Cymru yn allweddol o ran cyflawni’r targedau diwygiedig hyn, ac aeth ymlaen i ddatgelu manylion gwerth £1m o gyllid er mwyn archwilio’r posibiliadau sydd ynghlwm wrth wynt ar y môr.

Bydd Cymdeithas Porthladdoedd Prydain yn darparu arian cyfatebol ar gyfer gwaith paratoi fel y gall prosiectau gwynt arnofiol ar y môr yn y dyfodol ddeillio o Gymru.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Mae'r buddsoddiad hwn yn tystio i ymrwymiad y diwydiant a hefyd ymrwymiad Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'r sector gwynt arnofiol. Mae hefyd yn darparu cyllid pwysig i'r seilwaith y bydd ei angen arnom i gyflawni gwynt arnofiol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Wrth gwrs, nid dyma ddiwedd ein cefnogaeth, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Phort Talbot, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a chydweithwyr yn y Gynghrair Môr Celtaidd i sicrhau'r buddion mwyaf posibl o wynt arnofiol i Gymru.

Ychwanegodd Andrew Harston, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru a Phorthladdoedd Bychain:

Mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain yn croesawu'r cymorth cynnar hwn gan Lywodraeth Cymru i helpu i gychwyn datblygiad canolfan ynni gwyrdd mawr ym Mhort Talbot. Mae'r gefnogaeth hon yn allweddol i adeiladu seilwaith trawsnewidiol, a fydd yn galluogi gweithgynhyrchu, integreiddio a chydosod cydrannau gwynt arnofiol ar y môr ym Mhort Talbot.

Mae cyflwyno gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd yn cynnig cyfle cwbl unigryw i Dde Cymru arwain marchnad fyd-eang a chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at dargedau sero net Cymru a'r DU. Trwy wneud hynny bydd yn cefnogi ac yn creu miloedd o swyddi hirdymor o safon uchel.

Gan fod Port Talbot yn borth i’r Môr Celtaidd, a chan y gall gynnig galluoedd unigryw a manteision naturiol, bydd y gefnogaeth hon yn helpu i sicrhau bod yr ardal yn chwarae rhan flaenllaw o fewn prosesau datblygu technolegau gwyrdd a datgarboneiddio diwydiannol.