Mae eleni'n nodi pum mlynedd ers dechrau'r pandemig. Rydym yn parhau i anrhydeddu a chofio’r rhai yr effeithiwyd arnynt.
Dydd Sul 9 Mawrth 2025 yw'r Diwrnod o Fyfyrdod COVID-19 yn y Deyrnas Unedig.
Mae Diwrnod o Fyfyrdod COVID-19 yn amser i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau. Mae hefyd yn gyfle i anrhydeddu'r gwaith diflino a'r caredigrwydd a ddangoswyd yn ystod y pandemig.
Gwahoddir pobl a chymunedau i ddod ynghyd ar y Diwrnod o Fyfyrdod COVID-19, mewn ffyrdd sy’n teimlo’n ystyrlon iddyn nhw.
Cymryd rhan
Fe wnaeth pandemig COVID-19 effeithio ar lawer ohonom mewn gwahanol ffyrdd. Gallwch ymuno yn y Diwrnod o Fyfyrdod i gofio a myfyrio ym mha bynnag ffordd sy’n addas i chi.
I gael gwybod mwy am y Diwrnod o Fyfyrdod a sut y gallwch gymryd rhan, ewch i wefan y Diwrnod o Fyfyrdod.