Cyngor iechyd cyhoeddus i ysgolion: coronafeirws
Sut mae ysgolion a darparwyr eraill yn gallu gwneud eu safleoedd yn ddiogel i staff a dysgwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cynulleidfa
Mae’r cyngor hwn i arweinwyr a staff mewn lleoliadau meithrin a gynhelir, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd (gan gynnwys chweched dosbarthiadau), ysgolion arbennig, darparwyr ôl-16 arbennig, ysgolion babanod, iau a chanol, Unedau Cyfeirio Disgyblion, ysgolion preswyl ac ysgolion annibynnol.
Y cyd-destun
Mae Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022 yn nodi cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig. Mae’r cynllun yn esbonio sut y byddwn yn symud o’r cam argyfwng i drefniadau mwy cynaliadwy a all ein cynorthwyo yn y tymor hwy.
Er hynny, fel y cydnabuwyd yn y cynllun, nid yw COVID-19 wedi diflannu a bydd yn aros gyda ni ym mhob rhan o’r byd. Am y rheswm hwn, mae'n dal yn bwysig i ysgolion a lleoliadau ystyried yr hyn y gallant ei wneud i leihau lledaeniad y feirws, ac amddiffyn eu dysgwyr a'u staff, gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ychwanegol i'r rhai sy'n fwy agored i niwed gan gynnwys y rhai ag imiwnedd gwan neu sy'n byw gyda rhywun sy'n agored i niwed. Drwy barhau i weithredu mesurau rheoli iechyd y cyhoedd, bydd ysgolion a lleoliadau yn helpu i gadw lledaeniad y feirws yn isel, yn gwella hyder y cyhoedd a staff ac yn lleihau'r posibilrwydd o darfu pellach.
Gyda nifer cynyddol o bobl wedi’u brechu ac ymdrechion parhaus pawb, nid yw’r gofynion cyfreithiol penodol ar gyfer y coronafeirws yn berthnasol mwyach. Dylai'r risgiau o’r coronafeirws gael eu hystyried yn yr un cyd-destun â risgiau clefydau trosglwyddadwy eraill (er enghraifft ffliw a norofeirws).
Diben
Mae'r 'Cyngor iechyd cyhoeddus ar gyfer ysgolion a lleoliadau' hwn yn ategu Cyngor iechyd y cyhoedd i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau: coronafeirws a dylid eu ddarllen ar y cyd. Mae’n cynghori sefydliadau (gan gynnwys ysgolion a lleoliadau) ar sut i liniaru risgiau iechyd y cyhoedd drwy amryw o fesurau rheoli iechyd cyhoeddus cyfarwydd. Wrth benderfynu pa fesurau rheoli iechyd cyhoeddus i'w cymhwyso, ystyriwch a yw (a) yn gymesur a (b) yn rhesymol ymarferol i'w weithredu. Mae'r cyngor hwn yn disodli'r 'fframwaith penderfyniadau rheoli heintiau COVID-19 lleol ar gyfer ysgolion'.
Yn ogystal, dylid ystyried y canllawiau a ganlyn hefyd:
- Canllawiau Cymru Gyfan ar Atal a Rheoli Heintiau mewn Lleoliadau Addysg
- Tîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru: Offeryn Gwella Ansawdd, Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant a Lleoliadau Addysg yng Nghymru
- Adnodd Asesu Risg ar gyfer y Gweithlu
Nid yw'r cyngor iechyd cyhoeddus hwn yn disodli cyfrifoldebau statudol ysgolion ac mae'n bwysig bod ysgolion yn parhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol sy'n ymwneud â 'Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974', 'Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992', 'Deddf Cydraddoldeb 2010' ac unrhyw reoliadau perthnasol eraill.
Cyngor penodol i ysgolion a lleoliadau addysg
Bydd y cyd-destun iechyd cyhoeddus yn newid dros amser a gall amrywio'n rhanbarthol ac yn lleol. Dylai ysgolion a lleoliadau barhau i weithio'n agos gyda'u cynghorwyr iechyd cyhoeddus a’u hawdurdodau lleol i sicrhau bod y mesurau sydd ar waith ar gyfer eu hysgol yn parhau i fod yn briodol ac yn gymesur bob amser. Dylid rhoi ystyriaeth benodol i gydbwyso niwed h.y. a yw'r niwed a achosir gan gyflwyno unrhyw fesurau yn drech na'r manteision i iechyd y cyhoedd.
Dylai ysgolion a lleoliadau barhau i deilwra ymyriadau i adlewyrchu risgiau ac amgylchiadau lleol, gan weithio gyda’u hawdurdodau lleol a’u cynghorwyr iechyd cyhoeddus ac adeiladu ar yr egwyddorion a sefydlwyd o fewn 'Fframwaith penderfyniadau rheoli heintiau COVID-19 lleol ar gyfer ysgolion'. Dylai penderfyniad i ddwysáu unrhyw fesurau fod yn gymesur a chyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd mewn cymdeithas ehangach. Cyn cyflwyno mesurau ychwanegol, dylai ysgolion a lleoliadau, gyda chefnogaeth eu hawdurdodau lleol a’u cynghorwyr iechyd cyhoeddus, gytuno ar feini prawf i'w defnyddio i benderfynu o dan ba amodau y cânt eu codi. Dylai ysgolion a lleoliadau ystyried trefniadau i bawb sy'n defnyddio safle'r ysgol neu'r lleoliad. Mae hyn yn cynnwys staff, dysgwyr ac ymwelwyr.
Mae rhestr wirio wedi'i darparu i helpu i nodi'r mesurau y gellid hystyried. Gellir addasu'r rhestr wirio hon hefyd i gyd-fynd â'ch lleoliad a'ch gweithgareddau penodol eich hun. Yn benodol, dylai'r mesurau craidd canlynol fod ar waith i amddiffyn dysgwyr a staff:
- Dylid atgoffa staff a dysgwyr i ddilyn canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19
- Mae golchi dwylo'n rheolaidd ac arferion anadlol (Ei Ddal. Ei Daflu. Ei Ddifa) yn ymyriadau allweddol i atal haint rhag lledaenu a rheoli achosion, achosion lluosog a brigiadau o achosion.
- Mae trefniadau awyru digonol, drwy agor ffenestri neu addasu systemau awyru, yn bwysig hefyd. Mae dyfeisiau monitro carbon deuocsid ar gael i bob ysgol ac mae canllawiau ar sut i ddefnyddio dyfeisiau monitro carbon deuocsid ar gael er mwyn helpu i fonitro lefelau awyru mewn lleoliadau addysg.
Mae’r Cynllun ar gyfer Brigiadau o Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi trefniadau ar gyfer rheoli brigiadau o achosion o glefydau trosglwyddiadwy yng Nghymru. Dylai fod gan ysgolion a lleoliadau gynlluniau wrth gefn eisoes (a elwir weithiau'n gynlluniau rheoli achosion) yn amlinellu'r hyn y byddent yn ei wneud pe bai dysgwyr neu staff yn profi'n bositif am COVID-19 a chlefydau trosglwyddadwy eraill, neu sut y byddent yn gweithredu os cânt eu cynghori i gymryd camau ychwanegol i helpu i dorri cadwyni trosglwyddo.
I grynhoi, dylai’r rhai sy'n gyfrifol am ysgolion a lleoliadau barhau i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol iechyd a diogelwch. Yn ogystal, dylent ystyried y mesurau iechyd cyhoeddus a nodir yn y cyngor hwn a'r dogfennau cysylltiedig y cyfeirir atynt a'u gweithredu lle bo hynny'n rhesymol ymarferol. Bydd hyn yn helpu i leihau’r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â chlefydau trosglwyddadwy (gan gynnwys ffliw, coronafeirws a norofeirws) a'u lledaenu mewn ysgolion.