Neidio i'r prif gynnwy

Grant i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau, neu ariannu’r costau hynny’n rhannol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae'r cynllun hwn yn darparu grantiau i ariannu (neu ariannu’n rhannol) costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru. Nid yw'n cynnwys costau rhentu misol.

Cyn ystyried y cynllun hwn, defnyddiwch declyn gwirio cyfeiriadau Openreach i gael gwybod a oes gennych fynediad eisoes at wasanaeth band eang cyflym. Mae yna gyflenwyr eraill sy’n darparu rhwydweithiau band eang yng Nghymru. Gwiriwch yn uniongyrchol gyda darparwyr band eang neu defnyddiwch wefannau cymharu prisiau.

Rhaid i gysylltiadau newydd drwy'r cynllun hwn sicrhau newid sylweddol mewn cyflymder. Rhaid i'r cysylltiad newydd o leiaf ddyblu eich cyflymderau lawrlwytho cyfredol.

Mae’r cyllid y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd:

  • £400 ar gyfer 10Mbps neu uwch
  • £800 ar gyfer 30Mbps neu uwch

Os ydych chi’n rhan o gymuned wledig, efallai y gall Llywodraeth y DU helpu i’ch cysylltu â band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabit.

Cymhwysedd

I weld a ydych yn gymwys i gael grant Allwedd Band Eang Cymru darllenwch y meini prawf cymhwysedd ac amodau’r cynllun.

Cyn gwneud cais, dylech gael rhagor o wybodaeth am opsiynau sydd ar gael ar gyfer cael band eang cyflymach. Mae hyn yn cynnwys defnyddio teclyn gwirio cyfeiriadau Openreach i weld a oes gennych fynediad eisoes at wasanaeth band eang cyflym. Mae yna gyflenwyr eraill sy’n darparu rhwydweithiau band eang yng Nghymru. Gwiriwch yn uniongyrchol gyda darparwyr band eang neu defnyddiwch wefannau cymharu prisiau.

Cyn i chi wneud cais

Cyn llenwi a chyflwyno eich ffurflen gais dylech:

  • ddefnyddio teclyn gwirio cyfeiriadau Openreach i weld a oes gennych fynediad eisoes at wasanaeth band eang cyflym
  • ystyried pa gyflymder sydd ei angen o ran cysylltiad eich cartref neu fusnes heddiw a thros y 12 mis nesaf
  • dewis darparwr gwasanaethau rhyngrwyd (ISP) sy'n gallu diwallu'r anghenion rydych wedi'u nodi a chael dyfynbris ysgrifenedig ganddynt

Bydd angen yr wybodaeth hon arnoch i gyflwyno'ch cais.

Sut i wneud cais

I wneud cais, rhaid i chi lenwi ffurflen gais Allwedd Band Eang Cymru a'i dychwelyd gyda dyfynbris gan eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd dewisol i broadband@llyw.cymru.

Rhagor o wybodaeth

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am fand eang yng Nghymru, e-bostiwch customerhelp@llyw.cymru.