Neidio i'r prif gynnwy

Cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, heddiw (dydd Gwener, Ionawr 20) y bydd Cymru'n cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes erbyn 2025.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o’r fenter newydd byddwn yn talu ernes fach pan fyddwn yn prynu diod mewn cynhwysydd untro, a gawn yn ôl pan fyddwn yn dychwelyd y botel neu'r can.

Mae Cymru'n cydweithio gyda Lloegr a Gogledd Iwerddon i sefydlu cynllun ar y cyd, sy'n golygu y gallwch brynu diod yn y Barri a'i ddychwelyd ym Mryste neu Belfast.

Mae'r Alban yn sefydlu ei chynllun ei hun, sy'n dechrau'n ddiweddarach eleni.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn deddfwriaeth ddiweddar i wahardd nifer o blastigion untro

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Dyma gam arall ymlaen wrth i Gymru ddatblygu’n economi fwy cylchol lle mae llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu, a lle caiff adnoddau eu hailddefnyddio a'u hailgylchu yn hytrach na’u bod yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y pen draw.

Mae ymgynghoriad wedi dangos cefnogaeth gyhoeddus enfawr i gyflwyno’r cynllun, ac rydyn ni'n gwybod bod pobl yng Nghymru eisiau cyfrannu at wella ein cyfraddau ailgylchu sydd eisoes ar y blaen.

Cymru yw'r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu, ond rydyn ni'n gwybod y gallwn ni a bod angen i ni fynd ymhellach i daclo'r gwastraff sy'n effeithio ar ein dinasoedd a'n trefi ac sy'n difetha ein cefn gwlad ac i leihau ein hallyriadau.

Bob blwyddyn mae defnyddwyr y DU yn gwaredu tua 14 biliwn o boteli diodydd plastig a naw biliwn o ganiau diodydd, ac mae llawer ohonynt yn cael eu taflu fel sbwriel neu'n cyrraedd safleoedd tirlenwi. 

Mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos y gall cynlluniau dychwelyd ernes wella cyfraddau ailgylchu, ac mae cyfraddau uwch na 90% yn yr Almaen, y Ffindir a Norwy yn tystio i hyn.

Trwy'r cymhelliant ariannol a ddarperir i ddefnyddwyr ar gyfer dychwelyd eu cynwysyddion diodydd untro, amcangyfrifir, ar ôl tair blynedd o'r cynllun, y bydd 85% yn llai o gynwysyddion diodydd yn cael eu taflu fel sbwriel, gyda tharged i gasglu dros 90% o gynwysyddion diodydd y gellir eu dychwelyd unwaith y bydd y cynllun yn weithredol.

Y deunyddiau a fydd yn rhan o’r cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru fydd cynhwysyddion diodydd a wneir o blastig polyethylene terephthalate (PET), dur, gwydr, ac alwminiwm.