Cynllun Teithio am Ddim i Ffoaduriaid ar Fysiau Cymru ‘Tocyn Croeso’: telerau ac amodau
Cynnwys
1. Teitl y cynllun
Cyfeirir at Gynllun Teithio am Ddim i Ffoaduriaid ar Fysiau Cymru, o hyn ymlaen, fel 'y cynllun'.
2. Brand y cynllun
Brand y cynllun ar gyfer pob gohebiaeth gyhoeddus yw'r 'Tocyn Croeso'.
3. Disgrifiad
Mae'r cynllun yn darparu teithio diderfyn am ddim i bobl gymwys ar bob gwasanaethau bws lleol a ddarperir ledled Cymru gan y cwmnïau sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Mae rhestr o’r cwmnïau hynny i’w gweld dan bennawd 18. Mae’r cynllun yn cynnwys gwasanaethau sy’n teithio i mewn ac allan o Loegr pan fydd eich taith yn dechrau a dod i ben yng Nghymru.
Mae'r prawf cymhwysedd sydd ei angen i gael mynediad at deithio am ddim ar fysiau fel y'i diffinnir wedi'i restru o dan bennawd 4 isod.
Mae'r cynnig yn gwbl ar wahân i'r cynllun peilot presennol sydd ar waith ar gyfer Ceiswyr Lloches.
4. Cymhwysedd
Mae’r cynllun ar gael i bob ffoadur a’r rheini sy’n ceisio amddiffyniad rhyngwladol yma yng Nghymru, yn unol â’n gweledigaeth i fod yn Genedl Noddfa, ond rhaid dangos un o’r canlynol:
- Trwydded Breswylio Fiometrig (BRP) sy’n nodi bod rhywun yn 'Ffoadur', bod ganddo statws 'HP' neu ‘Amddiffyniad Dyngarol’ (‘Humanitarion Protection’) neu sy’n cynnwys y geiriau ‘Afghan’, ‘Ukraine’ neu ‘Hong Kong’
- llythyr oddi wrth y Swyddfa Gartref / Ysgrifennydd Cartref wedi’i gyfeirio’n bersonol sy’n cadarnhau un o’r statysau a restrir yn y pwynt bwled uchod
- pasbort dilys Wcráin neu Affghanistan neu Basbort Gwladolion Tramor Prydeinig Hong Kong
Enghreifftiau o Drwydded Breswyl Brydeinig Fiometrig (BRP); Vignette ac enghraifft o stamp clirio swyddog mewnfudo:



5. Terfynau daearyddol
Bydd teithio am ddim ar fysiau ar gynhyrchu prawf dilys (pennawd 4) ar gael ar gwasanaethau bysiau lleol sy'n gweithredu'n gyfan gwbl yng Nghymru neu lle mae'r daith yn dechrau ac yn gorffen yng Nghymru.
6. Amseroedd gweithredu
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar yr amser y darperir teithio am ddim ar fysiau ar gynhyrchu prawf dilys fel y'i diffinnir o dan bennawd 4 y ddogfen hon.
7. Mathau o deithiau
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y math o deiithiau y darperir teithio am ddim ar fysiau ar ei gyfer.
8. Disgownt a chyfyngiadau ar tocynnau
Nid oes unrhyw gyfyngiadau.
9. Trosglwyddo
Mae teithio am ddim ar fysiau i'w ddefnyddio gan yr unigolyn a enwir o dan delerau cymhwysedd yn unol â phennawd 4 y ddogfen hon ac ni ellir ei drosglwyddo, ond bydd yn cynnwys uned deuluol sy'n teithio gyda'i gilydd gan gynnwys plant.
Bydd angen i unrhyw blant sy'n ffoaduriaid sy'n cael addysg gynradd neu uwchradd yng Nghymru wneud cais o hyd i'r awdurdod lleol perthnasol am drafnidiaeth os ydynt yn gymwys.
Bydd teithio am ddim ar fysiau yn cael ei dynnu'n ôl os caiff ei gamddefnyddio / ei ddefnyddio gan unrhyw un heblaw'r person(au) sy'n gymwys a gall arwain at achos troseddol.
10. Cymhwyso disgownt ar fws
Mae'n ofynnol i'r defnyddiwr gyflwyno ei brawf cymhwysedd (pennawd 4) i'r gyrrwr bws wrth fynd ar fws i gael y disgownt perthnasol. Ni fydd pobl nad ydynt yn gallu cyflwyno prawf cymhwysedd yn gymwys i deithio am ddim a bydd yn ofynnol iddynt dalu'r pris llawn a nodir.
Mae cynrychiolwyr cwmnïau bysiau yn cadw'r hawl i archwilio prawf cymhwysedd fel rhan o'r broses ddilysu a lleihau twyll.
11. Rheolau a rheoliadau
Mae rheolau a rheoliadau pob cwmni bysiau yn berthnasol pan fydd teithio am ddim wedi dangos prawf cymhwysedd a/neu docynnau eraill.
12. Hyd y cynllun
Bydd y cynllun yn dechrau ar 26 Mawrth 2022 a bydd yn para tan 31 Mawrth 2024. Mae trefniadau ar gyfer ar ôl 31 Mawrth 2024 yn cael eu hystyried.
13. Ffenestr ymgeisio
Nid oes cyfnod ymgeisio gan y bydd y defnyddiwr yn cynhyrchu'r prawf cymhwysedd sydd ei angen i gymryd rhan yn y cynllun i yrrwr y bws wrth fynd ar y bws i gael teithio am ddim ar unwaith ar wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru.
14. Rhoi cerdyn
Ni fydd y cynllun hwn yn cynnwys unrhyw gardiau teithio penodol i'r defnyddiwr. Bydd yn ofynnol i'r rhai sy'n gymwys i deithio am ddim gydymffurfio â gofynion prawf cymwys fel y'u rhestrir o dan bennawd 4 y ddogfen hon. Bydd y rhai sy'n gymwys i deithio am ddim yn cael tocyn teithio 'Tocyn Croeso' nad oes gwerth iddo gan y gyrrwr bws wrth fynd ar y bws ar gyfer y daith sy'n cael ei gwneud.
15. Gwaharddiadau
Nid yw teithio am ddim yn ddilys ar wasanaethau bysiau pellter hir a ddarperir gan National Express, Stagecoach Megabus a FLIXBUS.
I gael manylion am y gwasanaethau hyn gan gynnwys amseroedd, defnyddiwch yr wybodaeth gyswllt ganlynol:
- National Express: contact us
- Stagecoach MegaBus: Making Travel Simple
- FLIXBUS: wefan FLIXBUS (Saesneg yn unig)
Nid yw prawf cymhwysedd o dan bennawd 4 y ddogfen hon yn rhoi'r hawl nac yn gwarantu cludiant ar unrhyw wasanaeth bws ar unrhyw adeg, nac yn arwain at ddisgwyl parhad o’r gwasanaethau presennol neu ddarparu gwasanaethau newydd.
Mae amodau cludiant cwmnïau unigol hefyd yn berthnasol ar gyfer teithiau.
16. Defnydd twyllodrus
Mae’r cynllun ar gael ond i'r rhai sy'n gymwys drwy gynhyrchu prawf dilys fel y'i rhestrir o dan bennawd 4 o delerau ac amodau'r cynllun i yrrwr y bws wrth fynd ar y bws. Bydd defnydd twyllodrus yn arwain at dynnu cludiant am ddim yn ôl ar unwaith i'r unigolyn/unigolion dan sylw a chaiff ei adrodd i'r awdurdodau perthnasol a gall arwain at erlyniad.
17. Newidiadau i delerau ac amodau
Gall Telerau ac Amodau'r cynllun hwn newid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hadlewyrchu yn y Telerau ac Amodau wedi'u diweddaru sydd ar gael.
18. Rhestr o gwmnïau bysiau sy'n cymryd rhan
Mae pob cwmni bws sydd yn rhedeg gwasanaethau bysus cofrestredig yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynllun o 1 Awst 2022.