Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol ar gyfer holl ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y prif nod yw sicrhau chwarae teg i bob busnes llety ymwelwyr sy'n gweithredu yn y sector. Mae'r pryder ynghylch diffyg tegwch wedi bod yn faes trafod ers amser gyda phryderon nad yw rhai rhannau o'r sector yn cyrraedd nac yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Mae Cytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru yn ymrwymo i gynllun trwyddedu statudol ar gyfer tai gwyliau fel rhan o becyn o fesurau i fynd i'r afael â'r effaith negyddol y gall ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ei chael ar argaeledd a fforddiadwyedd tai i bobl leol yn ein cymunedau.

Gallai cynllun trwyddedu statudol:

  • darparu'r mecanwaith i fynd i'r afael â phryderon ynghylch cydymffurfio;
  • ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddangos tystiolaeth bod ganddynt ofynion penodol, megis yr yswiriant cywir, cadarnhau statws cynllunio, tystiolaeth o asesu risg tân, tystysgrif diogelwch nwy, a phrawf o ddiogelwch trydanol;
  • darparu cronfa ddata gynhwysfawr o bwy yn union sy'n gweithredu yn y diwydiant gan nad yw'n bosibl ar hyn o bryd pennu faint o fusnesau llety ymwelwyr sydd yng Nghymru, neu mewn unrhyw gymuned benodol;
  • bod yn offeryn gwerthfawr wrth ddeall graddfa a natur y sector.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae'r economi ymwelwyr yn newid yn gyflym, ac mae rôl llety ymwelwyr yn cynnig heriau mawr i gymunedau ar draws y byd. Er enghraifft, mae twf platfformau archebu ar-lein wedi dod â llawer o fanteision, megis llwybrau newydd i'r farchnad a mwy o ddewis i ddefnyddwyr.

"Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o'r pryderon ynghylch cydymffurfio â'r gofynion presennol ac effaith gosod tai yn y tymor byr ar y stoc dai a'n cymunedau.

"Bydd ein cynlluniau i ddatblygu cynllun trwyddedu statudol yn canolbwyntio ar degwch fel rhan o ymateb hirdymor i'r heriau mawr sy'n ein hwynebu. 

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn ymchwilio a thrafod gyda rhanddeiliaid ar sut y gallai cynllun o'r fath weithio yng Nghymru. Wrth i'r ymgynghoriad agor nawr, hoffem glywed barn bellach a byddem yn annog y sector i ymateb i'r ymgynghoriad."

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian:

"Drwy ein Cytundeb Cydweithredu, rydym yn gweithredu'n radical ac ar unwaith i fynd i'r afael â methiannau'r farchnad dai a'r diffyg tai fforddiadwy, gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthu i wneud gwahaniaeth. Mae'r cynllun trwyddedu arfaethedig hwn yn rhan o'n dull gweithredu, gan ei gwneud yn ofynnol cael trwydded i gadw llety ymwelwyr, gan gynnwys llety gwyliau tymor byr.

"Mae cynnydd enfawr wedi bod yn y sector llety gwyliau tymor byr yn ystod y blynyddoedd diwethaf sy'n gwaethygu'r argyfwng tai yng Nghymru. Er bod gennym fframwaith rheoleiddio mewn grym yng Nghymru ar gyfer llety rhent preifat, nid oes un sy'n cwmpasu pob math o lety ymwelwyr. Bydd ein cynigion yn dod â mwy o fesurau diogelu i gymunedau lleol ar ddefnyddio anheddau preswyl fel llety gwyliau tymor byr yn benodol, tra'n gwella profiad ymwelwyr a diogelwch ymwelwyr yng Nghymru."

Ymateb i’r ymgynghoriad: Cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru. Mae’r ymatebion i gyrraedd erbyn 17 Mawrth 2023