Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cytundeb hwn yn gweithredu'r pwerau yn Neddf Cymru 2014. Mae'n cefnogi datganoli treth tir treth tir a threth tirlenwi. Mae hefyd yn cefnogi creu cyfraddau treth incwm yng Nghymru.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Rhan o:
Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae'r trefniadau'n cynnwys:

  • Newid fformiwla Barnett drwy greu ffactor newydd, yn seiliedig ar anghenion, wedi’i phennu ar 115%, yn unol ag argymhelliad Comisiwn Holtham, i adlewyrchu nodweddion poblogaeth Cymru.
  • Y Cynulliad Cenedlaethol i allu pennu cyfraddau trethi incwm Cymreig o fis Ebrill 2019 (yn amodol ar hynt Bil Cymru a Llywodraeth Cymru’n cyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol ei bwriad i gyflwyno cyfraddau trethi Cymreig)
  • Addasiad i’r grant bloc sy’n adlewyrchu sylfaen y dreth incwm yng Nghymru
  • Mwy o bwerau benthyca cyfalaf – bydd uchafswm benthyca cyfalaf cyffredinol Llywodraeth Cymru’n cael ei godi i £1bn a’r uchafswm blynyddol i £150m
  • Creu cronfa newydd i Gymru, a fydd yn gweithredu fel ‘cyfrif cynilo’ i helpu Llywodraeth Cymru i reoli’r amrywiadau cyllidebol a ddaw yn sgil datganoli trethi
  • Goruchwyliaeth annibynnol – rôl i gyrff anibynnol gyfrannu os bydd anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â’r fframwaith cyllidol.