Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy ym mherchnogaeth y cyhoedd: Trydan Gwyrdd Cymru. Rydym yn chwilio am dri Chyfarwyddwr Anweithredol i ymuno â'n Cadeirydd a’n Prif Swyddog Gweithredol newydd eu penodi a fydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio'r Bwrdd Cyfarwyddwyr.
Cyfarwyddwr Anweithredol x 3
Cymru
Gwaith di-dâl
Cyfeirnod: TGCNED11.23
Dyddiad cau 28 Ionawr 2024
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy ym mherchnogaeth y cyhoedd – Trydan Gwyrdd Cymru. Ei bwrpas yw rhoi sero net a chymunedau Cymru wrth wraidd y newid sydd ei angen i fynd i'r afael â her enfawr newid hinsawdd. Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn cyflymu'r broses o gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws ystad gyhoeddus Cymru, yn bennaf trwy dechnolegau ynni gwynt ar y tir a solar ffotofoltaig. Ein nod yw cael mwy nag un gigawat o ynni glân dan berchnogaeth leol, a gynhyrchir yn lleol erbyn 2040. Mae gennym gyfle gwirioneddol yma i gynhyrchu incwm a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i wella bywydau pobl yng Nghymru yn ogystal â chreu swyddi ynni glân o ansawdd da.
Dylai'r cwmni newydd hwn sbarduno dull newydd o sicrhau buddiannau o ynni adnewyddadwy sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau. Mae'r argyfwng costau byw presennol yn tanlinellu pwysigrwydd ynni yn ein cymdeithas a bydd cynnwys pobl wrth ddatblygu modelau gwahanol o rannu buddiannau yn hanfodol i lwyddiant y cwmni.
Rydym yn chwilio am dri Chyfarwyddwr Anweithredol i ymuno â'n Cadeirydd a’n Prif Swyddog Gweithredol newydd eu penodi a fydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio'r Bwrdd Cyfarwyddwyr. Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am osod a chyflwyno gweledigaeth glir i'r cwmni.
Bydd gennych angerdd ac ymrwymiad i wneud gwahaniaeth go iawn i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol, gydag awydd cyson i wella. Bydd ymgeiswyr da yn dod â hanes profedig o brofiad arweinyddiaeth yn gweithio ar lefel uwch. Byddwch yn meddu ar wybodaeth neu ddiddordeb yn y sector ynni adnewyddadwy. Bydd yr ymgeiswyr cryfaf yn gallu dangos eu gallu i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid ar draws diwydiant, llywodraeth ganolog a lleol, a phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Os oes gennych y sgiliau, y wybodaeth a'r profiadau byw i helpu i arwain a chefnogi Trydan Gwyrdd Cymru, beth bynnag fo'ch cefndir, byddai gennym ddiddordeb mawr mewn clywed gennych.