Neidio i'r prif gynnwy

Manylion y cadeirydd ac aelodau bwrdd Datblygwr Ynni Adnewyddadwy Cymru.

  • Ed Sherriff (cadeirydd) , Dirprwy Gyfarwyddwr Ynni yn Llywodraeth Cymru a hefyd yr Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO) ar gyfer y Rhaglen Datblygwyr Ynni Adnewyddadwy.
  • Steve Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Seilwaith a Sicrwydd yn Llywodraeth Cymru, gan arwain ar Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, a'r Swyddfa Cyflawni Prosiectau.
  • Brian McKenzie, Prif Bartner Busnes Cyllid ar gyfer portffolio Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru.
  • Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr polisi ariannu llywodraeth leol a chynaliadwyedd. 
  • Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn arwain ar gyfer datblygu gwynt ar y tir ar Ystad Goed Llywodraeth Cymru ynghyd â'n Tîm Masnachol.
  • Rob Proctor, Cyfarwyddwr 2 sefydliad ynni cymunedol, YnNi Teg ac YnNi Newydd.  Bu Rob hefyd yn gweithio i Ynni Cymunedol Cymru am 7 mlynedd, gan ddarparu gwybodaeth a phrofiad helaeth o'r sector.
  • Dr David Williams, Prif Swyddog Gweithredol Private Energy Partners ac ar hyn o bryd yn adeiladu prosiect solar a storio mwyaf y DU yn Cleve Hill yng Nghaint.

    Mae David wedi bod yn rhan o ynni adnewyddadwy ers dros 32 o flynyddoedd. Mae prosiectau ynni adnewyddadwy David yn cyfateb i 1080MW o gapasiti ynni adnewyddadwy ac yn cynnwys £2.6Bn o arian a fuddsoddwyd. Mae'r prosiectau hyn yn arbed dros 2 filiwn tunnell o CO2 y flwyddyn ac yn cyflenwi'r hyn sy'n cyfateb i 1.5 miliwn o gartrefi.  

    Mae'n gyn-ymgynghorydd i Lywodraeth y DU ac wedi cadeirio Panel Sector Ynni a'r Amgylchedd Llywodraeth Cymru. 

    Mae gan David dair gwobr cyflawniad oes a Gwobr Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn Ernst & Young am wasanaethau i ynni adnewyddadwy.