Neidio i'r prif gynnwy

Gofynnwyd am gyfarfod brys gyda'r Canghellor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae llywodraethau datganoledig y DU yn galw am gyfarfod brys gyda'r Canghellor Kwasi Kwarteng i drafod gweithredu ar unwaith i wyrdroi effeithiau niweidiol y datganiad cyllidol.

Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi ymuno ȃ Gweinidogion Cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon i dynnu sylw at yr effaith niweidiol "y gyfres fwyaf o doriadau treth heb ei ariannu ar gyfer y cyfoethog mewn dros 50 mlynedd" gan honni ei fod yn "gambl enfawr gyda cyllid cyhoeddus ac iechyd ein heconomi".

Mewn llythyr ar y cyd, maen nhw'n rhybuddio’n erbyn cael eu gorfodi i ddegawd arall o gynni ac yn mynegi pryder mawr ynghylch adroddiadau y bydd gofyn i adrannau Llywodraeth y DU wneud toriadau gwariant i gydbwyso'r gyllideb. Gallai hyn fod â chanlyniadau dwys i gyllidebau datganoledig, sy’n barod wedi'u herydu gan chwyddiant.

Mae'r Gweinidogion hefyd yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i aelwydydd a busnesau, cymorth fyddai’n cael ei ariannu trwy dreth ar y sector ynni. Yn ogystal, maen nhw'n galw am gyllid ychwanegol i gynyddu budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol i gefnogi aelwydydd incwm isel gyda'r costau uwch y byddant yn eu hwynebu drwy'r gaeaf, gan gynnwys cynnydd o £25 yr wythnos ar gyfer y Credyd Cynhwysol a budd-daliadau etifeddiaeth.

Drwy ddiddymu'r gyfradd 45c y dreth incwm, mae Llywodraeth y DU wedi dangos yn glir beth yw eu bwriad. Bydd hyn yn gwneud y cyfoethog yn gyfoethocach ac yn achosi anghydraddoldeb pellach yn ein cymunedau.

Darllenwch y llythyr yn llawn yma: