Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (Deddf 2013) yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor fonitro’r cymunedau a’r trefniadau etholiadol ar gyfer y cymunedau hynny yn ei ardal.

Mae’r adolygiadau hyn yn helpu i sicrhau bod natur gyfnewidiol pob cymuned, ei phoblogaeth a’r cynlluniau ar gyfer ei datblygu yn cael eu hadlewyrchu, er mwyn bod gan bob cymuned gynrychiolaeth ddemocrataidd deg a chyfartal.

O dan Ddeddf 2013, gall cyngor naill ai gynnal ei adolygiad cymunedau ei hun, neu gall gytuno i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn) gynnal yr adolygiad ar ei ran. O dan yr ail drefniant hwn, mae’n ofynnol i’r Comisiwn gyflwyno ei adroddiad a’i argymhellion i Weinidogion Cymru benderfynu yn eu cylch.

Mae’r Comisiwn wedi cwblhau adolygiad ar ran Cyngor Sir Ceredigion. Ar ôl ystyried Adroddiad Argymhellion Terfynol y Comisiwn (dolen allanol) ynghyd â’r sylwadau a dderbyniwyd, rwyf wedi ysgrifennu at Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion i’w hysbysu o’m penderfyniad i gytuno â’r argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Comisiwn gyda rhai addasiadau. Mae’r addasiadau sydd i’w cymhwyso fel a ganlyn:

  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw ward gymunedol unigol Llanddewi Aberarth.  Rhoddir yr enw Saesneg Llanddewi Aberarth a’r enw Cymraeg Llanddewi Aber-arth ar y ward gymunedol.
     
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw cymuned a ward gymunedol unigol Llandyfriog. Rhoddir yr enw Saesneg Llandyfriog a’r enw Cymraeg Llandyfrïog ar y gymuned a’r ward gymunedol.

Bydd gwaith yn cael ei wneud yn awr i fwrw ati i ddrafftio’r Gorchymyn sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithredu’r penderfyniad hwn. Bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai 2027. 

Bydd angen ystyried a chynllunio’r paratoadau ar gyfer y trefniadau diwygiedig yn ofalus er mwyn sicrhau bod y broses o bontio o’r strwythurau presennol i’r trefniadau newydd yn mynd rhagddi’n ddirwystr. Rwyf wedi annog y Cyngor i ddechrau trafodaethau â’r cynghorau cymuned yn ardal y Sir cyn gynted â phosibl.