Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).

Mae’r Bil yn rhoi grym i gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol, yn gweithredu cynllun sgorio hylendid bwyd gwirfoddol yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd y Bil hwn yn sefydlu cynllun sgorio hylendid bwyd yn statudol.

Mae’r Bil yn creu gofyniad statudol i awdurdodau bwyd yng Nghymru (yn y Bil diffinnir awdurdodau bwyd fel cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol) i arolygu a llunio sgoriau hylendid bwyd i sefydliadau busnes bwyd yn eu hardal, gan ddefnyddio meini prawf a gyhoeddir gan yr ASB (adrannau 2, 3 a 4 o’r Bil). Bydd yn ofynnol i sefydliadau busnes bwyd sydd wedi cael eu sgorio hysbysu’r  cyhoedd o’u sgôr hylendid bwyd drwy arddangos eu sticer mewn man amlwg yn eu sefydliad (adran 7). Bydd hefyd yn ofynnol iddynt ddweud beth yw eu sgôr hylendid bwyd pan fydd rhywun yn eu holi (adran 8). Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i’r ASB gyhoeddi’r holl sgoriau hylendid bwyd ar eu gwefan (adran 6).

Bydd yn ofynnol i awdurdodau bwyd orfodi darpariaethau’r Bil. Bydd y busnesau bwyd hynny sy’n peidio ag arddangos sticer dilys, neu sy’n peidio â chydymffurfio â chais gan aelod o’r cyhoedd i ddweud beth yw eu sgôr hylendid bwyd, yn cyflawni tramgwydd (adran 9).

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno cynllun newydd sy’n deg i fusnesau bwyd. Pan fydd yr awdurdod bwyd yn rhoi gwybod i’r busnes bwyd beth yw eu sgôr, mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod bwyd esbonio pam bod y sefydliad wedi cael y sgôr hwnnw. Mae’r Bil hefyd yn cynnig darpariaeth i’r busnesau bwyd apelio yn erbyn eu sgôr hylendid bwyd a hawl i roi eu sylwadau ar y sgôr. Yna caiff y sylwadau hyn eu cyhoeddi ar wefan ASB (adrannau 5 a 10).

Gall busnesau bwyd hefyd ofyn i awdurdod bwyd gynnal arolygiad ac asesiad pellach o safonau hylendid bwyd y sefydliad, a thalu am hynny, er mwyn ystyried a ddylid newid y sgôr hylendid bwyd (adran 11).

Bwriad y Bil yw sicrhau bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth am safonau hylendid bwyd busnesau bwyd yng Nghymru. Bydd hyn yn galluogi defnyddwyr I wneud dewisiadau cytbwys ynghylch ble i fwyta neu siopa am fwyd.

Byddaf yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory i gyflwyno’r Bil.