Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Trwy bandemig Covid 19, rydym wedi cefnogi'r diwydiant bysiau i gadw gwasanaethau hanfodol ar waith a chaniatáu i weithwyr allweddol gyrraedd y gwaith i helpu i gadw ein cymdeithas i fynd ac i ddarparu cymorth a gofal i'r rhai mewn angen. Byddwn yn parhau â'r gefnogaeth hon wrth i ni gymryd y camau cyntaf allan o'r cyfyngiadau symud ac wrth i'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus ddychwelyd.

Mae'r 'Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau 2' yn rhan allweddol o'n cefnogaeth wrth i ni symud ymlaen.  Mae'n cytundeb rhwng cwmnïau bysiau, awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru ac mae'n darparu y sail ar gyfer gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau gwell.  

O dan delerau'r cytundeb bydd yn ofynnol i gwmnïau ddarparu gwasanaethau bysiau sy'n diwallu anghenion lleol. Bydd yn sicrhau bod cwmnïau yn cael eu cymell i gefnogi adferiad y rhwydwaith cyfan, gwella safonau, ac adeiladu partneriaeth barhaol gyda'r sector cyhoeddus.

Yn y cytundeb hwn mae £37.2 miliwn ychwanegol o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd pellach i gwmnïau bysiau, gan eu galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn ychwanegol at y £90 miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wario'n flynyddol ar gefnogi'r diwydiant a galluogi teithio rhatach.

Bydd Y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau 2 yn sicrhau bod y cymorth a ddarperir i gwmnïau bysiau yn cyd-fynd yn agosach â Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru. Bydd yn gosod y sylfaen ar gyfer y Strategaeth Fysiau Genedlaethol fanylach a fydd yn cael ei pharatoi i gefnogi Llwybr Newydd ac a fydd yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r diwydiant bysiau ymhellach.