Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol, sy'n cynghori adrannau iechyd y Deyrnas Unedig am imiwneiddio, gan wneud argymhellion am amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau.

Fel rhan o'i adolygiad parhaus o’r rhaglen frechu COVID-19, mae'r JCVI heddiw wedi cyhoeddi datganiad yn cynnwys ei gyngor diweddaraf ar raglen 2023.

Er bod lefel uchel o imiwnedd wedi datblygu yn y boblogaeth dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, mae'r risg o gael COVID-19 difrifol yn parhau i fod yn anghymesur o uchel i grwpiau oedran hŷn, preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn, a phobl â chyflyrau iechyd penodol sy’n bodoli eisoes. Mae ansicrwydd yn parhau hefyd ynghylch esblygiad y feirws, parhad ac ehangder yr imiwnedd, ac epidemioleg yr haint.

Ar gyfer grŵp llai o bobl (megis pobl hŷn a phobl ag imiwnedd gwan) mae’r JCVI wedi nodi ei bod yn bosibl y byddai dos ychwanegol o frechlyn atgyfnerthu yn cael ei gynnig yn ystod gwanwyn 2023. Mae wedi nodi hefyd y byddai pobl sydd â mwy o risg o gael COVID-19 difrifol yn cael cynnig dos ychwanegol o frechlyn atgyfnerthu yn ystod hydref 2023. Mae'n bosibl y bydd angen ymateb ychwanegol drwy roi brechlynnau ar frys hefyd pe bai amrywiolyn newydd sy’n peri pryder yn dod i’r amlwg sydd â gwahaniaethau biolegol clinigol arwyddocaol o’i gymharu â'r amrywiolyn Omicron.

Yn ogystal, mae'r JCVI hefyd yn argymell rhai newidiadau i'r rhaglen frechu gyffredinol:

  • Dylai cynnig 2021 i ‘adael neb ar ôl’ drwy roi pigiad atgyfnerthu (trydydd dos) o frechlyn COVID-19 i bobl rhwng 16 a 49 oed nad ydynt mewn grŵp risg clinigol ddod i ben i gyd-fynd â diwedd ymgyrch frechu hydref 2022.
  • Dylai’r cynnig presennol o ‘adael neb ar ôl’ drwy roi prif gwrs o frechlyn COVID-19 gael ei newid, yn ystod 2023, i gynnig wedi'i dargedu’n fwy yn ystod ymgyrchoedd brechu i amddiffyn y bobl hynny sydd â mwy o risg o gael COVID-19 difrifol.

Mae’r cyngor hwn yn golygu mai dim ond pobl benodol ar adegau penodol (yn ystod ymgyrchoedd penodol) fydd yn cael cynnig brechiadau COVID-19 o 2023 ymlaen, ac eithrio pan fydd clinigwyr yn eu rhoi drwy bresgripsiwn.  

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law ynghylch dyddiad cau ffurfiol y ddwy elfen hon o'r rhaglen.

Ochr yn ochr â’m cymheiriaid yn y DU, rwyf wedi derbyn y cyngor hwn ac, yn amodol ar gyflenwad, mae GIG Cymru yn barod i ddechrau gweithredu'r rhaglen hon yn 2023.

Fel erioed, rwy'n hynod ddiolchgar i'r GIG a phawb sy'n rhan o'r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.