Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ddechrau’r flwyddyn newydd hon, roeddwn eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein cynnydd tuag at ddileu twbercwlosis (TB) yng Nghymru, yn unol â gweledigaeth Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i sicrhau bod rhanbarth Ewrop yn rhydd rhag baich TB erbyn 2030: Tuberculosis action plan for the WHO European Region 2023–2030. Information sheet\.

Ar hyn o bryd, Cymru sydd â’r gyfradd gydradd isaf o TB yn y Deyrnas Unedig (2.8 o achosion am bob 100,000 o’r boblogaeth[1]) ac mae’r cyfraddau cyffredinol wedi bod yn lleihau ers 2009.  

Er y duedd ar i lawr, rydym yn dal i weld rhai marwolaethau cysylltiedig â TB bob blwyddyn yng Nghymru, ac mae’r prif ffigurau yn celu rhai o’r risgiau cynyddol o ran atal a rheoli TB.

Mae oddeutu hanner yr achosion o TB yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf wedi effeithio ar bobl a aned yn y DU, ac mae hyn yn creu heriau cwbl wahanol o ran canfod a rheoli achosion. Mae’r achosion yn gyffredinol yn gynyddol heriol a chymhleth, ac mae bygythiad parhaus o achosion ag ymwrthedd i’r prif gyffuriau ac ymwrthedd estynedig i gyffuriau.

Mae TB yn glefyd a all fod yn angheuol, sy’n arwain at ganlyniadau iechyd a chymdeithasol sylweddol ar gyfer y rheini sydd wedi’u heffeithio. Mae’n cyfrannu at anghydraddoldebau iechyd mewn poblogaethau sydd eisoes yn ddifreintiedig, ac mae pob achos heintus yn cynrychioli risg o drosglwyddiad i gysylltiadau ac i gymunedau.

Gellir gwella’r rhan fwyaf o achosion o TB, ond gall cefnogi un achos cymhleth drwy driniaeth arwain at oblygiadau sylweddol o ran adnoddau ar gyfer y GIG a’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Yn ogystal, mae tystiolaeth gryf yn bodoli sy’n dangos y gall methiant i atal achosion, rhoi diagnosis a thriniaeth ddigonol, arwain at ddatblygu ymwrthedd i gyffuriau, trosglwyddo’r clefyd i eraill, a brigiadau o achosion.

Gall hyd yn oed un achos o TB arwain at glystyrau a brigiadau o achosion sy’n fawr ac anodd eu rheoli. Yn 2018, cafwyd tri brigiad o achosion TB yng Nghymru a oedd yn gofyn am sgrinio nifer fawr o gysylltiadau. Cafodd y brigiadau o achosion effaith ddifrifol ar yr unigolion dan sylw ac ar adnoddau’r GIG.

Cynhaliwyd ymarfer sgrinio cymunedol torfol o fwy na 1,500 o bobl yn 2019 o ganlyniad i frigiad parhaus o achosion gyda chyfanswm cronnol o fwy na 30 o achosion o TB ers 2010. Mae’r brigiad hirdymor hwn o achosion wedi peri pryder enfawr i’r cyhoedd, ac mae gweithgareddau cysylltiedig â sgrinio yn parhau hyd heddiw. Yn 2020, cynhaliwyd ail ymarfer sgrinio torfol a oedd yn cynnwys mwy na 1,000 o staff a charcharorion yn dilyn achos o TB a oedd yn gysylltiedig â charchar. 

Mae cyfraddau TB yng Nghymru wedi lleihau ers 2009 ac mae’r diolch am hynny i raddau helaeth i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio i atal TB, rhoi diagnosis ohono, ei drin a’i reoli. O ystyried yr heriau, mae angen inni sicrhau ffocws o’r newydd i ddileu TB yng Nghymru. Rwyf felly wedi cytuno y bydd nifer o gamau yn cael eu cymryd:

  • Byddwn yn sefydlu Grŵp Goruchwylio Dileu TB pwrpasol i fonitro a chymell cynnydd ar draws Cymru. Bydd y Grŵp yn adrodd i’r Prif Swyddog Meddygol o dan drefniadau llywodraethu’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd.
  • Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ailsefydlu’r Grŵp TB Cymru Gyfan, nad oedd yn weithredol yn ystod y pandemig. Bydd ei gylch gwaith yn cynnwys ystyried ac adolygu tystiolaeth gan gynnwys yr hyn a ddysgwyd o frigiadau o achosion, cynghori ar faterion fel blaenoriaethu gwasanaethau a gofynion sgrinio ar gyfer unigolion sy’n cyrraedd Cymru a datblygu canllawiau i gefnogi gweithwyr proffesiynol.
  • Tasg gyntaf y Grŵp TB Cymru Gyfan fydd adolygu’r Strategaeth Twbercwlosis a’r Fanyleb Gwasanaeth ar gyfer Cymru er mwyn cynnwys y gwersi gwerthfawr a ddysgwyd o’r pandemig Covid-19 a’r rhaglenni a sefydlwyd i groesawu’r rheini sy’n ceisio lloches yng Nghymru.
  • Bydd y Grŵp TB Cymru Gyfan yn argymell y Strategaeth Twbercwlosis ddiweddaraf a’r Fanyleb Gwasanaeth ar gyfer Cymru i’r Grŵp Goruchwylio Dileu TB i’w hadolygu a’u cefnogi fel y trywydd ar gyfer gwaith yng Nghymru.
  • Bydd y Grŵp TB Cymru Gyfan yn datblygu Cynllun Gweithredu TB Cenedlaethol i’w gytuno gan y Grŵp Goruchwylio Dileu TB. Bydd hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod y camau a gytunwyd yn cael eu gweithredu.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ein hymdrechion i atal a rheoli TB, a’n hymrwymiad i ddileu TB fel bygythiad i iechyd y cyhoedd yn y pen draw. 

[1] Reports of cases of TB to UK enhanced tuberculosis surveillance systems, 2000 to 2021 - GOV.UK (www.gov.uk)