Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae pedair gwlad y DU yn rheoli mater sydd wedi codi o ran cyflenwi cynhyrchion a ddefnyddir i gasglu gwaed. Mae gan y GIG brofiad helaeth o ddelio â materion cyflenwi meddygol, ac maent yn gweithio i barhau i ddarparu’r gofal o ansawdd uchel i gleifion y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl.  Mae GIG Cymru yn arwain yr ymateb yng Nghymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru, ac maent yn gweithio'n agos gyda chenhedloedd eraill i roi camau lliniaru ar waith gan gynnwys dod o hyd i ddewisiadau sy’n addas yn glinigol yn lle’r cynhyrchion yr effeithir arnynt.

Er mwyn cadw cyflenwadau ar gyfer pobl sydd angen profion gwaed ar frys, cyhoeddodd y GIG ganllawiau clinigol i leihau nifer y profion nad ydynt yn rhai brys yn glinigol.  Roedd arbenigwyr o Gymru yn rhan o Grŵp Cyfeirio Clinigol y DU a gymeradwyodd y canllawiau.  Diogelwch cleifion yw’r flaenoriaeth o hyd, ac ni fyddai prawf yn cael ei ohirio oni bai bod y GIG wedi asesu ei bod yn glinigol ddiogel gwneud hynny. Dylai pobl sydd angen gofal brys barhau i'w geisio fel arfer.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.