Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn fy natganiad ar 25 Ionawr 2023, rhoddais gadarnhad fy mod wedi derbyn argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) i newid y cynnig cyffredinol o 'adael neb ar ôl' o dan y rhaglen frechu COVID-19. Gallaf yn awr gynnig rhagor o fanylion ynghylch goblygiadau’r cyhoeddiad hwnnw i’r trefniadau gweithredol yng Nghymru.

Mae’r boblogaeth wedi meithrin lefel uchel o imiwnedd dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf ac, wrth inni symud o ymateb i argyfwng y pandemig tuag at ddull ‘busnes fel arfer’, mwy cynaliadwy, byddwn yn gweithredu fel a ganlyn:

  • Bydd y cynnig o ddau ddos cychwynnol o’r cwrs sylfaenol cyffredinol o frechlyn, a gynigiwyd o fis Rhagfyr 2020 i'r holl boblogaeth dros 5 oed, yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023
  • Bydd y cynnig o ddos atgyfnerthu cyffredinol (trydydd dos), a gynigiwyd o hydref 2021 i’r holl boblogaeth dros 5 oed, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023

Mae hyn yn golygu bod gan y rhai rhwng 5 a 49 oed sydd heb gael eu cwrs sylfaenol neu eu dos atgyfnerthu yn 2021 tan y dyddiadau hynny i fanteisio ar y cynigion hyn.

Nid yw hyn yn arwydd bod y rhaglen frechu COVID-19 yn cael ei chau. Rydym yn disgwyl i frechiadau COVID-19 barhau i fod yn nodwedd o'n rhaglen frechu yng Nghymru. Bydd unigolion sy'n datblygu cyflwr iechyd newydd sy'n eu rhoi mewn grŵp risg glinigol, sydd heb gael eu cwrs sylfaenol a/neu eu dos atgyfnerthu eto, yn dal i allu cael eu brechu yn ystod ffenestr nesaf yr ymgyrch, neu’n gynharach na hynny ar gyngor clinigydd.

At hynny, fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, bydd unigolion sydd mewn mwy o berygl (fel y pennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu) yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu arall yn hydref 2023. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill ar hyn o bryd i gynnal rhaglen atgyfnerthu bosibl yng ngwanwyn 2023, yn amodol ar gyngor a ryddheir yn fuan gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Cael eich brechu yw’r ffordd orau o hyd o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19. Byddwn yn annog pawb sy'n gymwys ond sydd heb gael eu cwrs sylfaenol eto na'r dos atgyfnerthu gwreiddiol yn 2021 i ofyn am gael eu brechu cyn i'r cynigion cyffredinol hyn ddod i ben.