Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ceir saith nod llesiant i Gymru sy’n disgrifio gwlad sy’n gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wneud ein cyfraniad ni at y nodau hyn, a helpu i sicrhau bod y fframwaith llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i ysgogi penderfyniadau gwell ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys tri mesur sy’n helpu i roi dealltwriaeth gyffredin o’n gwlad, sef y dangosyddion cenedlaethol sy’n mesur cynnydd, y cerrig milltir cenedlaethol sy’n disgrifio graddfa a chyflymder newid, a’r adroddiad tueddiadau’r dyfodol sy’n nodi’r ffactorau a allai effeithio ar y cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Gyda’i gilydd, bydd y tri mesur hyn yn helpu i lunio dyfodol Cymru.

I adlewyrchu'r tarfu a achoswyd gan y pandemig COVID-19, penderfynwyd yn 2021 y byddai’r cerrig milltir cenedlaethol yn cael eu datblygu mewn dau gam. Fis Rhagfyr diwethaf, gosodwyd naw carreg filltir genedlaethol gyntaf Cymru yn y Senedd yn yr meysydd lle'r oedd y pandemig yn effeithio'n llai ar y data ategol neu lle'r oeddem yn cynnig targed a oedd yn bodoli’n barod ac yr oedd cefnogaeth eang iddo.

Fe wnaethom ymrwymo hefyd i gyflwyno’r ail gyfres o gerrig milltir cenedlaethol erbyn diwedd 2022.

Heddiw, mae'n bleser mawr gennyf lansio ymgynghoriad ar yr ail gyfres o gerrig milltir cenedlaethol i Gymru a fydd yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol tuag at gyflawni'r nodau llesiant.

Mae'n cynnig wyth carreg filltir genedlaethol newydd a fydd yn helpu Gweinidogion Cymru i asesu cynnydd tuag at y nodau llesiant.

Datblygwyd y gwerthoedd drafft arfaethedig yn yr ymgynghoriad hwn drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r sefydliadau a'r unigolion sydd wedi cyfrannu hyd yma ac wedi ein helpu i lunio'r cynigion hyn.

Mae cynnydd tuag at y nodau llesiant yn dibynnu ar weithredu gan bawb yng Nghymru, ac yn enwedig y cyrff cyhoeddus hynny sydd â dyletswydd i gyflawni'r nodau llesiant. Bydd gosod cerrig milltir cenedlaethol yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol yn helpu i ysgogi cydweithio ac yn ein helpu ganolbwyntio o’r newydd ar gyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen.

Er mwyn cyflawni’r nodau llesiant, bydd angen i’r Llywodraeth, y sector cyhoeddus, busnesau, y trydydd sector a dinasyddion gyfrannu drwy weithredu.

Gallwch chi fod yn rhan o’r sgwrs bwysig hon drwy’r blog Llunio Dyfodol Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad ar yr ail gyfres o gerrig milltir yn agored o 21 Mehefin i 12 Medi 2022. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn llesiant Cymru i ymateb ac rwy’n edrych ymlaen at ystyried yr ymatebion.